Skip to main content

Gwybodaeth Gyffredinol am Nofio

POLISI MYNEDIAD I'R PRIF BWLL

Rhaid i blant  sydd dan 8 oed fod yng nghwmni fel a ganlyn:

  • 1 oedolyn yn gwmni i bob plentyn dan 5 oed.
  • 1 oedolyn yn gwmni i bob dau o blant rhwng 5 ac 8 oed.
  • Caiff plant 8 oed neu'n hŷn fynd i'r pwll heb gwmni

Darllenwch Bolisi Mynediad i'r Pwll Bach ar gyfer CANOLFAN HAMDDEN LLANTRISANT

RHAID i blant dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn ar BOB adeg yn y pwll bach.

  • Rheolau ar gyfer plant dan 8 oed:
  • 1 oedolyn yn gwmni i ddau o blant dan 5 oed.
  • 1 oedolyn yn gwmni i dri o blant rhwng 5 ac 8 oed.

CYFLEUSTERAU NEWID

  • Ystafelloedd newid i ddynion, menywod a theuluoedd gyda rhai ciwbiclau.
  • Rydyn ni'n atgoffa rhieni/gwarcheidwaid bod rhaid i blant 8 oed neu'n hŷn ddefnyddio ystafelloedd newid sy'n briodol i'w rhyw. 
  • Ystafell newid i bobl anabl gyda chawod a chadair.
  • Cawodydd ar gyfer defnydd cyffredinol.
  • Cyfleusterau newid cewynnau.
  • Sychwyr gwallt.
  • Loceri.

MYNEDIAD I'R PYLLAU (POBL ANABL)

  • Peiriant codi ar gyfer defnyddio'r pwll.

CYMORTH CYNTAF AC IECHYD A DIOGELWCH

  • Aelod o staff sydd wedi cael hyfforddiant Cymorth Cyntaf ar y safle ar bob adeg.
  • Rhieni sy'n gyfrifol am eu plant drwy'r amser – rhaid dilyn y gymhareb pwll nofio.
  • Chi sy'n gyfrifol am eich eiddo personol yn y loceri neu rywle arall yn y ganolfan.

I WELLA'CH SESIWN NOFIO, RYDYN NI'N GOFYN I CHI WNEUD Y CANLYNOL;

  • Cael cawod cyn mynd i mewn i'r pwll.
  • Darllen a dilyn pob arwydd.
  • Ymgyfarwyddo'ch hun â dyfnder y pwll.
  • Dilyn cyfarwyddiadau achubwr bywydau ar bob adeg.
  • Gwisgo cymorth hynofedd ac aros lle mae modd i chi sefyll yn y pwll os oes rhaid.
  • Clymu gwallt hir yn ôl.
  • Rhaid i blant sy ddim wedi dysgu mynd i'r toiled wisgo cewyn nofio wrth ddefnyddio'r pwll. Mae pob canolfan yn gwerthu cewynnau nofio, ond mae'n bosibl y bydd lefelau stoc a meintiau yn gyfyngedig.

Golwg ar ein gwersi Nofio cwestiynau cyffredin