Skip to main content

Derbyn Disgyblion i'r Dosbarth Derbyn

Beth sydd angen i mi'i wneud?

Os yw'ch plentyn yn troi'n 4 oed cyn 1 Medi 2024 ac yn troi'n 5 oed rhwng 1 Medi 2024 a 31 Awst 2025

Rhaid i chi wneud cais am le yn y dosbarth Derbyn ar gyfer Medi 2024

Lleoedd yn y dosbarth Derbyn yn 2024 ar gyfer disgyblion a fydd yn troi'n 4 mlwydd oed cyn 1 Medi 2024.

  • Byddwn ni'n derbyn ceisiadau ar-lein rhwng 1 Medi 2023 a 10 Tachwedd 2023.
  • Byddwch chi'n derbyn canlyniad eich cais ar 16 Ebrill 2024.

Cyflwyno cais

Mae cyflwyno cais ar-lein yn syml. 

Nodwch - Bydd angen cyfeiriad e-bost dilys arnoch chi i wneud cais ar-lein.

Fydd y Porth Dinasyddion ddim yn gweithio rhwng 10.00pm a 12.00am (canol nos) bob nos.  Yn anffodus, fydd dim modd gwneud ceisiadau ar-lein yn ystod y cyfnod yma. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir.

Nodwch:  Dyw pob teclyn symudol (iPhone / iPad a ffonau / llechen gyfrifiadur android) ddim yn addas ar gyfer y system derbyn disgyblion ar-lein. Cyngor y cwmni sydd wedi creu'r meddalwedd yw mai defnyddio cyfrifiadur neu gliniadur fyddai orau.  Os nad oes gyda chi fynediad i'r cyfrifiadur/gliniadur eich hun, mae modd i chi ddefnyddio un am ddim yn un o'n Llyfrgelloedd.

Gwybodaeth ddefnyddiol: