Er mwyn darllen polisi cludiant y chweched dosbarth a cholegau yn ei gyfanrwydd, gweler Llyfryn Dechrau'r Ysgol (rhan 9).
Cwestiynau Cyffredin
- Sut mae dod o hyd i'r ysgol/chweched dosbarth penodol ar gyfer fy nalgylch?
- Oes rhaid i fi wneud cais am gludiant i'r ysgol/chweched dosbarth?
- Rydw i am fynychu'r chweched dosbarth mewn ysgol ffydd, ydw i'n gymwys i dderbyn cludiant am ddim?
- Sut mae dod o hyd i'r cyrsiau addysg bellach sydd wedi'u cymeradwyo?
- Sut mae darganfod os ydw i'n gymwys i dderbyn cludiant i'r ysgol am ddim os oes gen i anghenion dysgu ychwanegol?
- Rydw i wedi cwblhau fy nghais i dderbyn cludiant i'r coleg, beth sy'n digwydd nesaf?
- Os nad ydw i'n gymwys ar gyfer cludiant, fydda i'n cael prynu sedd ar fws contract?
- Rydw i wedi colli neu ddifrodi fy nhocyn bws neu docyn tymor.
- Gaf i wneud cais am gludiant ar unrhyw adeg?
- Beth os dwi'n symud i gyfeiriad arall?
- Gwybodaeth ddefnyddiol arall
- Gwybodaeth am y cwrs yn y coleg
Dyma'r dosbarthiadau chweched dosbarth ar gyfer dalgylchoedd Ysgolion Tonyrefail, Treorci a Bryn Celynnog:
Chweched Dosbarth Tonyrefail – Dalgylch presennol Ysgol Gymuned Tonyrefail, dalgylch Ysgol Gymuned Y Porth a dalgylch Ysgol Nant-gwyn .
Chweched Dosbarth Treorci – dalgylch presennol Ysgol Gyfun Treorci a'r dysgwyr sy'n byw yn nalgylch presennol Ysgol Gymuned Glynrhedynog.
Chweched Dosbarth Bryn Celynnog – dalgylch presennol Ysgol Uwchradd Bryn Celynnog, dalgylch Ysgol Uwchradd y Ddraenen Wen (Ysgol Afon Wen) a dalgylch Ysgol Uwchradd Pontypridd (Ysgol Bro Taf).
Chwilio am Ysgol yn eich Dalgylch
Bydd gofyn i ddysgwyr sy'n mynychu chweched dosbarth yn Ysgolion Uwchradd Bryn Celynnog, Treorci, neu Y Pant lenwi ffurflen gais y Coleg a'r chweched dosbarth.
Bydd cludiant am ddim yn cael ei asesu'n unol â'r polisi. Bydd dysgwyr cymwys yn yr ysgolion yma'n cael tocyn tymor electronig ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus i'w ddefnyddio ar rwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus leol yr ardal. Mae'n bwysig eich bod chi'n defnyddio cyfeiriad e-bost y dysgwr wrth lenwi’r ffurflen. Bydd pob gohebiaeth gan gynnwys sut i lawrlwytho ap tocyn tymor, yn ogystal â’r tocyn tymor ei hun, yn cael ei hanfon i gyfeiriad e-bost y dysgwr.
Pan fydd myfyrwyr yn mynychu ysgol wahanol i gael mynediad i addysg ôl-16 oed, gan nad oes darpariaeth ôl-16 oed yn eu hysgol bresennol, bydd yr ysgol newydd yn cydlynu ceisiadau cludiant o'r fath ac yn rhoi gwybod i'r Uned Trafnidiaeth Integredig. Os hawl gyda chi i arbed tocyn bws am ddim bydd tocyn bws yn cael ei anfon i gyfeiriad cartref y dysgwr cyn dechrau'r tymor.
Does dim gofyn i ddisgyblion chweched dosbarth sydd am barhau â'u hastudiaethau yn eu hysgol bresennolar ôl blwyddyn 11 (TGAU neu gymhwyster cyfatebol) ac sydd eisoes yn cael cludiant am ddim i'r ysgol, gymryd unrhyw gamau pellachgan y bydd y cludiant yn parhau fel o'r blaen. Cadwch eich tocyn bws os gwelwch yn dda.
Does dim gofyn statudol i ddarparu cludiant i ysgolion gwirfoddol cymorthedig (ffydd).
Rhaid bod gan fyfyrwyr hanes parhaus o fynychu ysgol wirfoddol gymorthedig (ffydd) o enwad crefyddol penodol er mwyn i gludiant gael ei ystyried.
Bydd dysgwyr sydd eisiau mynychu'r Chweched Dosbarth yng Ngholeg Chweched Dosbarth Catholig Dewi Sant, bydd cludiant am ddim ar gael i'r rhai sydd wedi mynychu'r ysgol yn Ysgol Gyfun Gatholig Cardinal Newman ac sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf. Rhaid cofrestru yng Ngholeg Chweched Dosbarth Catholig Dewi Sant a chwblhau ffurflen gais y coleg.
Mae'r polisi cludiant yma'n berthnasol i chweched dosbarth ysgolion a chyrsiau mewn colegau amser llawn sydd wedi'u cymeradwyo gan Gymwysterau Cymru yn unig. Dydy cyrsiau addysg uwch dan nawdd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (‘HEFCW’) ddim yn gymwys.
Ble mae darpariaeth y chweched dosbarth yn yr ysgol, yr ysgol sy'n gyfrifol am gyhoeddi polisïau ar dderbyn disgyblion i ddosbarthiadau’r chweched a chyhoeddi pa gyrsiau sydd ar gael. Rydyn ni'n annog disgyblion i edrych pa gyrsiau sydd ar gael yn nalgylch eu chweched dosbarth.
Ar gyfer myfyrwyr a chanddyn nhw anghenion addysgol ychwanegol, mae'n bosibl y bydd cludiant ar gael tan ddiwedd y flwyddyn academaidd y maen nhw'n cael eu pen-blwydd yn 19 oed. Mae trefniadau teithio mewn perthynas ag unrhyw bresenoldeb dilynol yn ôl disgresiwn y darparwr dysgu. Bydd trefniadau mewn perthynas ag unrhyw bresenoldeb dilynol yn cael eu hystyried wrth wneud cais, yn seiliedig ar angen gofal cymdeithasol sydd wedi'i asesu.
Os oes arnoch chi anghenion addysgol arbennig, bydd hawl gyda chi i fynd ar fws dan gontract, neu byddwn ni'n rhoi tocyn tymor ichi i'w ddefnyddio ar drafnidiaeth gyhoeddus. Bydd cludiant arbennig yn cael ei ddarparu mewn amgylchiadau eithriadol yn unig.
Efallai bydd gofyn i chi dderbyn hyfforddiant teithio i'ch galluogi chi i ddal bws contract neu fws cyhoeddus yn annibynnol. Cysylltwch â Gwasanaethau Myfyrwyr yn y coleg i gadarnhau trefniadau cludiant cyn i chi gofrestru.
6.1 Sut bydda i'n cael gwybod canlyniad fy nghais am gludiant i'r coleg?
Bydd eich cais yn cael ei asesu o fewn 21 dydd yn unol â gofynion sy'n cael eu hamlinellu ym mholisi cludiant i'r coleg y Cyngor ac fe fyddwn ni'n cysylltu â chi gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost rydych wedi'i nodi ar eich ffurflen gais.
Edrychwch yn eich ffolder e-bost sbam os nad ydych chi wedi cael ymateb.
Bydd ceisiadau ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf yn derbyn ymateb erbyn mis Awst cyn cychwyn y flwyddyn academaidd.
6.2 Sut Ydw i'n cyrraedd y coleg?
Defnyddio adnoddau’n effeithlon fydd yr ystyriaeth ar gyfer pennu’r dull cludo ym mhob achos. Bydd tocyn bws yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwasanaethau dan gytundeb neu’r gwasanaethau cyhoeddus.
Os oes gennych chi docyn mantais y bysiau (cerdyn teithio rhatach) eisoes, fyddwn ni ddim yn archebu tocyn tymor ichi – mae hawl gennych chi eisoes i deithio am ddim ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Tocynnau bws ar gael i fyfyrwyr sy’n gymwys o wasanaethau myfyrwyr pan fyddwch yn cychwyn coleg neu o fewn 21 diwrnod o gwblhau eich cais.
Bydd tocynnau tymor yn cael eu hanfon yn uniongyrchol at eich cyfeiriad e-bost yn uniongyrchol gan y darparwr trafnidiaeth gyhoeddus neu fe anfonir tocyn tymor atoch os ydych wedi gofyn am un.
Os ydych chi'n trio defnyddio'ch tocyn tymor ar ddiwrnodau heblaw am eich diwrnodau amserlen, efallai bydd eich tocyn yn cael ei dynnu oddi wrthoch chi a bydd rhaid i chi wneud cais a thalu am un newydd yn ei le. Efallai bydd y cwmni bws yn cymryd ei gamau ei hunan yn unol â'u polisi teithio sydd i'w weld ar ei wefan.
Os ydych chi wedi cael e-bost i roi gwybod i chi eich bod chi'n gymwys ar gyfer cludiant am ddim ar fws contract, bydd eich enw ar restr y contractwr a bydd modd i chi deithio ar eich diwrnod cyntaf ym mis Medi. Os nad ydych chi wedi derbyn e-bost, fyddwch chi ddim yn cael teithio oherwydd fydd eich enw chi ddim ar y rhestr.
Edrychwch yn eich ffolder e-bost sbam os nad ydych chi wedi cael ymateb.
6.3 Oes angen i mi ddarparu lluniau?
Byddwch chi'n derbyn yr wybodaeth yn yr e-bost sy'n cadarnhau'ch hawl i deithio.
Edrychwch yn eich ffolder e-bost sbam os nad ydych chi wedi cael ymateb.
6.4 Ydw i'n gymwys ar gyfer cludiant am ddim os yw fy nghwrs y tu allan i ffiniau Rhondda Cynon Taf?
Efallai y byddwch chi'n gymwys i gael cludiant os ydych chi'n dilyn cyrsiau amser llawn mewn coleg ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful, Castell-nedd Port Talbot neu Ystrad Mynach. Mae gwybodaeth am gyrsiau cymeradwy ar gael gan y canlynol:
Gwasanaeth Addysg a Dysgu Gydol Oes
Ty Trevithick
Abercynon
Aberpennar
CF45 4UQ
Ffôn: 01443 425001
Mae Llywodraeth Cymru'n gweinyddu cynllun Fy Ngherdyn Teithio sy'n cynnig costau teithio am bris gostyngol ar drafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer unigolion 16-21 oed ar draws Cymru. Mae rhagor o wybodaeth yn ymwneud â chynllun Fy Ngherdyn Teithio ar gael yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru fel a ganlyn: -
Gallwch chi hefyd wneud cais i brynu sedd ar fws gan gytundeb YN UNIG ar wefan y Cyngor. Cyntaf i'r felyn fydd hi. Fel arfer, fyddwn ni ddim yn gwybod sawl sedd sy'n weddill tan ddechrau'r flwyddyn academaidd newydd, am ein bod ni'n dal i dderbyn ceisiadau gan fyfyrwyr.
Os ydych chi'n prynu sedd a bod nifer y plant sy'n gymwys i deithio am ddim yn cynyddu yn ystod y tymor, mae'n bosib fydd dim digon o seddi ar gael. Os felly, fyddwn ni ddim yn gallu caniatau i chi deithio. Os ydy'r sefyllfa yma'n codi, bydd ad-daliad ar sail 'pro rata' yn cael ei roi i chi ar gyfer gweddill y flwyddyn.
Fyddwn ni DDIM yn gwerthu sedd i unrhyw gwsmer sydd heb dalu am seddi yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Fydd ceisiadau newydd ddim yn cael eu hystyried ar ôl diwedd gwyliau hanner tymor yr haf (Sulgwyn). Rhaid nodi pa flwyddyn academaidd rydych chi'n gwneud cais amdani, hyd yn oed os ydy dechrau'r flwyddyn wedi mynd heibio.
Os ydych yn colli neu'n difrodi eich tocyn bws neu docyn tymor trafnidiaeth gyhoeddus gallwch archebu tocyn newydd ar-lein neu drwy gysylltu â'r Uned Trafnidiaeth Integredig ar 01443 425001. Bydd rhaid i chi dalu am docyn newydd. Caiff tocyn trenau newydd ei anfon UNWAITH yn unig o fewn cyfnod o 12 mis.
Gall symud cyfeiriad gcael effaith ar eich cymhwysedd i dderbyn cludiant am ddim i'r Chweched Dosbarth/Coleg. Os ydych chi'n mynychu chweched dosbarth o fewn ysgol rhaid rhoi gwybod am eich cyfeiriad newydd i'r ysgol er mwyn iddyn nhw rannu'ch manylion newydd â'r Uned Trafnidiaeth Integredig. Os ydych chi'n mynychu coleg rhaid ymgeisio unwaith eto ar gyfer derbyn cludiant ar wefan y Cyngor.
Mae Llywodraeth Cymru'n gweinyddu cynllun Fy Ngherdyn Teithio sy'n cynnig costau teithio am bris gostyngol ar drafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer unigolion 16-21 oed ar draws Cymru. Mae rhagor o wybodaeth yn ymwneud â chynllun Fy Ngherdyn Teithio ar gael yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru fel a ganlyn:
Mae gwybodaeth am wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus ar gael gan Traveline Cymru:-
Mae rhagor o wybodaeth yn ymwneud â gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus ar gael gan y cwmnïau unigol:
Mae gwybodaeth am y cwrs a gwybodaeth gyffredinol am bob coleg ar gael ar eu gwefannau: