Mae Canolfan Hamdden Llanilltud Faerdref yn gyfleuster cymunedol sy'n cynnig amrywiaeth fawr o ddosbarthiadau ar gyfer pobl o bob oed. Byddwch chi'n siwr o weld dosbarth sydd at eich dant chi, a hynny ar garreg eich drws!
Mae dosbarthiadau'n cael eu cynnal yn y bore, y prynhawn a chyda'r nos. Efallai eich bod chi'n hoffi ymarfer y peth cyntaf yn y bore er mwyn deffro, neu gymryd rhan mewn dosbarth llawn hwyl ar ddiwedd diwrnod anodd. Beth bynnag yw'ch dewis chi, bydd Canolfan Hamdden Llanilltud Faerdref yn diwallu'ch anghenion.
Prisoedd
Aelodau Hamdden am Oes AM DDIM
Talu wrth ddefnyddio - £6.00
Gostyngiadau - £3.60