Skip to main content

Gorchymyn Cadw Coed

Beth yw Gorchymyn Cadw Coed (TPO)?

Mae Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 a'r Rheoliadau cysylltiedig yn ein galluogi i ddiogelu coed er budd mwynderau, trwy wneud gorchmynion i ddiogelu (neu gadw) coed.

Yn gyffredinol, mae gwneud gorchymyn yn ei gwneud hi'n drosedd i unrhyw un ddifrodi neu ddinistrio'r goeden neu'r coed dan sylw'n fwriadol, neu wneud gwaith arnyn nhw heb ganiatâd y Cyngor.

Pwrpas gorchymyn yw diogelu coed a choetiroedd dethol pe byddai eu symud yn cael effaith sylweddol ar yr amgylchedd a'i fwynhad gan y cyhoedd. Mae gyda ni ddyletswydd i wneud Gorchmynion Cadw Coed, lle bo'n briodol, wrth roi caniatâd cynllunio.

Ni chaniateir y gwaith canlynol ar goed sy'n destun Gorchymyn Cadw Coed heb ganiatâd ysgrifenedig gan y Cyngor:

  • Tynnu neu dorri'r coed i lawr, eu dadwreiddio neu'u symud
  • Tocio neu dorri canghennau
  • Cywasgu'r pridd mewn modd sy'n effeithio ar y gwreiddiau, neu dorri'r gwreiddiau

Sut ydw i'n gwybod a yw coeden wedi'i diogelu?

Os oes angen i chi wybod a yw coeden wedi'i diogelu, mae angen i chi ofyn am Chwiliad Gorchymyn Cadw Coed. Rhowch gynifer o fanylion â phosibl am y lleoliad; er enghraifft:-

  • cyfeiriad llawn
  • cod post agosaf
  • cyfeirnod grid
  • Mapiau/cynlluniau yn dangos y lleoliad gyda phwynt cyfeirio/enw stryd
  • Pa 3 Gair

Cysylltwch â'r Cyngor gyda'ch cais 

 Os ydych chi'n gyflenwr cyfleustodau ac angen dogfen ganiatâd wedi'i llofnodi i wneud gwaith ar goed ar dir y mae'r Cyngor yn berchen arno ac nad yw'n dod o dan Orchymyn Cadw Coed, e-bostiwch y dogfennau a'ch cais at ein canolfan gwasanaethau i gwsmeriaid.

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng Gorchymyn Cadw Coed a choeden mewn ardal gadwraeth?

 Mae modd i goed, grwpiau, ardaloedd neu goetiroedd unigol gael eu cynnwys o dan Orchymyn Cadw Coed, ond mae hefyd modd i dref gyfan fod o fewn ardal gadwraeth. Mae ardaloedd cadwraeth wedi'u dynodi oherwydd eu bod o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig. 

Mae coed mewn ardaloedd cadwraeth yn cael eu diogelu'n rhan o werth amwynder yr ardal, felly hyd yn oed os nad yw’r goeden/coed wedi’u diogelu gan Orchymyn Cadw Coed, efallai y bydd angen i chi wneud cais am ganiatâd ar gyfer eich gwaith arfaethedig.

Yn ogystal â hynny, mae modd i goeden hefyd gael ei diogelu gan Orchymyn Cadw Coed a bod o fewn ardal gadwraeth.

Mae rhagor o wybodaeth am ardaloedd cadwraeth yma 

Sut mae cael caniatâd?

I wneud gwaith ar goeden dan Orchymyn Cadw Coed neu sydd o fewn Ardal Gadwraeth, mae angen i chi wneud cais am ganiatâd.

Mae’r ffurflen gais yn cynnwys gwybodaeth am sut i wneud cais i weithio ar y coed dan sylw, ac mae canllawiau Llywodraeth Cymru wedi’u hatodi isod.

Mae modd i chi neu rywun â chymwysterau addas yr ydych chi'n ei gyflogi (yr asiant, meddyg coed/gweithiwr coedyddiaeth) wneud cais ar eich rhan.

Ar-lein; drwy wefan Llywodraeth Cymru ar geisiadau cynllunio  https://llyw.cymru/cyflwyno-cais-am-ganiatad-cynllunio

Drwy'r post: Lawrlwythwch/argraffwch y ffurflen gais sydd ynghlwm isod. Ar ôl llenwi'r ffurflen, anfonwch hi at:  Gwasanaethau Cynllunio (Ceisiadau), Tŷ Sardis, Heol Sardis, Pontypridd, CF37 1DU

E-bost: Lawrlwythwch/argraffwch y ffurflen gais sydd ynghlwm isod. Ar ôl llenwi'r ffurflen, e-bostiwch hi at: GwasanaethauCynllunio@rctcbc.gov.uk

Nodwch: Dim ond un copi o'r ffurflen gais ac unrhyw dystiolaeth sydd eu hangen.

Bwriwch olwg ar ganllawiau Llywodraeth Cymru yma

Sut i ofyn am gyflwyno Gorchymyn Cadw Coed?

Mae canllawiau cylchlythyr y Llywodraeth yn cynghori bod angen inni allu dangos y byddai cryn dipyn o fudd cyhoeddus yn cronni cyn i orchmynion gael eu gwneud neu eu cadarnhau. Fel arfer, dylai'r coed fod yn weladwy o fan cyhoeddus fel ffordd neu lwybr cyhoeddus, er yn eithriadol, mae modd cyfiawnhau cynnwys coed eraill. Gall y budd fod yn y presennol neu yn y dyfodol (er enghraifft, pan mae datblygiad arfaethedig wedi digwydd).

I  wneud cais i osod Gorchymyn Cadw ar goeden, mae angen i chi ddarparu:

  • cynllun y lleoliad
  • ffotograffau
  • disgrifiad ysgrifenedig o’r rhesymau pam y dylai'r goeden/coed fod yn destun Gorchymyn Cadw Coed.

Unwaith y bydd carfan y gwasanaethau i gwsmeriaid wedi derbyn yr wybodaeth yma a'i chofnodi'n swyddogol, bydd Swyddog Coed yn adolygu'r cais. Nodwch ein bod ni ddim fel arfer yn cyhoeddi gorchmynion ar gyfer coed sy'n tyfu ar dir y Cyngor, gan ein bod ddim ond yn gwneud gwaith coed hanfodol, ac felly'n gorfod rheoli ein stoc goed mewn modd effeithiol.

A oes angen caniatâd arnaf o hyd os yw'r goeden dan orchymyn wedi marw, yn afiach neu'n beryglus?

Os yw swyddog â chymwysterau addas o'r farn bod angen cyflawni gwaith ar unwaith i 'wneud coeden beryglus yn ddiogel', yna mae modd gwneud gwaith, heb ganiatâd, o dan y rheol eithriedig.

Serch hynny, rydyn ni'n argymell y dylech chi fod yn ofalus a thynnu lluniau o'r goeden cyn ac ar ôl y gwaith, gan ofyn i'r sawl sy'n cwblhau'r gwaith coed gyflwyno'r lluniau i ni, yn ogystal ag esboniad ysgrifenedig o'r hyn oedd yn angenrheidiol yn ei farn e/hi. Bwriad hyn yw cyfiawnhau cwblhau gwaith o dan y rheol eithriedig a diogelu'ch hun rhag unrhyw gamau cyfreithiol posibl. Bydd y dystiolaeth yma wedyn yn cael ei chadw yn y ffeil berthnasol.

Os ydych chi o'r farn bod y rheol gwaith wedi'i eithrio yn berthnasol i'r gwaith yma, rhaid i chi roi gwybod i ni, yr Awdurdod Lleol, drwy roi o leiaf 5 diwrnod o rybudd.

Os yw'r goeden/coed yn dal yn fyw, mae'n ofynnol cyflwyno cais Gwaith Coed dan Orchymyn Cadw Coed i'r adran gwasanaethau cynllunio yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf cyn cyflawni unrhyw waith. 

 

Gweler y dogfennau perthnasol isod:

  1. Cais i wneud gwaith ar goed 
  2. Llywodraeth Cymru Canllaw ar y Gorchymyn Cadw Coed – taflen Coed a Warchodir 
  3. Canllawiau ar Dymor Nythu Adar