Skip to main content

Derbyn Disgyblion Cyn-feithrin - Blwyddyn Academaidd 2023-24

Beth sydd angen i mi'i wneud?

Os yw'ch plentyn yn troi'n 3 oed rhwng 1 Medi 2023 a 31 Rhagfyr 2023.

Rhaid i chi wneud cais am le Cyn-feithrin ar gyfer Ionawr 2024 a lle yn y Dosbarth Meithrin ar gyfer Medi 2024

Os yw'ch plentyn yn troi'n 3 oed rhwng 1 Ionawr 2024 a 31 Mawrth 2024

Rhaid i chi wneud cais am le Cyn-feithrin ar gyfer Ebrill 2024 a lle yn y Dosbarth Meithrin ar gyfer Medi 2024

Os yw'ch plentyn yn troi'n 3 oed rhwng 1 Ebrill 2024 a 31 Awst 2024

Dim ond gwneud cais am le yn y Dosbarth Meithrin ar gyfer Medi 2024 sydd angen i chi ei wneud

Ionawr 2024 llefydd ar gyfer disgyblion sy'n troi'n dair rhwng 1 Medi 2023 - 31ain Rhagfyr 2023

  • Byddwch yn cael gwybod canlyniad eich cais ar 10 Tachwedd 2023.

Ebrill 2024 llefydd ar gyfer disgyblion sy'n troi'n dair rhwng 1 Ionawr 2024 – 31 Mawrth 2024

  • Bydd ceisiadau ar-lein yn cael eu derbyn rhwng 1 Ionawr 2024 a 9 Chwefror 2024.
  • Byddwch yn cael gwybod canlyniad eich cais ar 15 Mawrth 2024.

Cyflwyno cais

Mae cyflwyno cais ar-lein yn syml. 

* Byddwch yn ymwybodol pan fyddwch yn dechrau pre nursery ar lein, bydd angen I chi cwbwlhau mewn un ymgais a paid dod allan or system.

 

Nodwch - Bydd angen cyfeiriad e-bost dilys arnoch chi i wneud cais ar-lein.

Mae'r lleoedd yma'n cael eu darparu ar sail y nifer sydd ar gael, a does dim ffordd o sicrhau lle mewn unrhyw ysgol. Unwaith ei bod hi'n dybiedig bod y lleoedd meithrin yn llawn, chaiff dim rhagor o blant o oed cyn-feithrin eu derbyn.

Nodwch:  Dyw pob teclyn symudol (iPhone / iPad a ffonau / llechen gyfrifiadur android) ddim yn addas ar gyfer y system derbyn disgyblion ar-lein. Cyngor y cwmni sydd wedi creu'r meddalwedd yw mai defnyddio cyfrifiadur neu gliniadur fyddai orau.  Os nad oes gyda chi fynediad i'r cyfrifiadur/gliniadur eich hun, mae modd i chi ddefnyddio un am ddim yn un o'n Llyfrgelloedd.

Fydd y Porth Dinasyddion ddim yn gweithio rhwng 10.00pm a 12.00am (canol nos) bob nos.  Yn anffodus, fydd dim modd gwneud ceisiadau ar-lein yn ystod y cyfnod yma. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir.

Gwybodaeth ddefnyddiol: