Skip to main content

Gwybodaeth Gyffredinol am Goed

Fel arfer, mae hawl gyda chi i docio unrhyw ganghennau coed neu lystyfiant sy'n tresmasu ar eich tir, lan at eich ffin.   (Cyn belled ei bod hi’n goeden sydd ddim wedi'i diogelu gan Orchymyn Diogelu Coed neu mewn Ardal Gadwraeth)

Yn anffodus, fydd y Cyngor ddim yn ystyried: -

  • Materion sy’n ymwneud â diffyg golau
  • Coed sy’n rhwystro pobl rhag gweld
  • Materion sy’n ymwneud â changhennau sy'n hongian drosodd – oni bai’u bod nhw’n beryglus
  • Materion sy’n ymwneud â ffrwythau neu ddail, gan gynnwys llwybrau llithrig neu gwteri wedi’u blocio
  • 'Slwtsh' gludiog neu 'wlith mêl' ar geir
  • Signal Lloeren/Teledu (Cyfrifoldeb y darparwr ydy darparu signal digonol. Dim gwaith y Cyngor ydy torri unrhyw goed iach i ganiatáu derbyn signal)
  • Coed sy'n rhy dal neu'n siglo yn y gwynt (oni bai eu bod yn beryglus) gweler Coed Peryglus 

Coed a Cheblau

Dydyn ni ddim yn tocio coed ar ran cwmnïau cyfleustodau neu BT. Mae angen i'r preswylwyr dan effaith gysylltu â'u darparwr/cwmni cyfleustodau yn uniongyrchol i adrodd y mater, gan fod eu contractwyr eu hunain gyda nhw i gynnal coed lle mae ceblau wedi'u lleoli.

Gwasanaeth Priffyrdd RhCT 

Bydd Gwasanaeth Priffyrdd RhCT yn ymdrin â choed o dan yr amgylchiadau canlynol:

  • Coed sy'n rhwystro pobl rhag gweld wrth gyffyrdd
  • Coed sydd o fewn uchder pen/llygaid ar lwybrau troed 
  • Coed sydd wedi cwympo ar draws briffordd/llwybr troed

Hawliau Tramwy Cyhoeddus

Dylech chi roi gwybod i'n Hadran Cefn Gwlad am unrhyw goed sy'n effeithio ar fynediad i Lwybr Troed, Llwybr Ceffylau neu Gilffordd sydd â Hawl Tramwy Cyhoeddus, drwy ein canolfan gwasanaethau cwsmeriaid.

RhCT Hawliau Tramwy Cyhoeddus

Coed Stryd

Rydyn ni'n tocio'r coed sydd wedi'u plannu yn y strydlun i reoli eu maint a sicrhau uchder o fewn rheolaeth, sydd hefyd yn lleihau'r maint sydd ei angen ar wreiddiau'r coed i dyfu.

Rydyn ni'n dewis rhywogaethau sy'n goddef torri canghennau mân yn ôl i un coesyn am dair blynedd.

Yn hanesyddol, cafodd coed stryd eu plannu i wella edrychiad y dirwedd drefol, ond mae tystiolaeth eu bod nhw hefyd yn lleihau llygredd.

Mae tocio coed ar y stryd ar gylchred 3 blynedd rhwng Cwm Rhondda, Cwm Cynon a Thaf-elái (coed sy'n tyfu o'r palmant ac ar hyd y briffordd yn unig) os oes angen.

 Mae'r hawliau a'r canllawiau yma'n adlewyrchu canllawiau coed cenedlaethol ac oni bai bod y coed yn cael eu hystyried yn farw, yn afiach neu'n beryglus, does dim rhaid i ni wneud gwaith coed.

Os yw coeden yn tyfu o dir y Cyngor ac yn cyffwrdd ag eiddo neu'n achosi difrod, byddwn ni fel arfer yn gofyn i'r preswylydd gyflwyno ffotograffau i ni er mwyn i ni eu hadolygu a gwneud unrhyw waith coed gorfodol, os yw'n amlwg ar y safle. 

Coed ar Dir Preifat

Os yw coeden o dan berchnogaeth breifat, mater i berchennog y tir fyddai penderfynu beth i'w wneud â'r coed (o fewn terfynau penodol) :-

  • Os yw'r coed o dan Orchymyn Diogelu Coed, byddai angen caniatâd adran gynllunio'r Cyngor i wneud unrhyw waith ar y coed yma.
  • Os yw’r coed mewn ardal gadwraeth, byddai angen iddyn nhw roi 21 diwrnod o rybudd i adran gynllunio’r Cyngor o unrhyw waith arfaethedig ar y coed.
  • Os ydyn nhw'n torri mwy na 5 metr ciwbig o goed, efallai y bydd angen trwydded torri coed gan CNC (Cyfoeth Naturiol Cymru) arnyn nhw.
  • Dylech chi osgoi cynnal unrhyw waith arall ar goed o fis Chwefror i fis Gorffennaf, oni bai ei fod yn hanfodol. Mae hyn oherwydd y tymor nythu adar, gan fod y gyfraith yn gwarchod adar sy’n nythu.

Gweler Coed Peryglus 

Tocio lan at eich ffin

Os nad yw'r goeden wedi'i diogelu neu mewn ardal gadwraeth, mae modd i chi docio unrhyw ganghennau a llystyfiant lan at eich ffin. Mae hyn yn cynnwys y goeden gyfan o'r canopi lawr i'r gwreiddiau. Rydyn ni'n argymell yn gryf eich bod chi'n gofyn am arweiniad proffesiynol gan berson cymwys cyn tocio, achos bod modd i wreiddiau neu ganghennau mawr achosi difrod sylweddol i'r rhiant goeden a pheri iddi fod yn beryglus.

Mae modd i unrhyw un sy'n gyfrifol am y gwaith hwn fod yn atebol am unrhyw ddifrod sydd o ganlyniad i'r gweithredoedd hyn.

Yn ôl y gyfraith, mae rhaid cynnig unrhyw doriadau coed o eiddo cyfagos yn ôl, gan mai eiddo perchennog y tir yw e. Fodd bynnag, yn achos eiddo preswyl, dydyn ni ddim yn argymell taflu’r canghennau yn ôl i’r eiddo cyfagos oni bai bod perchennog y tir yn hapus i'w derbyn. Rydyn ni fel arfer yn awgrymu cael gwared ar ddeilliannau'r gwaith coed yn briodol.

Gwreiddiau a strwythurau coed

Dydy gwreiddiau coed ddim yn rhoi digon o bwysau i ddatgymalu sylfeini strwythurau trwm eu llwyth modern, fel tai. Weithiau, mae modd iddyn nhw effeithio ar strwythurau ysgafnach fel waliau gardd.

Dylai eich galwad ffôn gyntaf fod at eich yswiriwr cartref, i roi gwybod iddo am y mater er mwyn iddo ymchwilio. Os bydd coeden ar fai am y difrod, bydd eich yswiriwr yn cysylltu â pherchennog y tir (preifat/y Cyngor) i roi gwybod iddo beth sy'n rhaid ei wneud i ddatrys y mater.

Adar yn nythu

Yn gyffredinol, mae disgwyl y bydd y tymor nythu adar yn dechrau o ddiwedd mis Chwefror tan ddiwedd mis Gorffennaf ac mae adar a'u nythod yn cael eu diogelu gan y gyfraith. Yn ystod y tymor nythu adar, fydden ni ddim yn argymell gwneud unrhyw beth heblaw gwaith coed hanfodol.

Yr heddlu sy'n gyfrifol am orfodi rhan I o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, yn aml yn dilyn cyngor gan Cyfoeth Naturiol Cymru, a byddan nhw'n ymchwilio i droseddau bywyd gwyllt. Mae modd gofyn am ragor o gyngor gan Gyfoeth Naturiol Cymru neu Heddlu De Cymru.

Canllawiau Nythu Adar

Ceisiadau cynllunio

Mae modd gwirio pob cais cynllunio ar-lein – gan gynnwys Gorchmynion Diogelu Coed a cheisiadau am waith coed mewn ardaloedd cadwraeth. Ewch i’n gwefan (www.rctcbc.gov.uk) a chwiliwch "Ceisiadau Cynllunio chwilio'r gofrestr" neu cliciwch ar y ddolen yma:

https://www.rctcbc.gov.uk/CY/Resident/PlanningandBuildingControl/PlanningApplications/SearchthePlanningRegister.aspx

Mae hefyd modd e-bostio gwasanaethaucynllunio@rctcbc.gov.uk