Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Amgueddfeydd

 
Crochendy Nantgarw yw'r crochendy hynaf sy'n dal i oroesi yn y Deyrnas Unedig. Mae'r crochendy yma wedi cynhyrchu eitemau sydd wedi addurno byrddau cinio teulu brenhinol Rwsia. 

Gall yr holl hynt a helynt ynglŷn â phont fwa sengl hiraf y byd, gyrfa gerddorol Syr Tom Jones, gwaith cyfansoddi'r Anthem Genedlaethol, a dewrder adeg rhyfel gael eu gwerthfawrogi yn Amgueddfa Pontypridd.

Dewch yn llu i Amgueddfa Cwm Cynon i ddysgu am hanes anhygoel y bobl a fu'n byw a gweithio yma. Rydyn ni hefyd yn arddangos celf 3D sydd wedi'i osod ar wal yn ein ddau fan arddangos dros dro. Mae'r gelf yma wedi cael ei chreu gan artistiaid lleol.
Profiad y Bathdy Brenhinol
Profiad y Bathdy Brenhinol yn Ne Cymru yw’r unig le yn y byd y gallwch weld darnau arian y Deyrnas Unedig yn cael eu gwneud.
Teyrnas y Grogiaid - Siop ac Amgueddfa
Mae Teyrnas y Grogiaid yn siop grefft deuluol, unigryw, sy'n cynnwys modelau bach wedi'u gwneud a'u paentio â llaw. 
Mae Neuadd y Dref Llantrisant yn ganolfan treftadaeth hynod o ddiddorol i ymwelwyr sy’n adrodd hanes arbennig y dref fechan hynafol ar y bryn.