Skip to main content

Beth yw rôl y Cyngor?

Mae Cynghorwyr yn cael eu hethol i gynrychioli eu cymuned leol wrth redeg eu Cyngor lleol. Mae Cynghorwyr yn helpu i benderfynu sut mae gwasanaethau lleol yn cael eu darparu, eu hariannu a'u blaenoriaethu. Mae Cynghorwyr yn gweithio gyda gweithwyr y Cyngor i sicrhau bod gwasanaethau'n berthnasol ac yn cael eu darparu'n effeithiol.

Mae bod yn Gynghorydd yn fath arbennig o wasanaeth cyhoeddus sy'n eich rhoi mewn sefyllfa unigryw lle gallwch chi wneud penderfyniadau am faterion lleol a gwella ansawdd bywyd pobl yn Rhondda Cynon Taf. Mae'n rhoi cyfle i chi helpu'ch cymuned leol a bod yn rhan o garfan sy'n darparu gwasanaethau allweddol yn eich ardal chi.

Mae gwaith Cynghorydd yn cynnwys:

  • cynrychioli eich ward leol
  • gwneud penderfyniadau
  • adolygu a datblygu polisïau a strategaeth
  • gwaith trosolwg a chraffu
  • dyletswyddau rheoleiddio
  • arweinyddiaeth gymunedol ac ymgysylltu â'r gymuned.