Skip to main content

Pa gyfleusterau a chymorth sydd ar gael?

Faint fydda i'n cael fy nhalu?

Mae pob Cynghorydd yn derbyn cyflog sylfaenol. Mae gan gynghorwyr hefyd hawl i gael lwfansau teithio. Yn ogystal â hynny, mae modd i chi hawlio'ch cyflog wrth gymryd absenoldeb teuluol e.e. absenoldeb rhiant.

Bydd y cynghorwyr hynny sy'n ymgymryd â chyfrifoldebau ychwanegol, e.e. bod yn aelod o'r Cabinet, yn gadeirydd pwyllgor neu'n arweinydd eu grŵp gwleidyddol, yn derbyn taliad ychwanegol. Gelwir hyn yn 'gyflog uwch' ac mae'n cael ei gyfrifo ar sail maint y Cyngor. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.Cabinet-Meeting

Mae gen i anabledd, a fydd y Cyngor yn darparu'r cymorth sydd ei angen arnaf?

Bydd. Bydd y Cyngor yn eich cefnogi ac yn darparu ar gyfer eich anabledd chi. Bydd y Cyngor yn darparu'r trefniadau mynediad sydd eu hangen arnoch chi. Rhaid i adeiladau'r Cyngor fod yn hygyrch i bobl anabl, yn unol â'r gyfraith. Yn ddiweddar, mae Siambr y Cyngor wedi'i hadnewyddu er mwyn sicrhau ei bod yn fwy hygyrch i bawb.

Mae gan ymgeiswyr anabl hawl i gyllid i'w helpu gydag unrhyw gostau ychwanegol sy'n gysylltiedig â'u nam a allai fod yn rhwystr iddynt sefyll fel cynghorydd. 

Mae cyfarfodydd y Cyngor yn cael eu cynnal yn hybrid, sy'n golygu nad oes angen teithio'n bell i fynychu cyfarfod.

Mae gen i blant, a fydd y Cyngor yn fy nghefnogi gyda gofal plant a threfniadau hyblyg?

Mae gan gynghorwyr hawl i gyfraniad tuag at gostau gofal i'r rhai maen nhw'n gofalu amdanyn nhw, neu am eu cefnogaeth bersonol eu hunain. Trefnir yr amserlen ar gyfer cyfarfodydd y Cyngor er mwyn osgoi gwyliau ysgol lle bo hynny'n bosibl.

Faint o amser fydd angen i fi ei neilltuo i'r rôl?

Mae cynghorwyr, ar gyfartaledd, yn ymrwymo i'r hyn sy'n cyfateb i dri diwrnod yr wythnos i'r rôl. Mae modd i hyn fod yn heriol ond mae llawer o gynghorwyr yn gallu ei wneud. Nid yw holl ymrwymiadau'r Cyngor yn ystod y diwrnod gwaith. Mae modd cynnal pethau gyda'r nos ac ar benwythnosau. Bydd y Cyngor yn gwneud popeth o fewn ei allu i ddarparu ar eich cyfer chi. Mae modd i ni geisio amrywio amseroedd cyfarfodydd er mwyn i chi allu dod. Rydyn ni'n cynnal arolwg blynyddol i bennu amser cychwyn cyfarfodydd ynghyd â threfniadau hyblyg ar gyfer mynediad o bell i gyfarfodydd lle bo hynny'n bosibl.

Mae modd trafod eich cyfrifoldebau a'ch ymrwymiadau gydag arweinwyr grŵp i ystyried addasu'r llwyth gwaith i gyd-fynd â'ch anghenion (os yw'n berthnasol). Gallwch chi fod yn glir iawn gyda'ch etholwyr am yr amseroedd rydych chi ar gael i allu cwrdd â nhw, cymryd eu galwadau ac ymateb i e-byst.

Rydw i wedi gweld y gall rhai Cynghorwyr, fel gwleidyddion amlwg, gael eu cam-drin ar gyfryngau cymdeithasol. A allai hyn ddigwydd i fi?

Yn anffodus, mae rhai Aelodau wedi profi hyn; fodd bynnag, mae pob Cyngor lleol yn gweithio gyda'i gilydd i ddarparu cefnogaeth i aelodau sy'n profi unrhyw gamdriniaeth a hefyd i ymgyrchu yn ei herbyn. Mae'r Cyngor yn darparu hyfforddiant Cyfryngau Cymdeithasol pwrpasol ac yn darparu enghreifftiau o arfer gorau i Gynghorwyr. Mae gan y Cyngor bolisi Cyfryngau Cymdeithasol pwrpasol hefyd.

Pa gyfleusterau ac offer fydd ar gael i fi?

Bydd gan bob grŵp gwleidyddol fynediad i ystafell breifat ar y safle yn adeiladau'r Cyngor i gynnal cyfarfodydd mewnol (os bydd cyfyngiadau Covid yn caniatáu hynny). Yn ddiweddar, adnewyddwyd ac addaswyd Siambr y Cyngor. Mae'r Siambr bellach yn lle modern a hygyrch i'r Aelodau fynychu cyfarfodydd. Bydd pob Cynghorydd yn cael cymorth digidol wedi'i deilwra i'w anghenion, gan gynnwys cymorth gyda darpariaeth band eang.

Mae gan bob Cynghorydd hefyd gyfle i weithio gyda'r Swyddog Ymchwil yn Uned Busnes y Cyngor i gynorthwyo Cynghorwyr i ddatblygu eu gwaith.

A oes gyda fi'r cymwysterau neu'r sgiliau cywir?

Daw cynghorwyr o bob cefndir a gallu. Mae hyn yn bwysig er mwyn i'r Cynghorwyr allu cynrychioli eu cymunedau. Mae angen Cynghorwyr sydd ag ystod o brofiadau, cefndiroedd cyflogaeth a chymwysterau ar Gynghorau. Fel Aelod, bydd angen i chi allu deall adroddiadau y mae swyddogion y Cyngor yn eu hysgrifennu cyn i chi wneud penderfyniadau. Bydd disgwyl i chi hefyd wneud y rhan fwyaf o'ch gwaith ar gyfrifiadur a bod â sgiliau pobl da i weithio gyda phobl yn y gymuned. Yn ôl y rhan fwyaf o Aelodau, dealltwriaeth o'ch cymuned, parodrwydd i wrando a dysgu a rhywfaint o synnwyr cyffredin yw'r cyfan sydd eu hangen arnoch chi.

Bydd pob Cyngor yn rhedeg rhaglen ymsefydlu i aelodau newydd ddangos i chi pwy yw pwy, a rhaglen i'ch helpu chi i ddeall eich rôl, gweithdrefnau'r Cyngor a'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen arnoch chi, er enghraifft sut i gadeirio cyfarfod.RCT-Chambers

Bydd sesiynau hyfforddiant rheolaidd a pharhaus yn cael eu trefnu, gyda chyfuniad o sesiynau un i un neu fforymau agored. Mae modd addasu'r sesiynau i gyd-fynd â'ch anghenion a'ch gofynion i sicrhau bod gyda chi'r sgiliau cywir i gyflawni'r rôl.

Sut mae'r defnydd o Gymraeg yn cael ei annog yn y rôl?

Mae'r Cyngor yn gweithio'n galed i sicrhau ei fod yn cyd-fynd â Safonau'r Gymraeg. Mae dogfennau'r cyfarfodydd ar gael yn ddwyieithog yn unol â Safonau'r Gymraeg ac mae cyfieithu ar yr un pryd ar gael yn ystod y rhan fwyaf o gyfarfodydd.

Hoffwn gael rhywfaint o brofiad o fod yn Gynghorydd, sut alla i wneud hyn?

Os hoffech chi gael syniad o'r math o waith a wneir ar hyn o bryd mewn cyfarfodydd, mae modd i chi gael profiad cyn ymrwymo trwy ddod i sesiynau agored sy'n cael eu cynnal yn Siambr y Cyngor (os bydd Cyfyngiadau Covid yn caniatáu hynny). Bydd hyn yn caniatáu i ddarpar ymgeiswyr gael cipolwg ar sut mae cyfarfodydd yn cael eu cynnal ac yn eich galluogi chi i weld cyfleusterau Siambr y Cyngor.

Mae darpar ymgeiswyr hefyd yn cael eu hannog i edrych ar dudalennau gwe pob pwyllgor i ddeall gwaith y pwyllgorau gwahanol. Mae recordiadau o gyfarfodydd blaenorol ar gael i'w gweld ar-lein yma.