Skip to main content

Gwybodaeth a Chyngor mewn perthynas â Derbyn Disgyblion i'r Dosbarth Derbyn

Sut i gyflwyno cais

Caiff rhieni/cynhalwyr (gofalwyr) fynegi eu dewis wrth ddewis ysgol ar gyfer eu plentyn/plant.

Mae manylion yr holl ysgolion yn Rhondda Cynon Taf ar gael yn y llyfryn 'Dechrau'r Ysgol'. Mae modd cael manylion am ysgolion dalgylch drwy ddefnyddio'r peiriant chwilio dalgylchoedd.

Rhaid i rieni/cynhalwyr gwblhau ffurflen cais am le mewn dosbarth derbyn. Caiff rhieni wneud cais ar-lein am le i’w plentyn mewn dosbarth meithrin. Mae gwneud cais ar-lein yn hawdd.  Dilynwch y camau yma:

  1. Ewch i oneonline.rctcbc.gov.uk
  2. Cofrestrwch â chyfeiriad e-bost dilys
  3. Dilynwch y cyfarwyddiadau

Os nad oes gyda chi fynediad i gyfrifiadur, ewch i un o lyfrgelloedd Rhondda Cynon Taf . Neu, cysylltwch â’r garfan Derbyn Disgyblion am ffurflen gais bapur drwy ffonio 01443 281111.

Edrychwch hefyd ar y Nodiadau cyfarwyddyd - Derbyn Disgyblion i'r Ysgol

Mewn achosion lle y daw mwy o geisiadau i law na nifer y lleoedd sydd ar gael, caiff lleoedd eu dyrannu yn unol â meini prawf sydd wedi'u cyhoeddi mewn perthynas â gormod o alw.

Dyddiadau pwysig ar gyfer gwneud cais

Nodwch y dyddiadau pwysig yn y tabl isod, fel byddwch chi'n gwybod pryd i gyflwyno cais a phryd cewch chi wybod am ganlyniad eich cais.

Cohort Derbyn

Oedran Disgyblion

Ffurflenni Nodi Dewis ar gael

(wythnos yn dechrau)

Ffurflenni nodi dewis i'w dychwelyd erbyn

Cyflwyno llythyron penderfynu

Dosbarth Derbyn Ysgol Gynradd

(h.y. 4 oed cyn 1af Medi 2024)

5ed pen-blwydd yn cwympo rhwng:

1af Medi 2024 a 31ain Awst 2025

1 Medi 2023

10fed Tachwedd 2023

16fed Ebrill 2024