Skip to main content

Gwersi plymio

Gwersi plymio

DYSGU PLYMIO RHCT

Mae rhaglen 'Dysgu Plymio' Rhondda Cynon Taf yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Hamdden Sobell yn unig. Mae'n gyfres o ddosbarthiadau wedi'u strwythuro sy'n rhoi cyflwyniad clir a diogel i sgiliau plymio. Mae rhaglen 'Dysgu Plymio' RhCT yn cwmpasu lefel 1 i 5 o strwythur y rhaglen ranbarthol. Mae pob lefel yn y cynllun yn darparu set dda o nodau a thargedau ar gyfer dysgu'r gamp. Mae hyn yn seiliedig ar sgiliau allweddol ar bob lefel, gan ganiatáu ar gyfer datblygiad cynyddol.

Mae rhaglen 'Dysgu Plymio' RhCT wedi cael ei chysylltu'n ofalus â Fframwaith Cenedlaethol Nofio Cymru ar gyfer plymio.

Mae dosbarthiadau'n 30 munud o hyd ac maen nhw'n cael eu rheoli drwy system rheoli gwersi 'Learn2'. Mae'r system yma'n caniatáu i rieni gael mynediad at y porth cartref ar-lein, sy'n rhoi adborth rheolaidd ar gynnydd y plentyn.

CYNHYRCHION 'DYSGU PLYMIO' RHCT

Mae rhaglen Dysgu Plymio RhCT yn dilyn fframwaith Nofio Cymru sydd wedi'i gymeradwyo, sef rhaglen blymio lefel mynediad sy'n cysylltu â thon 4 y fframwaith Dysgu i nofio.

Bydd y rhaglen yn datblygu sgiliau dysgwr ymhellach ac yn eu paratoi ar gyfer gweithgareddau plymio ac mae'n arweiniad perffaith ar gyfer clybiau nofio a phlymio cystadleuol.

Dysgu Plymio 1-5 - Dosbarthiadau ar gyfer plant 6-12 oed. Mae rhaglen 'Dysgu Plymio' RhCT yn cwmpasu dosbarthiadau blaengar lle mae hyfforddwyr cymwys yn dilyn cynllun gwaith strwythuredig sy'n eich arwain trwy gynllun gwobrwyo cydnabyddedig yn genedlaethol.

Mae'r dosbarthiadau yn 30 munud o hyd ac mae'r cyrsiau'n cael eu rheoli drwy'r system rheoli gwersi 'Learn2'.

Dysgu Plymio i Bobl Ifainc - 13-16 oed
Dyma ddosbarth sydd wedi'i gynllunio'n arbennig ar gyfer pobl ifainc yn eu harddegau. Bydd yr hyfforddwr yn defnyddio Fframwaith Cenedlaethol Nofio Cymru, ond bydd y sesiynau yn fwy hyblyg ac yn rhoi cyfle i ddysgwyr weithio tuag at eu hamcanion personol.

Dysgu Plymio i Oedolion - 16 oed a hŷn
 Mae'r dosbarthiadau'n llawer o hwyl ac yn gyfle i chi gadw'n heini a chwrdd â phobl newydd. Bydd y sesiynau yn hyblyg ac yn caniatáu i chi weithio ar eich nodau eich hunan. Bydd cyfle i chi symud ymlaen at ein Prif Sgwad Hyfforddi i Oedolion.

GWERSYLLOEDD PLYMIO

Mae Gwersylloedd Plymio'n rhedeg yn ystod gwyliau'r ysgol. Maen nhw ar gael i blant sy'n mynychu Dosbarthiadau Dysgu Plymio neu i ddechreuwyr. Mae'r gwersylloedd yn cynnwys sesiynau pwll a sesiynau sych mewn campfa. Byddan nhw'n cael eu cynnal ar ddyddiau penodol yn ystod gwyliau'r ysgol yn unig.

Meini Prawf Mynediad

Meini Prawf Mynediad Lefel 1

• O leiaf 5 oed
 • Gallu nofio o leiaf 50 metr (heb gogls)
 • Hyderus yn y dŵr

Bydd symud ymlaen i'r Lefel nesaf o fewn y cynllun yn bosibl unwaith y bydd y meini prawf yn y Lefel flaenorol wedi'u cwblhau.

ATHRAWON A HYFFORDDWYR

Mae pob athro a hyfforddwr yn hollol gymwys a phroffesiynol.

Prisiau

Am ddim i Aelodau Hamdden am Oes

Debyd Uniongyrchol ar gael am £17.20 y mis ar gyfer 1 wers yr wythnos.

£45.00 am 10 sesiwn ymlaen llaw.

Mae rhaid i bob cwsmer newydd lenwi ffurflen gofrestru yn y ganolfan.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Chanolfan Hamdden Sobell.

Amserlen Gwersi Plymio

boxercise timetable
dydd llunamser
Canolfan Hamdden Sobell 19:00 - 19:30
dydd mawrth 
Canolfan Hamdden Sobell 16:00 - 17:30
Canolfan Hamdden Sobell 19:30 - 20:00
dydd mercher 
Canolfan Hamdden Sobell 16:00 - 18:00
Canolfan Hamdden Sobell 20:00 - 21:00
dydd iau 
Canolfan Hamdden Sobell 16:00 - 18:00
Canolfan Hamdden Sobell 16:30 - 17:00
dydd sul 
Canolfan Hamdden Sobell 15:30 - 16:30

Want to book this class?
folding-brochure
DOWNLOAD OUR LEISURE CENTRE TIMETABLES/PRICE LIST NOW!
download