Mae Cronfa Cymru Actif yn cynnig grantiau sydd rhwng £300 a £50,000 i brosiectau yng Nghymru sy’n bwriadu gwneud o leiaf un o’r canlynol:
- Lleihau anghydraddoldeb
- Creu cynaliadwyedd tymor hir
- Cyflwyno ffyrdd newydd neu wahanol o weithredu
Er enghraifft, gellid defnyddio’r cyllid i wneud y canlynol:
- Gwella sgiliau gwirfoddolwyr lle mae gan glybiau fylchau mewn sgiliau neu brofiad
- Prynu offer sy'n galluogi mwy o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon
- Datblygu ffyrdd newydd neu wahanol o gyflwyno gweithgarwch corfforol
- Defnyddio technoleg i ymgysylltu â mwy o bobl
- Cyrraedd pobl sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
Pwy sy'n gymwys?
Rydych chi’n gymwys os ydych chi’n glwb neu’n sefydliad cymunedol yng Nghymru gyda phrosiect neu weithgaredd fel a ganlyn:
- Heb ddechrau eto
- I gael ei gynnal yng Nghymru ac i fod yn bennaf ar gyfer pobl sy’n byw yng Nghymru
- Nid er budd disgyblion ysgol lle mae’r prosiect yn cael ei gynnal yn unig
Sut mae cyllid yn cael ei ddyfarnu?
Y dyfarniad lleiaf yw £300 a'r dyfarniad mwyaf yw £50,000*.
Dyfernir y cyllid ar raddfa symudol:
- Grant o 100% hyd at £10,000
- Grant o 90% ar gyfer dyfarniadau rhwng £10,001 a £25,000
- Grant o 80% ar gyfer dyfarniadau rhwng £25,001 a £50,000
* Bydd angen i chi wneud cyfraniad o 10% ar gyfer grantiau o fwy na £10k neu 20% am fwy na £25k.
Cael cymorth gyda'ch cais
Anfonwch e-bost atom ni: ChwaraeonRhCT@rhondda-cynon-taf.gov.uk
I wneud cais neu am fanylion pellach
Ewch i www.chwaraeon.cymru/grantiau-a-chyllid/cronfacymruactif/