Browser does not support script.
Bydd y Cyngor yn gwella eich Casgliadau Ailgylchu Gwastraff Gwyrdd y Gaeaf trwy gynnig gwasanaeth trefnu casgliad am ddim drwy gydol misoedd y gaeaf i gartrefi sydd wedi'u cofrestru'n barod. Bydd modd trefnu’r gwasanaeth yma rhwng dydd Llun, 30 Hydref 2023 a dydd Gwener 15 Mawrth 2024.
Mae modd trefnu casgliadau ar gyfer eich diwrnod ailgylchu presennol a dewis pa mor aml mae gwastraff gwyrdd yn cael ei gasglu, h.y. unwaith yn unig neu'n fwy rheolaidd.
Mae modd trefnu casgliad ar ein gwefan www.rctcbc.gov.uk/CasgliadauGwastraffGwyrddyGaeaf
Nodwch: Bydd angen i chi drefnu pob casgliad yn unigol.
Bwriwch olwg ar sut mae modd ailgylchu’ch gwastraff gwyrdd a’ch coed Nadolig go iawn yn ystod y gaeaf
Casgliadau Gwastraff Gwyrdd y Gaeaf
Gwastraff Gwyrdd yr Haf
Bwriwch olwg ar sut mae modd ailgylchu’ch gwastraff gwyrdd yn ystod misoedd yr haf.
Casgliadau Gwastraff Gwyrdd yr Haf
COFRESTRWCH AR GYFER CASGLIADAU GWASTRAFF GWYRDD