Skip to main content
 

Grantiau a Chyllid

Canllaw Grantiau Chwaraeon RhCT

Mae’r canllaw canlynol yn cynnwys rhestr o nifer o grantiau lleol a chenedlaethol y mae’n bosib y bydd eich clwb neu sefydliad chwaraeon yn gymwys ar eu cyfer nhw. Beth am fwrw golwg dros y rhestr a defnyddio’r manylion cyswllt i gael rhagor o wybodaeth?

CANLLAW GRANTIAU CHWARAEON RHCT


Cronfa Chwaraeon yn y Gymuned Chwaraeon RhCT

Mae'r gronfa yma ar gael ar gyfer unrhyw glwb chwaraeon cymunedol neu grŵp cymunedol Achrededig Chwaraeon RhCT yn Rhondda Cynon Taf sydd angen cymorth i ddatblygu cyfleoedd chwaraeon presennol neu newydd. Mae’r gronfa yma ar gyfer costau cychwyn hanfodol a sylfaenol hyd at tua £300. Ar gyfer prosiectau mwy byddwn ni'n gweithio gyda chi i wneud cais am gyllid allanol megis Cronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru. I ddarllen ein trosolwg o'r Gronfa cliciwch yma - Cronfa Chwaraeon yn y Gymuned Chwaraeon RhCT. I wneud cais cysylltwch â chwaraeonrhct@rctcbc.gov.uk.

Grantiau Chwaraeon Cymru

Mae Chwaraeon Cymru yn cynnig dau gyfle ariannu. 

Cronfa Cymru Actif: Mae hwn yn grant o rhwng £300 a £50,000 i'ch helpu i gael mwy o bobl i gymryd rhan, neu i'ch helpu i gadw pobl i gymryd rhan yn eich clwb neu weithgaredd i'r dyfodol. 

Cronfa Crowdfunder: Mae hwn yn gyfle i sicrhau arian cyfatebol ar gyfer gwelliannau rydych chi am eu gwneud yn eich clwb neu weithgaredd nad yw'n uniongyrchol gysylltiedig â chael pobl i chwarae neu gymryd rhan. 

 
Facebook-logo
Twitter-Logo-Sport-RCT
Instas
Instas