Skip to main content
\

Y Strategaeth a Ffefrir

Cafodd ymgynghoriad ffurfiol Y Strategaeth A Ffefrir ei gynnal rhwng Chwefror 21ain 2024 ac Ebrill 17eg 2024. Mae’r ymgynghoriad hwn nawr wedi’i Cau.

Mae Rhondda Cynon Taf yn adolygu ei Gynllun Datblygu Lleol (CDLl).  Y CDLl yw’r ddogfen gynllunio defnydd tir statudol ar gyfer y Fwrdeistref Sirol (ac eithrio’r ardal yn Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog).

Unwaith mae'n cael ei fabwysiadu, bydd y Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig (CDLlD) 2022-2037 yn disodli'r Cynllun Datblygu Lleol mabwysiedig 2006-2021 presennol, gan ddod yn sail i bob penderfyniad cynllunio am ddefnydd tir yn Rhondda Cynon Taf.

Am ragor o wybodaeth am gefndir y CDLlD, darllenwch yma.

Beth yw'r Strategaeth a Ffefrir?

Fel rhan o gam paratoi Cyn-Adneuo (Strategaeth a Ffefrir) y CDLlD, mae'r Cyngor wedi bod yn brysur yn adolygu'r sylfaen dystiolaeth, gan ymgysylltu â rhanddeiliaid ar y Materion, Amcanion, Gweledigaeth a Nodau, ac yn ystyried opsiynau strategol. ​  Yn dilyn hyn, mae'r Strategaeth a Ffefrir bellach wedi'i pharatoi. 

Ar y lefel strategol yma, bydd y Strategaeth a Ffefrir yn ceisio diwallu anghenion RhCT drwy gynnig lefelau twf tai a chyflogaeth a lle y dylai'r rhain gael eu dosbarthu ledled y Fwrdeistref Sirol, gan gynnwys pennu safleoedd allweddol.  Mae’r Strategaeth a Ffefrir yn nodi nifer fach o bolisïau cynllunio lefel strategol i’w hehangu yn y camau dilynol o baratoi’r CDLlD.

Ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffefrir

Roedd y Strategaeth a Ffefrir yn destun i ymgynghoriad yn unol â'i gofynion statudol, rhwng Chwefror 21ain 2024 ac Ebrill 17eg 2024. Mae’r ymgynghoriad hwn nawr wedi’i Cau.

Mae’r rhain wedi’u nodi yn y Datganiad o Faterion Cyn-adneuo.

Ochr yn ochr â dogfen y Strategaeth a Ffefrir, wnaeth y Cyngor hefyd ymgynghori ar y Gofrestr o Safleoedd Ymgeisiol/Posib.  Mae’r Gofrestr o Safleoedd Ymgeisiol/Posib yn cynnwys yr holl safleoedd dilys y mae’r Cyngor wedi’u derbyn i’w hystyried i’w cynnwys yn y CDLlD.  Mae'r gofrestr yn nodi'r safleoedd gan gynnwys y cynigion ac mae hefyd yn cynnwys canlyniadau asesiadau Cam 1. ​ 

Mae dogfennau eraill a gyhoeddwyd yn cynnwys yr Adroddiad Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig, Adroddiad Sgrinio Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd a chyfres o Bapurau Sylfaen Tystiolaeth Gefndir.

Mae’r Strategaeth a Ffefrir y CDLl Diwygiedig ar gael i’w ddarllen yn y dolen isod:

Mae fersiwn Hawdd I’w Ddarllen o'r Strategaeth a Ffefrir ar gael i’w ddarllen yn y ddolen ganlynol isod:

Gwelir holl dogfenau pellach

I weld y Strategaeth a Ffefrir, Y Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol, yr ISA, HRA a'r holl Bapurau Sylfaen Tystiolaeth Gefndir cysylltiedig eraill, cliciwch ar ein Porth Dogfennau isod. 

Porth Dogfennau 

Yn ogystal, mae copïau o’r prif ddogfennau ar gael i’w gweld yn ystod oriau agor arferol yn y Lleoliadau Adneuo canlynol:

Llyfrgell Abercynon

Llyfrgell Pont-y-clun

Llyfrgell / Canolfan IBobUn Aberdâr

Llyfrgell / Canolfan IBobUn Pontypridd (Llys Cadwyn)

Llyfrgell Pentre'r Eglwys

Canolfan IBobUn / Llyfrgell Plasa'r Porth

Llyfrgell Glynrhedynog

Llyfrgell Rhydfelen

Llyfrgell Hirwaun

Llyfrgell Tonypandy

Llyfrgell Llantrisant

Llyfrgell / Canolfan IBobUn Treorci

Llyfrgell / Canolfan IBobUn Aberpennar

Llys Cadwyn, Pontypridd

Cafodd sesiynau ymgynghori wyneb yn wyneb eu cynnal hefyd yn y llyfrgelloedd yma fel y dangosir yn y ddolen ganlynol: 

Amserlen Digwyddiadau'r Llyfrgelloedd

Am unrhyw ymholiadau pellach, gwelir ein manylion isod:

Y Garfan Polisi Cynllunio 
2 Llys Cadwyn
Stryd y Taf
Pontypridd
CF37 4TH
Ffôn:  01443 281129