Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Hel achau

 

Ydy'ch gwreiddiau yng Nghymoedd De Cymru?

7calendarofprisoners

Cofrestr plwyf – rhestr carcharorion

Yn ystod hanner olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd pobl o dde Cymru yn mudo i bedwar ban byd, gan gynnwys Awstralia a Phatagonia – sydd, erbyn hyn, â'r boblogaeth fwyaf o Gymry y tu allan i Gymru.

O ganlyniad, mae Rhondda Cynon Taf yn ganolbwynt ar gyfer pobl ym mhedwar ban byd sy'n olrhain eu teulu.

 

Gadewch i ni eich helpu chi i ymchwilio'n ddyfnach!

Rhwng y 1850au a'r 1980au roedd ardal Rhondda Cynon Taf yn gartref y diwydiannau trwm yng Nghymru. Mudodd miloedd o bobl i'r ardal i weithio yn y pyllau glo a'r diwydiannau cysylltiedig.

Oedd eich cyndeidiau chi yn eu plith?

Mae ein Gwasanaeth Llyfrgelloedd ac Amgueddfeydd, a'r Adran Twristiaeth, yn cydweithio ag Archifau Morgannwg i geisio sicrhau bod gwaith hel achau yn haws i chi. Mae Troeon Treftadaeth (‘Route to Your Roots’) yn wefan newydd sy'n ceisio eich rhoi chi ar y trywydd cywir ar gyfer eich holl anghenion ymchwil lleol.

Beth am archwilio gwreiddiau eich teulu yng Nghwm Rhondda, Cwm Cynon ac ardal Taf–Elái?

Chwilio adnoddau'r llyfrgelloedd lleol neu gyflwyno ymholiad i'r llyfrgell gyfeirio