Sut byddwn ni'n defnyddio eich gwybodaeth bersonol

Mae'r Cyngor yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau i unigolion sy'n byw o fewn ein cymunedau lleol, ac ymwelwyr â'r ardal. Wrth gyflwyno'r gwasanaethau yma, mae'n ofynnol i'r Cyngor gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol ac weithiau gwybodaeth sensitif amdanoch chi.

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gydymffurfio â’r gyfraith ynglŷn â diogelu data. Mae gofalu am eich gwybodaeth bersonol yn bwysig iawn i ni ac rydyn ni eisiau ichi fod yn hyderus bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei chadw'n ddiogel. Rydyn ni hefyd eisiau ichi ddeall sut rydyn ni’n ei defnyddio i ddarparu gwasanaethau i chi.

Mae'r tudalennau Diogelu Data ar y wefan yma yn rhoi gwybodaeth i chi am sut a pham mae modd i’r Cyngor ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol ynghyd â'r ffyrdd mae eich preifatrwydd yn cael ei ddiogelu. Weithiau, mae pobl yn cyfeirio at hyn fel 'hysbysiad preifatrwydd', ond mae'n well gennym ddefnyddio'r term 'sut rydyn ni’n defnyddio eich gwybodaeth bersonol'.

Yn y tudalennau yma, rydyn ni’n defnyddio cyfeiriadau at ‘ni’, neu ‘ein’; mae’r datganiadau yma i gyd yn ymwneud a Chyngor Bwrdeistref Siriol Rhondda Cynon Taf, ac rydyn ni wedi defnyddio’r termau yma mewn rhai rhannau i geisio’i gwneud yn haws i chi eu darllen.

Yn ychwanegol at yr wybodaeth gyffredinol rydyn ni wedi’i rhoi yn yr adran ‘cwestiynau cyffredin’, mae'n bwysig ein bod yn rhoi gwybodaeth fanwl i unigolion am sut y caiff gwybodaeth bersonol ei defnyddio wrth dderbyn gwasanaethau penodol. Rydyn ni’n cyfeirio at y rhain yn ‘Hysbysiadau Preifatrwydd Gwasanaethau'

Publication-scheme

Rhoi atebion i gwestiynau cyffredin am sut mae’r Cyngor yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol. 

 

Publication-scheme

Rhoi gwybodaeth fanylach am sut y mae'r Cyngor yn casglu, yn defnyddio ac yn rhannu eich gwybodaeth bersonol i ddarparu gwasanaethau penodol.