Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Dau ddiwrnod yn Rhondda Cynon Taf

 
2-Day-Visit-Featured

Mae'r daith deuddydd sy'n cael ei hawgrymu yn eich cymryd chi ar hyd a lled RhCT hardd, o ymyl Caerdydd i ymyl Parc Cenedlaethol trawiadol Bannau Brycheiniog.

Dirwnod 1

Arghosfa 1 - Amgueddfa Crochendy Nantgarw

Dechreuwch eich diwrnod yn Amgueddfa Crochendy Nantgarw. Mae croeso cynnes i grwpiau o hyd at ddeugain o bobl ar gyfer teithiau tywys gan gynnwys arddangosiadau gwneud porslen a phibellau. Mae Amgueddfa Crochendy Nantgarw yn gartref i borslen enwog Nantgarw a dyma'r unig waith porslen o'r 19eg ganrif sy'n goroesi yn y Deyrnas Unedig. Ar achlysuron prin pan mae darnau o borslen Nantgarw yn ymddangos mewn arwerthiannau, maen nhw'n gallu gwerthu am ddegau o filoedd o bunnoedd. 

Arhosfa 2 - Gwesty Gwledig Tŷ Newydd

Ymlaciwch yn amgylchedd hardd Gwesty Gwledig Tŷ Newydd lle cewch fwynhau cinio ym Mwyty Caradog.

Arhosfa 3 - Distyllfa Penderyn

Wedi'i leoli ym mhentref hanesyddol Penderyn ar odre Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mae Distyllfa Penderyn yn cynhyrchu chwisgi a gwirod brag unigol sydd wedi ennill gwobrau ac sy'n cael eu gwneud gan ddefnyddio cyflenwad ffres naturiol y safle o ddŵr ffynnon a'i werthu ledled y byd. Ewch ar y daith tywysedig a blaswch gynnyrch y Bar Blasu.

Arhosfa 4 - Gwesty'r Parc Treftadaeth

Arhoswch dros nos yng nghanol Cwm Rhondda yng Ngwesty'r Parc Treftadaeth. Mae gwesty mewn lleoliad cyfleus drws nesaf i Daith Pyllau Glo Cymru. Mae ganddo amrywiaeth o ystafelloedd o rai uwchraddol i ystafelloedd traddodiadol.

Dirwnod 2

Arhosfa 1 - Taith Pyllau Glo Cymru

Dechreuwch ail ddiwrnod y daith Rondda Cynon Taf gyda thaith dwysedig drwy Daith Pyllau Glo Cymru ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda. Dilynwch y tywyswyr o dan y ddaear a gwrandewch ar eu straeon diddorol am fywyd glofaol yn y Cwm oedd ar un adeg yn pweru'r byd.

Arhosfa 2 - Gwesty Miskin Manor
Mae Gwesty Miskin Manor wedi sefyll mewn cefn gwlad prydferth ers y 10fed ganrif. Mewn lleoliad anhygoel, mae'r gwesty hanesyddol yn sefyll mewn 25 erw o diroedd sydd wedi ennill gwobrau. Mae munudau i ffwrdd o'r M4 ac o fewn cyrraedd hawdd i Gaerdydd ac Abertawe.

Arhosfa 3 - Gwinllan Llanerch

Mae Gwinllan Llanerch o fewn cyrraedd hawdd i Westy Miskin Manor ac mae wedi'i lleoli ychydig dros ffin Rhondda Cynon Taf ym Mro Morgannwg. Dewch â'ch taith i ben yma gyda thaith anffurfiol ond addysgiadol o'r winllan a chyfle i flasu'r gwin. Mae'r daith yn rhoi hanes byr o'r winllan, gwin Cymreig a blasu gwin. Yna bydd taith dywysedig a chyfle i flasu  tri gwin llonydd gwahanol.