Browser does not support script.
Dylai gwastraff cyffredinol gael ei roi mewn bag du maint safonol (tua 70 litr) a'i roi yn eich man casglu ar eich diwrnod casglu.
Mae croeso i breswylwyr ddefnyddio eu cynwysyddion eu hunain i storio bagiau du rhwng casgliadau. Rhaid cadw'r cynwysyddion yma o fewn eich ffin eich hun, e.e. gardd flaen neu lain barcio/dramwyfa, ac ati.
Gallai methu â gwneud hyn arwain at symud cynwysyddion, gan gynnwys biniau gwyrdd ar olwynion, sydd i'w gweld ar y briffordd neu lwybr cyhoeddus.
Gwnewch gais i'ch bin ar olwynion gael ei gludo yn ôl yn rhad ac am ddim neu ewch ag ef i'r Ganolfan Ailgylchu yn y Gymuned leol os nad ydych chi ei eisiau mwyach.
Gofyn am fin 120 litr am ddim yn lle’ch bin 240 litr.