Skip to main content

Galw i Gyflwyno Safleoedd Ymgeisiol

Mae’r Galwad I Gyflwyno Safleodd Ymgeisiol ar Gau

Methodoleg Safleoedd Ymgeisiol

Cyn cyflwyno Safle Ymgeisiol rydyn ni'n argymell eich bod yn darllen Methodoleg Safleoedd Ymgeisiol. Mae'r Fethodoleg yn amlinellu camau'r Broses Safleoedd Ymgeisiol ac yn cynnwys yr holl ganllawiau ar ba wybodaeth y dylid ei chyflwyno gyda'ch safle a sut y bydd y Cyngor yn defnyddio'r wybodaeth yma i asesu ei addasrwydd.

Galw i gyflwyno'r Safleoedd Ymgeisiol

Y Galw am Safleoedd Ymgeisiol yw un o'r camau ffurfiol cyntaf yn y broses CDLlD. Dyma pryd mae'r Cyngor yn gwahodd tir i gael ei gyflwyno i'r broses. Yn wreiddiol, cynhaliodd y Cyngor ddwy alwad am Safleoedd Ymgeisiol yn ystod 2020/2021 a 2022. Yn ystod y cyfnod yma, mae'r Cyngor yn croesawu cyflwyniad safleoedd am ystyriaeth.

Bydd y Cyngor hefyd yn croesawu cyflwyno Safleoedd Ymgeisiol bellach nad ydym wedi gweld eto, yn ystod ymgynghoriad cyhoeddus ar y Strategaeth a Ffefrir rhwng 21 Chwefror a 17 Ebrill 2024

Ffurflen Gyflwyno

Er mwyn i safleoedd gael eu cyflwyno'n ffurfiol, mae'r Cyngor wedi cynhyrchu Ffurflen Gyflwyno safonol a chynhwysfawr. Dylai'r ffurflen yma gael ei chwblhau ar gyfer pob safle rydych chi am ei gyflwyno, neu ar gyfer pob defnydd arfaethedig ar gyfer safle; a dylid ei chwblhau cymaint â phosibl i'n helpu i asesu'ch safle'n llawn.

Nodyn Canllaw

Er mwyn eich cynorthwyo i lenwi'r ffurflen gyflwyno rydyn ni hefyd wedi paratoi Nodiadau Canllaw. Mae'r Nodiadau Canllaw yn dilyn yr un strwythur â'r ffurflen gyflwyno ac yn egluro'r hyn y mae pob cwestiwn yn ei ofyn. Mae hefyd yn cyfeirio at ble y mae modd dod o hyd i wybodaeth am Gyfyngiadau a allai effeithio ar y safle gan y Cyngor a chyrff allanol.

Cynllun Cyfyngiadau

Yn dilyn y Nodiadau Canllaw, rydyn ni wedi cynhyrchu Cynllun Cyfyngiadau sy'n gysylltiedig yn gyffredinol â'r CDLl sydd eisoes yn bodoli neu gyfyngiadau eraill y Cyngor e.e. Safleoedd Pwysig Arfaethedig ar gyfer Cadwraeth Natur, Mannau Gwyrdd ac ardaloedd o dirwedd arbennig, a hynny er mwyn eich cynorthwyo i nodi rhai o'r cyfyngiadau y mae'r ffurflen gyflwyno yn gofyn amdanyn nhw. Pan fydd gwybodaeth yn cael ei mynegi'n gliriach mewn man arall neu'n cael ei chyflwyno gan gyrff allanol mae'r nodiadau canllaw yn darparu gwybodaeth ar ble i gael gafael ar y wybodaeth yma.

Gwybodaeth Ychwanegol

Er y bydd gwybodaeth sylweddol yn cael ei chyflwyno trwy'r Ffurflen Gyflwyno, fel sydd wedi'i amlinellu yn y Fethodoleg Safle Ymgeisiol, bydd angen tystiolaeth gefnogol bellach i gyd-fynd â'r cyflwyniadau safle fel sy'n briodol ac yn angenrheidiol. Bydd hyn yn angenrheidiol fel bod modd i safleoedd gael eu hasesu i'r fath graddau ag sydd eu hangen ar y Cyngor er mwyn pennu eu haddasrwydd am ddyraniad.

I ble dylwn i anfon fy nghais am Safle Ymgeisiol?

Rydyn ni'n argymell bod ceisiadau am safle ymgeisiol yn cael eu hanfon aton ni drwy e-bost, i CDLl@rctcbc.gov.uk gan gynnwys ffurflenni cyflwyno wedi'u cwblhau yn ogystal ag adroddiadau gwybodaeth ychwanegol ac ati. Fodd bynnag, os does dim modd i chi gyflwyno trwy e-bost, fe fyddwn ni'n derbyn ceisiadau trwy'r post hefyd, er y gallai fod peth oedi cyn eu derbyn a'u cydnabod. Anfonwch geisiadau drwy'r post at Garfan Polisi Cynllunio Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, 2 Llys Cadwyn, Stryd y Taf, Pontypridd, CF37 4TH

Cyngor a Chymorth Pellach

Mae modd cysylltu â swyddogion trwy e-bost (yn ddelfrydol)  CDLl@rctcbc.gov.uk neu drwy ffonio 01443 281129. Byddai'r garfan yn fwy na pharod i ateb unrhyw ymholiadau sydd gennych chi.

Nodwch, pan fyddwch chi'n cyflwyno Safle Ymgeisiol, peidiwch â chymryd hyn fel ymrwymiad ei fod yn addas i'w gynnwys yn y cynllun, nac ychwaith os yw'n cael ei dderbyn.
Carfan Polisi Cynllunio

2 Llys Cadwyn

Stryd y Taf

Pontypridd

CF37 4TH

Ffon:  01443 281129