Grantiau i Fusnesau a'r Trydydd Sector

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gefnogi busnesau, datblygu'r economi leol, adfywio canol trefi ac annog buddsoddi sector preifat. Mae ystod o raglenni buddsoddi ariannol ar gael yn rhan o'r ymrwymiad yma trwy gefnogaeth Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a Grant Creu Lleoedd Canol Trefi Llywodraeth Cymru.

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn ganolog i agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU. Bydd y gronfa yn darparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer buddsoddiadau lleol erbyn mis Mawrth 2025. Diben y gronfa yw annog trigolion i ymfalchïo yn eu cymunedau lleol a chynnig cyfleoedd bywyd gwell i bobl ledled y DU trwy fuddsoddi mewn cymunedau a chefnogi busnesau, pobl a sgiliau.

Dyma'r pedair rhaglen sydd ar gael:

Mae’r grant yma ar gael i gefnogi busnesau lleol cynaliadwy i gael eu sefydlu, i dyfu neu ddod yn fwy amrywiol gan gyfrannu at economi leol gref a lliwgar

Grant i ddarparu cefnogaeth ar gyfer mân welliannau a gwaith cynnal a chadw a fydd yn gwella edrychiad allanol eiddo canol trefi.

Grant i gefnogi gwelliannau ar raddfa fwy (allanol yn bennaf) i adeiladau masnachol gydag effeithlonrwydd ynni yn gynhenid ​​i ddyluniad.

Mae'r grant ar gyfer targedu adeiladau sydd ag arwynebedd llawr gwag yng nghanol trefi allweddol a lleoliadau strategol eraill lle gwelir methiant difrifol yn y farchnad

Mae Cronfa Deddf Eglwysi Cymru ar gael i eglwysi, capeli, lleoedd addoliad cyhoeddus, grwpiau cymunedol ac elusennol sy'n gweithredu yn ardaloedd Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Merthyr a Phen-y-bont ar Ogwr.