Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Taith Taf

 
 
taffs-trail-box (1)

Yn rhan o Lwybr 8 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, mae'r daith hyfryd yma yn mynd o Gaerdydd, trwy galon Rhondda Cynon Taf ac yn gorffen ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

P'un a ydych chi eisiau taith epig yn cerdded pellter hir, tro ling-di-long neu daith feicio neu sgwter hamddenol ar hyd rhannau o'r llwybr, mae gan Daith Taf ddigonedd o filltiroedd i chi eu harchwilio. Mae digon o lefydd i stopio am fwyd, diod neu seibiant ac mae'r llwybr yn mynd heibio i Barc Coffa Ynysangharad (mae'n werth ymweld ag ef!).

Mae'r llwybr 55-milltir yn cyrraedd Rhondda Cynon Taf yn Ffynnon Taf, yn mynd trwy Drefforest a Phontypridd cyn ymadael â'r fwrdeistref sirol yn Abercynon. 

Mae'r llwybr pwrpasol yn ddi-draffig ar y cyfan, ond mae tirwedd gymysg mewn mannau.

  • Addasrwydd: Cerddwyr
  • Pellter: Tua 55 milltir / 88.5 km
  • Graddfa: Cymedrol/Anodd
  • Tirwedd: Amrywiol
  • Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol – Llwybr Cenedlaethol 8
  • *Mae'n dibynnu ar y pellter rydych chi'n ei deithio. 

Lawrlwytho
Taff trail leaflet - pdf