Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Taith Cynon

 
 
cynon-valley-box

Mae Taith Cynon yn dilyn Afon Cynon, o Hirwaun yn y gogledd i Abercynon yn y de. Mae'n rhan o'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol (Llwybr 478), gyda llwybr i Benderyn a Garwnant, Llwybr Beicio Blaenau'r Cymoedd (Llwybr 46) a Taith Taf (Llwybr 8). Mae rhan helaeth o'r llwybr heb draffig, ac mae llethrau graddol ar hyd y daith. Mae rhai rhannau ‘ar y ffordd’, yn benodol yng Nghwm-bach a Hirwaun. Mae'r llwybr ‘oddi ar y ffordd’ drwy Aberpennar, ger yr afon, wedi'i gwblhau erbyn hyn. Mae'r PDF sydd wedi'i atodi wedi'i gynllunio i argraffu ar ffurf A3.

  • Addasrwydd: Cerddwyr a beicwyr, cadeiriau olwyn a phramiau (ddim yn addas ar gyfer pramiau dwbl (â seddi ochr yn ochr))
  • Pellter: Tua 11 milltir / 19 k
  • Graddfa: Llwybr â tharmac yn bennaf – rhai rhannau ‘ar y ffordd’
  • Rhwystrau ‘K Barrier’

Lawrlwytho:
Cynon Trail - pdf