Skip to main content

Trafnidiaeth Chweched Dosbarth a Coleg

Dewch o hyd i'r wybodaeth ar gyfer disgyblion sydd ag ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL

Does dim gofyn statudol i gynnal cludiant ar gyfer disgyblion sydd dros 16 oed, serch hyn mae Rhondda Cynon Taf yn cynnig gwasanaeth cludiant diamod ar gyfer myfyrwyr 16 - 19 oed sy'n bodloni meini prawf penodol ac sy'n astudio cwrs 16 i 19 wedi'u cymeradwyo.  

Er mwyn bod yn gymwys i gael cludiant am ddim RHAID bod myfyrwyr:   

  • yn byw yn Rhondda Cynon Taf;
  • dros 16 oed ond yn iau na 19 oed ar ddechrau'r flwyddyn academaidd;
  • yn mynychu'r chweched dosbarth o fewn ysgol / consortiwm o ysgolion / campws coleg yn eu dalgylch ar gyfer eu rhaglen astudio addysg bellach llawn amser wedi'u cymeradwyo (dewch o hyd i'ch ysgol agosaf o fewn eich dalgylch);
  • yn byw dim mwy na dwy filltir i ffwrdd o'u dalgylch neu'u chweched dosbarth / campws coleg agosaf 

Fydd cludiant yn cael ei ddarparu ar gyfer myfyrwyr y brif ffrwd y tu hwnt i'w hail flwyddyn academaidd ar ôl addysg orfodol. Lle bo'r cwrs yn parhau wedi hynny, y myfyriwr fydd yn gyfrifol am drefnu'i gludiant, a thalu amdano.

Er mwyn gweld rhagor o wybodaeth edrychwch ar y Siart Llif Cymhwysedd ac i ddarllen polisi cludiant y chweched dosbarth a choleg yn llawn ewch i'r Llyfryn Dechrau'r Ysgol.

Polisi Darpariaeth Cludiant y Chweched Dosbarth a Cholegau a Chwestiynau Cyffredin 

Oes rhaid i fi wneud cais am gludiant i'r ysgol/chweched dosbarth?

Bydd gofyn i ddysgwyr sy'n mynychu chweched dosbarth yn ysgolion Uwchradd Bryn Celynnog, Treorci neu Y Pant lenwi'r ffurflen Coleg a'r chweched dosbarth.

Bydd cludiant am ddim yn cael ei asesu'n unol â'r polisi. Bydd dysgwyr cymwys yn yr ysgolion yma yn cael tocyn tymor electronig i'w ddefnyddio ar y rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus yn eu hardal. Mae’n bwysig eich bod chi'n defnyddio cyfeiriad e-bost y dysgwr wrth lenwi’r ffurflen gais. Bydd pob gohebiaeth, gan gynnwys sut i lawrlwytho ap tocyn tymor, a’r tocyn tymor ei hun, yn cael ei hanfon i gyfeiriad e-bost y dysgwr.

Pan fydd myfyrwyr yn mynychu ysgol wahanol i gael mynediad i addysg ôl-16 oed, gan nad oes darpariaeth ôl-16 oed yn eu hysgol bresennol, bydd yr ysgol newydd yn cydlynu ceisiadau cludiant o'r fath ac yn rhoi gwybod i'r Uned Trafnidiaeth Integredig. Bydd hyn yn galluogi'r hawl i gludiant am ddim i gael ei asesu yn unol â'r polisi.

Rhaid bod gan fyfyrwyr sydd yn nosbarth y Chwewch mewn ysgol ffydd hanes parhaus o fynychu ysgol wirfoddol gymorthedig o enwad crefyddol penodol er mwyn i gludiant gael ei ystyried. 

I'r disgyblion sydd eisiau mynychu'r Chweched Dosbarth yng Ngholeg Chweched Dosbarth Catholig Dewi Sant, bydd cludiant am ddim ar gael i'r rhai sydd wedi mynychu'r ysgol yn Ysgol Gyfun Gatholig Cardinal Newman ac sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf. Rhaid cofrestru yng Ngholeg Chweched Dosbarth Catholig Dewi Sant a chwblhau ffurflen gais y coleg.

Does dim gofyn statudol i ddarparu cludiant i ysgolion gwirfoddol cymorthedig (ffydd). 

Oes rhaid i mi wneud cais ar gyfer cludiant i'r Chweched Dosbarth?

RHAID i fyfyrwyr sy'n mynychu'r coleg gwneud cais am gludiant i'r coleg bob blwyddyn academaidd drwy wefan y Cyngor. 

Cyflwyno Cais am Docyn Bws Coleg Ar-lein
  • Bydd eich cais yn cael ei asesu o fewn 21 dydd yn unol â gofynion sy'n cael eu hamlinellu ym mholisi cludiant y Cyngor ac fe fyddwn yn cysylltu â chi gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost rydych wedi'i nodi ar eich ffurflen gais.  
  • Byddwn ni'n ymateb i geisiadau ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf erbyn mis Awst. 
  • Edrychwch yn eich ffolder e-bost sbam os nad ydych chi wedi cael ymateb

PEIDIWCH Â GWNEUD CAIS ARALL OS YDYCH CHI EISOES WEDI CYFLWYNO CAIS ELECTRONIG ONI BAI BOD EICH CYFEIRIAD NEU'CH CWRS WEDI NEWID 

Gwybodaeth ddefnyddiol arall

Mae Llywodraeth Cymru'n gweinyddu cynllun Fy Ngherdyn Teithio sy'n cynnig costau teithio am bris gostyngol ar drafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer unigolion 16-21 oed ar draws Cymru. Mae rhagor o wybodaeth yn ymwneud â chynllun Fy Ngherdyn Teithio ar gael yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru fel a ganlyn:

Mae gwybodaeth am wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus ar gael gan Traveline Cymru:-

Mae gwybodaeth am y cwrs a gwybodaeth gyffredinol am bob coleg ar gael ar eu gwefannau:

Mae rhagor o wybodaeth yn ymwneud â gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus ar gael gan y cwmnïau unigol: