Skip to main content

Beth i'w wneud cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd

Mae'n bwysig paratoi ar gyfer llifogydd ac mae'r wybodaeth ganlynol yn amlinellu'r camau y mae modd i chi eu cymryd cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd a fydd yn eich helpu i'ch cadw chi, eich teulu, a'ch eiddo yn ddiogel yn ystod llifogydd.

Ffoniwch 999 os oes bywydau mewn perygl.

Cyn Llifogydd: PARATOI

  1. Byddwch yn effro i'r newyddion diweddaraf: Cadwch lygaid ar ragolygon y tywydd a rhybuddion llifogydd gan y Swyddfa Dywydd a Chyfoeth Naturiol Cymru. Mae ein tudalen yma yn dangos sut i gofrestru i gael y rhybuddion rhad ac am ddim yma.
  2. Gwiriwch eich Perygl Llifogydd: Mae rhagor o wybodaeth am y perygl llifogydd yn eich ardal ar gael ar ein tudalen yma.
  3. Creu Cynllun Llifogydd: Datblygu cynllun llifogydd ar gyfer eich cartref a/neu fusnes. Mae modd i chi ddefnyddio ein canllaw yma ar sut i greu cynllun llifogydd neu ddilyn y camau y mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi’u paratoi yma.
  4. Paratowch Becyn Llifogydd: Paratowch becyn brys gyda chyflenwadau hanfodol, gan gynnwys, dillad glân, bwyd sydd ddim yn ddarfodus, dŵr yfed, meddyginiaeth, eitemau cymorth cyntaf, tortshis, batris, radio wedi'i bweru gan fatri, dogfennau pwysig, a chynhwysydd gwrth-ddŵr. Mae modd i chi lawrlwytho ein PDF o'r hyn i'w ddewis i'w roi mewn pecyn llifogydd yma.
  5. Archwiliwch eich eiddo: Mae modd i syrfëwr nodi ffyrdd y gallai dŵr llifogydd fynd i mewn i'ch eiddo a'ch cynghori ar y ffyrdd gorau o amddiffyn eich eiddo. Ystyriwch gael syrfëwr siartredig i gynnal archwiliad llifogydd.
  6. Diogelwch eich eiddo: Cymerwch fesurau i amddiffyn eich eiddo, megis gosod rhwystrau llifogydd, selio craciau mewn waliau neu loriau, a chodi socedi, switshis ac offer trydanol uwchlaw'r lefelau llifogydd disgwyliedig. Mae rhagor o wybodaeth am ddiogelu eich eiddo ar ein tudalen yma.
  7. Gwiriwch eich yswiriant: Gofalwch fod gyda chi yswiriant addas ar gyfer eich adeilad a’i gynnwys ar gyfer difrod llifogydd (gofynnwch i’ch yswiriwr, landlord neu asiant gosod). Mae rhagor o wybodaeth am yswiriant llifogydd ar ein tudalen yma.
  8. Cadwch ddogfennau pwysig yn ddiogel: Storiwch ddogfennau pwysig, fel dogfennau adnabod, polisïau yswiriant, a chofnodion eiddo, mewn lleoliad diddos (waterproof) a hawdd ei gyrraedd. Ystyriwch gadw copïau digidol neu eu storio oddi ar y safle.
  9. Gwybod â phwy i gysylltu a sut: Gofalwch fod gyda chi rifau pwysig wedi'u cadw yn eich ffôn a'i fod wedi'i wefru'n ddigonol.

Yn ystod Llifogydd: GWEITHREDU

  1. Byddwch yn effro: Parhewch i fonitro rhybuddion llifogydd a gwrando am y newyddion diweddaraf trwy radio lleol, ffynonellau newyddion, neu sianeli cyfryngau cymdeithasol swyddogol. I gael gwybodaeth fyw am y sefyllfa llifogydd a chyngor ffoniwch y Llinell Rybuddion Llifogydd: 0345 988 1188 neu Type talk: 0345 602 6340 (ar gyfer y sawl sydd â nam ar eu clyw).
  2. Gweithredu eich Cynllun Llifogydd: Dilynwch y camau yn eich cynllun llifogydd personol / busnes. Mae modd i chi ddefnyddio ein canllaw yma ar sut i greu cynllun llifogydd neu ddilyn y camau y mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi’u paratoi yma.
  3. Defnyddio offer PFR: Mae PFR yn cyfeirio at Gynllun Gwrthsefyll Llifogydd (Property Flood Resilience and Resistance) sy'n cynnwys mesurau fel llifddorau a darnau eraill o offer i leihau a rheoli’r risg o llifddwr yn mynd i mewn i'ch eiddo. Mae rhagor o wybodaeth am y mesurau yma.
  4. Paratoi'ch Pecyn Llifogydd: Cadwch ef yn weddol 'wrth law' rhag ofn i chi gael eich symud mewn argyfwng a gwnewch yn siŵr bod pobl yn eich cartref yn gwybod ble i ddod o hyd iddo.
  5. Symudwch eich pethau gwerthfawr: Symudwch unrhyw eitemau gwerthfawr a dogfennau pwysig i fyny'r grisiau (lle bo'n bosibl) neu codwch nhw oddi ar y llawr.
  6. Datgysylltwch eich cyfleustodau: Diffoddwch y cyflenwad nwy, trydan a dŵr os yw'n ddiogel i chi wneud hynny. Peidiwch â chyffwrdd ag offer trydanol os ydych chi'n sefyll mewn dŵr neu os ydych chi'n wlyb.
  7. Symudwch i le diogel: Os yw'n ddiogel gwneud hynny ac os nad oes rhaid i chi adael yr adeilad, symudwch i lefel uchaf eich eiddo. Osgowch ystafelloedd ar lefel y ddaear a chadwh draw oddi wrth ffenestri a drysau.
  8. Anifeiliaid ac anifeiliaid anwes: Os yn bosibl, symudwch eich anifeiliaid anwes i fyny'r grisiau neu i dir uwch gyda chi a gwnewch yn siŵr bod ganddyn nhw fwyd, dillad gwely a theganau. Mae gan yr RSPCA a'r Blue Cross ragor o wybodaeth am beth i'w wneud ag anifeiliaid anwes mewn llifogydd - RSPCA a Blue Cross.
  9. Cymdogion: Helpwch unrhyw un gerllaw rydych chi'n gwybod ei fod/bod yn llai abl, fel yr henoed neu’r anabl, ond dim ond os yw’n ddiogel gwneud hynny. Os dydy hi ddim yn ddiogel rhowch wybod i'r gwasanaethau brys.
  10. Symudwch eich car: Os yw'n ddiogel gwneud hynny symudwch eich car i dir uwch.
  11. Bagiau tywod: Mae'r Cyngor yn sicrhau bod bagiau tywod ar gael i drigolion yn ystod sefyllfaoedd o argyfwng yn unig.  Mae’r Cyngor yn argymell bod trigolion sy’n gwybod bod eu cartrefi mewn perygl o ddioddef llifogydd e.e. am eu bod yn agos at gwrs dŵr, yn prynu mesurau gwrthsefyll llifogydd (Property Flood Resilience and Resistance) i leihau’r risg a rheoli effaith llifddwr sy’n mynd i mewn i'w heiddo. Mae rhagor o wybodaeth am ddiogelu eich eiddo ar ein tudalen yma.
  12. Gwybodaeth am deithio: Ystyriwch bob amser a yw eich taith yn hanfodol. Os yw'n angenrheidiol ac yn ddiogel i yrru, cynlluniwch eich taith yn ofalus cyn cychwyn a gwrandewch ar adroddiadau tywydd a theithio ymlaen llaw ac yn ystod eich taith. Mae rhagor o gyngor am yrru mewn llifogydd gan y DVLA yma.
  13. Dilynwch y canllawiau swyddogol: Gwrandewch ar y Cyngor a gwasanaethau brys am gyfarwyddiadau a dilynwch eu cyngor yn ddi-oed. Os ydych chi'n cael gorchymyn i adael, gadewch yr ardal ar unwaith a dilynwch lwybrau gadael mewn argyfwng dynodedig.
  14. Osgowch lifddwr: Peidiwch â cheisio cerdded na gyrru trwy lifddwr nac yn agos ato. Mae modd iddo fod yn ddyfnach neu'n gyflymach nag y mae'n ymddangos, ac mae'n bosibl bod peryglon cudd. Os byddwch chi'n dod i gysylltiad â llifddwr, golchwch eich dwylo'n drylwyr.

Ar ôl Llifogydd: ADFER

  1. Gofal piau hi: Mae dŵr llifogydd yn aml wedi'i halogi ac mae modd iddo gynnwys peryglon cudd fel gwrthrychau miniog a gorchuddion tyllau archwilio wedi'u codi.   
  2. Rhoi gwybod am lifogydd: Os yw eich eiddo wedi dioddef llifogydd mae modd i chi ddod o hyd i'r Awdurdod Rheoli Risg perthnasol i gysylltu ag ef ar ein tudalen yma.
  3. Dod o hyd i rywle i aros: Os oes difrod sylweddol gan lifogydd i'ch eiddo, arhoswch gyda ffrindiau neu deulu neu cysylltwch â'r Cyngor neu gwmni yswiriant i'ch helpu i ddod o hyd i lety arall. Mae Shelter Cymru yn cynnig cyngor tai annibynnol rhad ac am ddim ar-lein neu ffoniwch 08000 495 495. Mae modd i'r Groes Goch Brydeinig hefyd helpu gyda chludiant, lles a pharseli bwyd.
  4. Arhoswch i'r awdurdodau ddatgan ei fod yn ddiogel i ddychwelyd: Peidiwch â dychwelyd adref nes bod y gwasanaethau brys yn datgan ei bod yn ddiogel i wneud hynny. Byddwch yn ofalus ynghylch difrod strwythurol, peryglon trydanol, neu halogiad.
  5. Cadwch gofnod o'r difrod: Tynnwch luniau neu fideos o'r difrod llifogydd at ddibenion yswiriant. Gwnewch restr o unrhyw eitemau sydd wedi'u difrodi a'u gwerth bras.
  6. Cysylltwch â’ch cwmni yswiriant: Rhowch wybod i'ch darparwr yswiriant am y difrod llifogydd cyn gynted â phosibl. Dilynwch eu cyfarwyddiadau ar gyfer ffeilio hawliad a darparu'r ddogfennaeth angenrheidiol. Mae modd i chi wneud hyn ar gyfer eich yswiriant cartref a'ch yswiriant car. Mae modd i chi gael rhagor o wybodaeth am wneud hawliad yswiriant ar ein tudalen yswiriant llifogydd yma.
  7. Glanhau a diheintio: Glanhewch a diheintio'ch eiddo yn drylwyr, yn enwedig os bu halogiad o garthffosiaeth neu sylweddau peryglus eraill. Gwisgwch offer amddiffynnol yn ystod y broses lanhau. Mae rhagor o wybodaeth am lanhau ar ôl llifogydd ar gael gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yma.
  8. Mynnwch gyngor gweithwyr proffesiynol am waith atgyweirio: Cysylltwch â gweithwyr proffesiynol cymwys ar gyfer gwaith atgyweirio ac adfer angenrheidiol. Peidiwch â gwneud y gwaith eich hun os ydych chi'n ansicr o'r gweithdrefnau cywir.
  9. Adolygwch fesurau gwydnwch a'u gwella: Aseswch effeithiolrwydd eich mesurau gwrthsefyll llifogydd ac ystyriwch roi mesurau neu welliannau ychwanegol ar waith i leihau risgiau llifogydd yn y dyfodol. Dysgwch ragor am fesurau gwydnwch ar gyfer eich eiddo ar y Tudalennau Glas yma a'r Fforwm Llifogydd Cenedlaethol yma.
  10. Cymorth Iechyd Corfforol a Meddyliol: Gall llifogydd a'r difrod cysylltiedig gael effeithiau eraill yn ogystal â rhai ffisegol. Os ydy eich iechyd meddwl chi'n dioddef ar ôl llifogydd, mae cyngor a chymorth ar gael ar ein tudalen Iechyd Meddwl yma.

Cofiwch, diogelwch personol ddylai fod y brif flaenoriaeth bob amser yn ystod llifogydd. Dilynwch ganllawiau y Cyngor a gwasanaethau brys a chymerwch gamau priodol i amddiffyn eich hun a'ch anwyliaid.

Am ragor o wybodaeth am beth i'w wneud cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd mae modd i chi ymweld â thudalen we bwrpasol Cyfoeth Naturiol Cymru yma a gweld eu taflen “Sut i baratoi ar gyfer llifogydd” yma .