Skip to main content

Beth yw'r meini prawf ar gyfer dod yn Gynghorydd?

I ddod yn gynghorydd gyda Chyngor Rhondda Cynon Taf, rhaid i chi fod:

• yn 18 oed neu'n hŷn 

• yn ddinesydd Prydeinig, yn ddinesydd cymwys y Gymanwlad, yn ddinesydd unrhyw aelod-wladwriaeth yr Undeb Ewropeaidd neu'n ddinesydd tramor cymwys 

a rhaid i chi fodloni o leiaf un o'r pedwar canlynol

  • Rydych wedi eich cofrestru, a byddwch yn parhau i fod wedi eich cofrestru fel etholwr llywodraeth leol ar gyfer yr ardal awdurdod lleol rydych yn dymuno sefyll ar ei chyfer o ddiwrnod eich enwebu ymlaen. 
  • Rydych wedi meddiannu, fel perchennog neu denant, unrhyw dir neu safle arall yn yr ardal awdurdod lleol yn ystod y 12 mis cyfan cyn diwrnod eich enwebu a diwrnod yr etholiad. 
  • Mae eich prif neu unig le gwaith yn ystod y 12 mis cyn diwrnod eich enwebu a diwrnod yr etholiad wedi bod yn yr ardal awdurdod lleol. 
  • Rydych wedi byw yn yr ardal awdurdod lleol am y 12 mis cyfan cyn diwrnod eich enwebu a diwrnod yr etholiad.

I asesu a ydych chi'n bodloni'r meini prawf i ddod yn gynghorydd, cyfeiriwch at Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, sy'n amlinellu manylion y cymhwyster yn llawn.

Does dim modd i chi fod yn Gynghorydd os ydych chi:

  • Yn gweithio i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf; (mae hyn ond yn berthnasol i Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol - nid Cynghorwyr Cymuned). Serch hynny, dydych chi ddim wedi'ch anghymhwyso rhag sefyll yn ymgeisydd mewn etholiad i awdurdod lleol*; neu
  • Yn dal swydd â chyfyngiadau gwleidyddol; neu
  • Yn destun gorchymyn methdaliad ar hyn o bryd; neu
  • Wedi cael eich anghymhwyso o dan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (sy'n cynnwys arferion etholiadol anghyfreithlon neu lwgr); neu
  • Wedi treulio cyfnod yn y carchar (gan gynnwys dedfryd ohiriedig) o dri mis neu ragor yn ystod y 5 mlynedd diwethaf; neu
  • Wedi cael eich anghymhwyso o dan ddeddfwriaeth sy'n ymwneud ag arferion anghyfreithlon neu lwgr
  • Rydych chi'n ddarostyngedig i ofynion hysbysu yn unol â Rhan 2 o'r Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003 ac mae'r cyfnod cyffredin sy'n cael ei ganiatáu ar gyfer cyflwyno apêl neu gais mewn perthynas â'r gorchymyn neu hysbysiad wedi dod i ben.

*Os cewch chi eich ethol, dydy'r anghymhwysiad rhag gweithio i'r awdurdod lleol ddim yn berthnasol i unrhyw adeg cyn i chi ddatgan derbyn swydd. Rhaid eich bod chi wedi ymddiswyddo o'ch swydd cyn llofnodi'r datganiad derbyn swydd.

Mae modd dod o hyd i ragor o ganllawiau ac adnoddau ar wefan Y Comisiwn Etholiadol. Ymgeiswyr ac asiantau mewn etholiadau lleol yng Nghymru | Electoral Commission