Skip to main content
 

Adran Iau (5-11 oed)

Cyngor ar gyfer y grŵp oedran yma

Mae ymchwil yn dangos bod plant segur yn debygol o ddod yn oedolion segur, gan eu rhoi mewn perygl o ddatblygu cyflyrau sy'n peryglu bywyd fel clefyd y galon a chanser. Dyma pam mae hi'n bwysig annog plant i gadw'n heini o oedran ifanc.

Mae angen i blant wneud dau fath o weithgaredd corfforol bob wythnos; ymarfer erobeg ac ymarferion i gryfhau eu cyhyrau a'u hesgyrn. Dylai plant fod yn weithgar am o leiaf 60 munud bob dydd, gan gymryd rhan mewn amrywiaeth o ymarferion er mwyn datblygu eu sgiliau symud, eu cyhyrau a'u hesgyrn.

I gael rhagor o wybodaeth sy'n ymwneud â gweithgaredd corfforol, ewch i: www.nhs.uk/live-well/exercise/physical-activity-guidelines-children-and-young-people

Llythrennedd Corfforol

Helpwch eich plentyn i fod yn llythrennog yn gorfforol. Helpwch eich plentyn i fod yn heini am oes.

Plentyn sy'n Llythrennog yn Gorfforol

Mwynhau ac Ysgogi ei hun – mae'r plentyn yn mwynhau gweithgarwch corfforol ac mae'n ysgogi ei hun i gymryd rhan (rydyn ni'n ei wneud yn hwyl ac yn cyflwyno llawer o gyfleoedd fel bod modd iddo ddod o hyd i weithgareddau mae'n eu hoffi)

Hyder – mae'r plentyn yn hyderus i gymryd rhan (rydyn ni'n ei annog ac yn creu amgylchedd diogel fydd yn meithrin ei hunan-barch a'i helpu i deimlo'n hyderus)

Gallu – mae ganddo'r sgiliau corfforol sydd eu hangen i gymryd rhan (trwy ymarfer ac addysgu, rydyn ni'n ei gefnogi i ddatblygu a meithrin sgiliau sy'n ei alluogi i gymryd rhan mewn ystod o weithgareddau)

Gwybodaeth a Dealltwriaeth – mae'n parchu gweithgarwch corfforol ac yn deall y manteision o ran iechyd (rydyn ni'n ei helpu i ddeall sut i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol yn ddiogel a pham ei bod hi'n bwysig yn rhan o ffordd iach o fyw)

Syniadau ar gyfer gweithgareddau

Gwnewch weithgaredd corfforol yn rhan o'u bywyd , drwy gerdded neu fynd ar sgwter i'r ysgol.

Byddwch yn weithgar fel teulu; ewch â'r ci am dro neu reidio'ch beiciau!

Anogwch nhw i fod yn weithgar yn yr ysgol drwy gymryd rhan mewn gemau ar yr iard chwarae yn ystod amser cinio neu mewn clybiau ar ôl yr ysgol.

Rhowch gyfle iddyn nhw wneud llawer o weithgareddau gwahanol:

  • Nofio
  • Chwaraeon: pêl-droed, rygbi, hoci, pêl-rwyd, pêl-fasged, badminton, gymnasteg, tennis ac ati
  • Hobïau gweithgar, e.e. sgowtiaid
  • Dawns a ffitrwydd
  • Sglefrfyrddio neu sglefrolio
  • Cerdded a beicio
  • Sgipio


Mae gennym rai adnoddau teuluol ar gael yma. Rydyn ni'n rhannu enghreifftiau o weithgareddau cyffrous ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol yn rheolaidd. Edrychwch ar @chwaraeonRhCT @sportrct ar Facebook, Twitter ac Instagram! Mae App gyda ni sy'n rhoi llawer o syniadau ar gyfer gweithgareddau dan do ac yn yr awyr agored, ynghyd â chyfarwyddiadau a fideos. Lawrlwythwch yr App Hamdden am Oes AM DDIM ac ychwanegu ChwaraeonRhCT/Sportrct fel 'clwb'.

Rhaglen Chwaraeon yn y Gymuned

Nod ein Rhaglen Chwaraeon Cymunedol yw darparu ystod o gyfleoedd i bobl o bob oedran a gallu, ledled Rhondda Cynon Taf. Mae’r rhaglen isod wedi’i datblygu ar y cyd ag amrywiaeth o bartneriaid gan gynnwys Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol a chlybiau/grwpiau cymunedol. Ni sy'n cynnal rhai o'r sesiynau ac mae sesiynau eraill yn cael eu cynnal gan ein partneriaid. Cliciwch yma am y rhaglen lawn.

Clybiau Chwaraeon Cymunedol

Mae dros 300 o glybiau chwaraeon yn Rhondda Cynon Taf. Mae mwyafrif y clybiau hyn yn darparu cyfleoedd i blant 5-11 oed. Rydyn ni'n gweithio gyda'r clybiau hyn i sicrhau eu bod yn darparu gweithgareddau hwyl, diogel a chynhwysol i blant.

CLICIWCH YMA i weld ein Map Clybiau Chwaraeon a dod o hyd i glybiau chwaraeon yn eich ardal chi.

Clybiau chwaraeon ysgolion cynradd

Rydyn ni'n cefnogi ysgolion cynradd i ddatblygu clybiau allgyrsiol yn ystod amser cinio ac ar ôl ysgol. Mae gan fwyafrif yr ysgolion cynradd amserlenni clybiau sy'n newid bob tymor. Mae'r clybiau hyn yn ffordd wych i'ch plentyn roi cynnig ar chwaraeon newydd a dysgu sgiliau sylfaenol. Siaradwch ag ysgol eich plentyn i ddarganfod beth mae'n ei gynnig.

Gwersi Nofio

Mae nofio yn sgìl bywyd wych. Bydd mynd â'ch plentyn i gael gwersi nofio o oedran ifanc yn datblygu ei hyder, lleihau ei ofn o ddŵr a'i baratoi ar gyfer gwersi nofio yn yr ysgol. Mae Hamdden am Oes RhCT yn cynnig gwersi nofio i blant 4 oed a hŷn. I gael rhagor o fanylion, ewch i: www.rctcbc.gov.uk/CY/Resident/SportsandLeisure/LeisureCentres/Swimming/SwimmingLessonsandActivities.aspx

Gwaith Cartref Corfforol / Cardiau Bingo

Er mwyn cefnogi teuluoedd ac ysgolion, rydyn ni wedi datblygu ystod o adnoddau sy'n anelu at gael plant i symud mwy. Mae llyfrynnau Gwaith Cartref Corfforol wedi cael eu rhoi i ysgolion cynradd fel ffordd i annog plant i wneud mwy o ymarfer corff pan maen nhw adref. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydyn ni wedi annog plant a'u teuluoedd i wneud mwy o ymarfer corff trwy osod heriau yn ystod gwyliau ysgol.

I weld ystod ein adnoddau, CLICIWCH YMA

 
Facebook-logo
Twitter-Logo-Sport-RCT
Instas
Instas