Skip to main content

Hysbysiad preifatrwydd Garfan Anableddau Dysgu Cymhleth

Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion y Garfan Anableddau Dysgu Cymhleth

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw.  Mae cynnal y gwaith yma'n golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth. 

Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion y Garfan Anableddau Dysgu Cymhleth. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.

1. Pwy ydyn ni, beth rydyn ni'n ei wneud.

Mae CBS Rhondda Cynon Taf yn gweithio mewn partneriaeth ac mewn modd amlddisgyblaethol gyda Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg a Bae Abertawe i ddarparu'r gwasanaeth Anableddau Dysgu Cymhleth.

Rydyn ni'n darparu cymorth i oedolion ag anableddau dysgu cymhleth. Rydyn ni'n gwneud hyn trwy gynnal asesiad cychwynnol i sefydlu'r ffordd orau o gefnogi'ch anghenion. Byddwn ni'n adolygu ac yn asesu'r cymorth sydd wedi'i roi ar waith i chi yn rheolaidd er mwyn sicrhau ei fod yn dal yn addas ar eich cyfer chi, gan ei addasu yn ôl yr angen.

2.  Pa fath o wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei chadw ac am bwy?

Mae'r data rydyn ni'n ei brosesu yn ymwneud â'n defnyddwyr gwasanaeth a'u teuluoedd. Mae modd i'r wybodaeth rydyn ni'n ei brosesu gynnwys, ond nid yw'n gyfyngedig i:

Defnyddiwr y Gwasanaeth

  • Enw
  • Dyddiad geni
  • Cyfeiriad
  • Manylion cyswllt gan gynnwys rhifau ffôn a chyfeiriadau e-bost
  • Manylion yn ymwneud â'ch anabledd dysgu, a all hefyd gynnwys gwybodaeth iechyd ychwanegol i'n helpu i gynnal ein hasesiad
  • enw, cyfeiriad, manylion cyswllt eich meddyg teulu
  • manylion canlyniadau unrhyw asesiadau sydd wedi'u cynnal

Teulu / Cynhaliwr

  • Enw
  • Dyddiad geni
  • Cyfeiriad
  • Manylion cyswllt gan gynnwys rhifau ffôn a chyfeiriadau e-bost
  • Perthynas â defnyddiwr y gwasanaeth

3. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?

Rydyn ni'n casglu'ch gwybodaeth bersonol gan ddefnyddio un o'r dulliau canlynol. Naill ai:

  • Atgyfeiriadau gan Garfan Un Pwynt Mynediad y Cyngor (Hysbysiad Preifatrwydd Un Pwynt Mynediad), neu;
  • Atgyfeiriad gan y Gwasanaethau i Blant os ydych chi'n symud o'r gwasanaeth i Blant i'r Gwasanaeth i Oedolion.  


4.  
Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol? 

Byddwn ni'n defnyddio'r holl wybodaeth a ddarparwyd i ni yn yr atgyfeiriad, a'r wybodaeth rydyn ni wedi'i chasglu yn rhan o'n hasesiad, i sicrhau bod y cymorth priodol yn cael ei ddarparu i chi.

Gall hyn gynnwys atgyfeiriad i'n sefydliadua fel, ALC neu DRIVE.

Byddwn ni'n cofnodi'r cymorth sydd ei angen arnoch chi yn rhan o'r cynllun gofal y byddwn ni'n ei adolygu, ei asesu a'i addasu yn rheolaidd yn ôl yr angen.

5. Beth yw'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?

Mae'r ddeddfwriaeth Diogelu Data yn nodi ein bod ni'n cael defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol dim ond lle mae gyda ni reswm priodol a chyfreithlon dros wneud hynny.

Mae ein sylfaen gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth bersonol er mwyn cynnig gwasanaeth cymorth yn y cartref i chi ac i fodloni gofynion y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) fel a ganlyn:

Gwybodaeth Bersonol:

Erthygl 6 1. (c), (e) – i gyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol a statudol o dan:

  • Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
  • Deddf Iechyd Meddwl 1983     
  • Mesur Iechyd Meddwl 2010
  • Y Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005

Gwybodaeth Categori Arbennig (h.y. gwybodaeth am hil, tarddiad ethnig, gwleidyddiaeth, crefydd, aelodaeth undeb llafur, geneteg, biometreg, iechyd, bywyd neu gyfeiriadedd rhyw):

Erthygl 9 2. (g) - i gyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol a statudol o dan:

  • Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Erthygl 9 2.(h) - Cefnogi darparu meddygaeth ataliol neu alwedigaethol, diagnosis meddygol, darparu triniaeth iechyd neu ofal cymdeithasol neu reoli systemau a gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Sylwch, er bod modd i ni ofyn am eich caniatâd (o dan gyfraith gyffredin Dyletswydd Cyfrinachedd a'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014) i rannu eich gwybodaeth bersonol ag eraill sy'n ymwneud â'ch cymorth, dyw caniatâd ddim yn sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'ch gwybodaeth o dan y gyfraith diogelu data. 

6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall?

Bydd yr wybodaeth rydych chi ac eraill yn ei rhannu â ni yn cael ei chofnodi yn eich asesiad a'ch cynllun gofal a chymorth a thrwy ein system cofnodi achosion.

Bydd peth o'r wybodaeth yma yn cael ei rhannu gyda'r staff a allai fod angen cynnal asesiad pellach neu ddarparu cefnogaeth i chi.

Mae rhannu'r wybodaeth yn eich asesiad yn lleihau'r angen i chi ddarparu'r un wybodaeth dro ar ôl tro i'r staff neu'r asiantaethau sy'n ymwneud â'ch gofal a'ch cymorth. Dyw hyn ddim yn golygu y byddwn yn rhannu popeth rydych chi ac eraill wedi'i rannu gyda ni. Byddwn ni ond yn rhannu'r wybodaeth sydd ei hangen i roi'r cymorth sydd ei angen arnoch chi

Byddwn ond yn rhannu eich gwybodaeth bersonol ag adrannau eraill y Cyngor neu sefydliadau allanol sy'n gweithio mewn partneriaeth â'r Cyngor a Gofal Cymdeithasol y Gwasanaeth Cymuned a Gwasanaethau i Blant. Mae modd i hyn gynnwys ond nid yw'n gyfyngedig i:

  • Gweithiwr Cymdeithasol
  • Meddyg Teulu
  • Nyrs
  • Yr Heddlu
  • unrhyw berson neu sefydliad arall a all helpu i'ch cefnogi, er enghraifft, yr adran tai

7. Am ba mor hir gaiff fy ngwybodaeth ei chadw?

Mae gwybodaeth yn cael ei chadw am 7 mlynedd yn dilyn marwolaeth unigoly

Mae cofnodion sy'n ymwneud ag Oedolion yn cael eu cadw at ddibenion gweinyddol am o leiaf 7 mlynedd ar ôl i'w cysylltiad ag unrhyw wasanaeth gofal cymdeithasol ddod i ben. 

Mae cofnodion am anghenion iechyd unigolyn yn cael eu cadw am o leiaf 10 mlynedd ar ôl i'w gysylltiad ag unrhyw wasanaeth gofal cymdeithasol ddod i ben.

Am ragor o wybodaeth, gweler Polisi ac Amserlen Cadw Gwybodaeth a Chael Gwared ar Wybodaeth y Cyngor 

8.  Eich gwybodaeth, eich hawliau

Mae'r Rheoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.

Cliciwch yma  am ragor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw. 

9. Cysylltu â ni

Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:

  • Drwy e-bost: gwasanaethaucymdeithasol@rctcbc.gov.uk
  • Drwy ffonio: 01443 425527
  • Drwy anfon llythyr: Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion, Tŷ Elái, Dwyrain Dinas Isaf, Trewiliam, RhCT, CF40 1NY