Marchnad dan do Pontypridd, Stryd y Farchnad, Pontypridd, CF37 2ST
Siop a bar coffi teuluol annibynnol ym marchnad dan do hanesyddol Pontypridd yw Cortile Coffee.
Mae'r bar coffi yma'n cynnig awyrgylch lle mae modd ymlacio a mwynhau disgled gynnes mewn marchnad draddodiadol Gymreig. Siop yw hi sy'n cynnig te unigryw a choffi rhost o Gymru. Mae hefyd yn gweini prydau ysgafn a chacennau gwych sydd wedi'u gwneud o gynnyrch lleol.
Rydyn ni'n siwr y bydd siop Cortile's yn siwr o gynnig rhywbeth i dynnu dŵr o'ch dannedd! Mae gan y siop dros 20 math o goffi (y mae modd eu malu ar gais) a dros 25 math o de rhydd. Mae Cortile Coffee hefyd yn gwerthu te Teapigs a chwpanau eco Pokito y mae modd eu hailddefnyddio. Wrth ei bodd y mae'r siop o arddangos cynnyrch crefftwyr lleol. Mae'r siop yn gwerthu cynnyrch Gaggia - felly mae modd i chi brynu'r peiriannau coffi cartref gorau ac mae modd dod â'ch peiriant chi i'w drwsio.
Os ydych chi'n ymweld â Phontypridd ac rydych chi'n hoff o beirannau gwneud coffi anghyffredin a phopeth mae ei angen arnoch chi i fwydo'ch hoff de, mae rhaid i chi ymweld â Cortile Coffee!
Ardal eistedd agored Mae angen cadw lle ymlaen llaw ar gyfer stondinau gwybodaeth, ardal/man eistedd agored.
Achrediadau: Mae 1 aelod o staff wedi derbyn hyfforddiant Cyfeillion Dementia.