Mae’r cynllun ‘Teulu a Ffrindiau' yn caniatáu bod chi, eich ffrindiau a'ch teulu yn cael gostyngiad o 20% ar bris eich aelodaeth. Gall hyd at 4 o bobl ymuno â'r cynllun.
Bydd gan bob person ei aelodaeth ei hun, sy'n seiliedig ar ei dewis aelodaeth personol neu, os ydyn nhw'n gymwys, aelodaeth consesiwn. Mae aelodaeth yn cyfuno o dan y cynllun Teulu a Ffrindiau. Mae'r gostyngiad yn gymwys i gostau misol eu haelodaeth wedi’u cyfuno. Rhaid i gyfanswm y gost gael ei dynnu allan o un cyfrif banc.
Gweler y gostyngiadau isod:
- Dau aelod 10%
- Tri aelod 15%
- Pedwar aelod 20%
Er enghraifft:
- Cwpl sy'n talu aelodaeth fisol cyfnod penodol (ymrwymedig). Bydd gostyngiad o 10% yn berthnasol. Bydd hyn yn cael ei dynnu o gyfanswm cyfunol yr aelodaeth, sef £74. Felly, cyfanswm eu haelodaeth bob mis fydd £66.60.
- Cwpl sy'n talu aelodaeth fisol cyfnod penodol (ymrwymedig) (£70 y mis) a 2 o blant sydd ag aelodaeth consesiwn cyfnod amhenodol '(dim ymrwymiad) (£51.30 y mis). Bydd gostyngiad o 20% yn gymwys i'r cyfanswm misol o £125.30. Felly, bydd defnydd diderfyn o’r cyfleusterau hamdden ar gyfer y teulu cyfan yn costio £100.24, sef tua £6 yr un, yr wythnos.
- Pedwar ffrind sy'n mynd i'r gampfa a dosbarthiadau sydd ag aelodaeth fisol cyfnod penodol. Bydd gostyngiad o 20% yn gymwys i gost yr aelodaeth gyfunol o £148. Felly, bydd taliadau debyd uniongyrchol misol yn costio £118.40, sef tua £6.50 y person, yr wythnos.