Skip to main content

Coed Peryglus

Coed Peryglus

Os ydych chi'n dod ar draws coeden beryglus, bydd rhaid ichi'n gyntaf ganfod pwy sy biau'r tir lle mae hi’n tyfu. 

Cysylltwch â'r Garfan Gwybodaeth am Eiddo i gael gwybod os yw’r goeden/coed yn tyfu ar dir y Cyngor:

Dim ond cadarnhau a yw'r goeden yn tyfu ar dir sy'n perthyn i'r Cyngor y mae modd i’r Cyngor ei wneud; fydd dim modd i ni roi cyngor i chi ar goed sydd ar dir preifat.

Os dydy'r goeden/coed DDIM yn tyfu ar dir y Cyngor, rydyn ni'n argymell eich bod chi'n mynegi eich pryder i berchennog y tir. Er mwyn dod o hyd i berchennog y tir bydd rhaid i chi ffonio Cofrestrfa Tir Ei Mawrhydi ar

Gwefan: https://www.gov.uk/government/organisations/land-registry.cy

Coed sydd wedi cwympo i mewn i afonydd

Pan fydd coeden wedi cwympo i mewn i prif gwrs dŵr/afon, a/neu bod risg posibl o lifogydd, ffoniwch Ganolfan Gyfathrebu Achosion Cyfoeth Naturiol Cymru ar

Coed Peryglus ar Dir y Cyngor


Yn y lle cyntaf, mae gofyn rhoi gwybod am goed peryglus ar dir y Cyngor i’r Garfan Gwasanaethau i Gwsmeriaid drwy ffonio 01443 425 001. Bydd y Garfan yn rhoi gwybod i’r adran berthnasol am yr achos er mwyn mynd i’r afael â’r sefyllf. 

Coed Perglus sy’n effeithio ar Briffordd


Bydd Gwasanaeth y Priffyrdd RhCT yn ymdrin â choed o dan yr amgylchiadau canlynol:

Coed sy'n rhwystro pobl rhag gweld wrth gyffyrdd

Coed sydd o fewn uchder pen / llygaid ar lwybrau troed 

Coed sydd wedi cwympo ar draws briffordd / llwybr troed

Coed sy'n effeithio ar Briffordd - Coridor yr A470 + M4 (gan gynnwys ymylon y ffordd)

Rhowch wybod am goed peryglus ar hyd yr A470 a'r M4 yn uniongyrchol i Asiant Cefnffyrdd De Cymru (SWTRA):

Coed sy'n effeithio ar Briffordd - A465

Mae gwaith gwella dwys yn digwydd ar yr A465, Blaenau'r Cymoedd, o gylchfan Rhigos hyd at Dowlais (Merthyr Tudful). Future Valleys Project fydd yn gyfrifol am y rhan yma o 1 Mai 2021 ymlaen yn hytrach nag Asiant Cefnffyrdd De Cymru (SWTRA). Maen nhw'n gyfrifol am y gwaith adeiladu cychwynnol a gwaith cynnal a chadw yn y dyfodol ar y rhan yma o'r briffordd.

I sicrhau bod eich ymholiadu yn cael eu datrys cyn gynted â phosib, e-bostiwch Garfan Future Valleys Public Liaison yn uniongyrchol:

Coed Peryglus ar dir preifat


Bydd y Cyngor ddim ond yn ymdrin â choed sydd ar fin achosi anaf sy'n bygwth bywyd.

Mae modd i goed (neu rannau ohonyn nhw) fod yn fwy peryglus i'r cyhoedd ar ôl digwyddiad neilltuol megis storm, llifogydd neu niwed gan gerbyd mewn damwain. Hefyd, gall achosion o bydredd neu glefyd parhaus achosi problemau, neu goeden sydd wedi tyfu yn y fath fodd sy’n ei gwneud hi’n anniogel o ran adeiladwaith.

Dim ond cwynion sy’n ymwneud â choed sydd ar fin bod yn beryglus y bydd y Cyngor yn rhoi ystyriaeth iddyn nhw. Er enghraifft, cangen fawr sydd wedi torri, neu wreiddiau sy wedi torri ac sy’n caniatáu i goeden gyfan i siglo uwchben y pridd.   

Fydd y Cyngor ddim yn ymdrin â choed sy’n peri perygl ymddangosiadol, megis coeden dal, un sy’n agos at adeilad neu un sy’n siglo yn y gwynt, ond sydd ddim yn beryglus mewn gwirionedd. Dydy’r coed yma ddim yn cael eu hystyried yn rhai peryglus a dydyn nhw ddim yn peri perygl uniongyrchol. Fydd y Cyngor ddim yn rhoi ystyriaeth i gyflwr y goeden yn y dyfodol. Bydd y Cyngor ddim ond yn ystyried cyflwr y goeden ar yr adeg dan sylw.

Os ydych chi o’r farn bod coeden yn creu perygl uniongyrchol a’i bod hi mewn perygl o beri niwed difrifol, byddwch gystal â ffonio’r Gwasanaeth Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd ar 01443 425001. Bydd gofyn ichi nodi pam bod y goeden yn peri perygl uniongyrchol a’r sawl a fyddai'n cael eu heffeithio pe bai’r goeden neu rannau ohoni hi'n syrthio. 

Os yw'r goeden ar dir preifat ac rydych chi o'r farn ei bod yn beryglus

  1. Bydd angen i chi gwblhau Holiadur Coeden Beryglys
  2. Cofiwch gynnwys lluniau o'r broblem (problemau)/coeden (coed)
  3. Cofiwch gynnwys tystiolaeth o'ch ymdrechion i gysylltu â pherchennog y tir
  4. Tystiolaeth goedyddiaethol bod y goeden/coed yn beryglus.

Dylech chi e-bostio holiadur coed peryglus wedi’i lenwi, ynghyd â’r dystiolaeth gysylltiedig, i garfan Iechyd y Cyhoedd:

CymorthProsiectauIechydyCyhoedd@rctcbc.gov.uk

 Os dydyn ni ddim wedi ateb eich ymholiad, e-bostiwch coed@rctcbc.gov.uk