Mae gofyn i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf gytuno ar y Rhestr Cydnabyddiaeth Ariannol i Aelodau flynyddol, a'i chyhoeddi a'i chynnal. Mae'r atodlen yn nodi manylion taliadau penodol y mae'r Cyngor yn bwriadu eu talu i Aelodau Etholedig ac Aelodau Cyfetholedig, yn unol â lefelau tâl a lwfansau y mae Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn penderfynu arnyn nhw.
Mae'r Rhestr Cydnabyddiaeth Ariannol i Aelodau yn cynnig manylion o dâl Cynghorwyr, a hynny drwy Gyflog Sylfaenol, Uwch neu Ddinesig a ffioedd sy'n daladwy i Aelodau Cyfetholedig statudol. Mae'r Rhestr Cydnabyddiaeth Ariannol i Aelodau hefyd yn cynnig manylion o Lwfansau Gofal, Teithio a Chynnal sy'n daladwy i Gynghorwyr ac Aelodau Cyfetholedig statudol.
Caiff manylion am yr holl daliadau a lwfansau y mae'r Cyngor yn eu talu bob blwyddyn i bob cynghorydd a phob aelod cyfetholedig eu cyhoeddi ar y dudalen yma, yn dilyn bob blwyddyn ariannol, a chyn 30 Medi.
Mae rhagor o wybodaeth ar wefan Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.