Skip to main content

Derbyn Disgyblion – Canllawiau i Rieni/Cynhalwyr

Llenwi ffurflenni derbyn plant – canllawiau i rieni/cynhalwyr

  • Gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi llenwi pob adran o’r ffurflen.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi nodi dyddiad geni eich plentyn yn gywir, a’i fod yn cwympo rhwng y dyddiadau a nodir ar frig y ffurflen.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi darparu tystiolaeth ar ffurf dogfen yn dystiolaeth o’ch cyfeiriad cartref chi. Byddwn ni’n derbyn y gwreiddiol (nid llungopi) o’r canlynol: datganiad Treth y Cyngor, bil cyfleustodau diweddar, eich llythyr Budd-dal Plant. Byddwn ni’n anfon dogfennau’n ôl atoch chi os byddwch chi’n gofyn i ni wneud hynny. Gall manylion gael eu gwirio drwy ddefnyddio gwybodaeth o gronfeydd data eraill y Cyngor os oes angen.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi nodi eich dewis ysgolion yn ôl trefn eich dewis.
  • Os ydych chi am wneud cais am le mewn ysgol Wirfoddol Gymorthedig, neu Ysgol Eglwysig (Catholig Rhufeinig neu yr Eglwys yng Nghymru), rhaid i chi gysylltu â’r ysgol o’ch dewis yn uniongyrchol. Dim y Cyngor yw’r awdurdod derbyn ar gyfer ysgolion o’r fath.
  • Ystyr plentyn sydd dan Orchymyn Gofal yw plentyn sydd naill ai dan adain gofal yr Awdurdod Lleol neu blentyn sydd mewn gofal maeth.
  • Os bydd rhagor o geisiadau nag o lefydd sydd ar gael yn dod i law, dyma’r meini prawf fydd yn berthnasol i geisiadau (yn nhrefn blaenoriaeth):
  1. Plant sy mewn gofal (plant dan adain gofal y Cyngor).
  2. Plant sy’n byw yn nalgylch yr ysgol sydd â brawd neu chwaer hŷn ynddi ac sy’n byw yn yr un cartref â nhw pan mae’r cais yn cael ei gyflwyno ac a fydd yn parhau i fynychu’r ysgol honno ym Medi 2024.
  3. Plant sy’n byw yn nalgylch yr ysgol ond does dim brawd neu chwaer hŷn gyda nhw ynddi.
  4. Plant sy’n byw y tu allan i ddalgylch yr ysgol, ac sydd â brawd neu chwaer hŷn yn yr ysgol ac sy’n byw yn yr un cyfeiriad â nhw pan mae’r cais yn cael ei gyflwyno ac a fydd yn parhau i fynychu’r ysgol honno ym Medi 2024..
  5. Plant sy’n byw y tu allan i ddalgylch yr ysgol heb frawd neu chwaer hŷn yn yr ysgol.
  • Mae esboniad llawn o fanylion gwneud penderfyniadau lle bydd ceisiadau’n gyfartal, h.y. sefyllfa ‘tiebreak’ ar gael yn y llyfryn ‘Dechrau’r Ysgol’.

  • Bydd plant yn cael eu cyfrif yn frodyr neu’n chwiorydd os ydyn nhw’n
  1. Hanner brodyr neu chwiorydd neu frodyr neu chwiorydd llawn
  2. Brodyr neu chwiorydd wedi’u mabwysiad
  3. Plant sy’n byw yn rhan o’r un teulu’n barhaol

Noder, fydd cefndryd, neiaint a nithoedd ddim yn cael eu cyfrif yn frodyr neu’n chwiorydd.

Mewn perthynas ag ysgolion uwchradd, rhaid i frodyr neu chwiorydd fod ym MI. 7 – 11 yr ysgol berthnasol ym mis Medi 2024.  Fydd brodyr neu chwiorydd sydd mewn chweched dosbarth ysgol gyfun yn 2024 ddim yn cael eu hystyried ar gyfer derbyn plant ifancach.

Mae ffurflenni cais ar gael ar gyfer derbyn plant i’r blynyddoedd ysgol perthnasol, neu i drosglwyddo o un ysgol i ysgol arall o fewn RhCT/trosglwyddo i ysgol yn RhCT ar gael o bob ysgol, neu o’r Swyddfa Materion Derbyn yn y cyfeiriad isod. Dylech chi bob amser gysylltu â’ch dewis ysgol yn y lle cyntaf cyn cwblhau unrhyw ffurflen gais.

Dylech chi anfon ffurflenni cais wedi’u llenwi i’ch dewis cyntaf o ysgol, neu i’r Ysgol gynradd mae’ch plentyn yn ei mynychu ar hyn o bryd. Mae’n RHAID i’r ffurflen gael ei chyflwyno erbyn y dyddiad cau ar gefn y dudalen yma.

I gael gweld y polisi cyfan, a rhagor o wybodaeth am Faterion Derbyn Disgyblion gan gynnwys y meini prawf ar gyfer dyrannu lle i ddisgybl lle bydd gormod o geisiadau am le, mynnwch gopi o ‘Dechrau’r Ysgol’. Mae copïau ar gael o holl ysgolion RhCT ac ar-lein ar y wefan: www.rctcbc.gov.uk

Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau neu os hoffech chi ragor o wybodaeth - rhif ffôn: 01443 281111