Skip to main content

Yswiriant Llifogydd

Mae yswiriant llifogydd fel arfer yn cael ei gynnwys yn rhan safonol o'ch yswiriant adeiladau, sy'n eich diogelu rhag difrod i strwythur eich eiddo. Ond dyw hyn ddim yn cynnwys yr elfen 'cynnwys yr adeilad'. Os ydych chi am i gynnwys eich cartref gael ei ddiogelu rhag difrod llifogydd hefyd, bydd angen yswiriant cynnwys arnoch.

Os ydych chi’n byw mewn ardal sy’n cael ei hystyried fel ardal lle mae perygl llifogydd posibl, efallai y bydd angen yswiriant llifogydd arnoch chi rhag ofn:

  • Bod afon neu gwrs dŵr yn gorlifo.
  • Bod llifogydd o'r môr oherwydd stormydd a/neu lanw uchel.
  • Bod llifogydd dŵr wyneb neu ddŵr daear cyflym o ganlyniad i law trwm neu bibell wedi byrstio.

Mae modd i chi wirio eich Perygl Llifogydd drwy ymweld â mapiau Perygl Llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru drwy chwilio eich cod post yma.

Mae Yswiriant Llifogydd yn cynnwys cost:

  • Cael gwared ar falurion.
  • Ffioedd proffesiynol (fel cyfreithwyr, penseiri a syrfewyr).
  • Atgyweirio neu adnewyddu dodrefn ac eiddo sydd wedi'u difrodi.
  • Llety os does dim modd i chi fyw yn eich cartref.
  • Sychu, atgyweirio ac adfer eich eiddo a'i osodion a'i ffitiadau.

I ddysgu rhagor am Yswiriant Llifogydd ac awgrymiadau ar sut i gael yr yswiriant llifogydd cywir ewch at ganllaw Helpwr Arian yma.

Flood Re

Os ydych chi’n cael trafferth dod o hyd i yswiriant sy’n fforddiadwy, efallai y gall y cynllun Flood Re eich helpu.

Mae Flood Re yn fenter ar y cyd rhwng Llywodraeth San Steffan a'r diwydiant yswiriant. Ei nod yw helpu darparwyr yswiriant i gynnig polisïau mwy fforddiadwy i aelwydydd ag eiddo cymwys sydd wedi eu heffeithio gan lifogydd.

Dydy rhai adeiladau ddim yn gymwys ar gyfer Flood Re, gan gynnwys tai allan ffermydd, rhai eiddo preswyl prynu-i-osod a chartrefi a adeiladwyd ers 1 Ionawr 2009.

Dysgwch ragor am y cynllun Flood Re, gan gynnwys y meini prawf cymhwyster llawn, ar eu gwefan yma.

Gwneud Hawliad Yswiriant 

Ym mron pob achos, bydd y cwmni yswiriant yn eich rhoi chi mewn cysylltiad ag aseswr colledion i asesu'r difrod a goruchwylio unrhyw waith. Byddan nhw'n cadarnhau pa atgyweiriadau ac amnewidiadau sydd eu hangen a pha elfennau sy'n cael eu cynnwys yn eich polisi. 

Gofynnwch i’r cwmni yswiriant:

  • Pa mor hir fydd hi cyn i'r aseswr colled ymweld?
  • Os oes angen i chi lanhau eich eiddo neu os byddan nhw'n cael cwmni i wneud hynny ar eich rhan.
  • Os byddan nhw'n helpu i dalu am waith atgyweirio a fydd yn lleihau difrod llifogydd posibl ac felly'n lleihau costau os bydd rhagor o lifogydd.
  • Os byddan nhw'n darparu llety dros dro i chi - gall hyn fod yn wely a brecwast, carafán sefydlog neu dŷ ar rent gerllaw. Does dim rhaid i chi dderbyn y lle cyntaf a gynigir i chi.

Gwnewch eich cofnod eich hun o ddifrod llifogydd bob amser:

  • Defnyddiwch bin ysgrifennu parhaol i nodi'r uchder y cyrhaeddodd y llifddwr ar y wal.  Gwnewch hyn ym mhob ystafell y mae llifogydd yn effeithio arni.
  • Tynnwch lun neu gwnewch fideo o'ch eiddo sydd wedi'i ddifrodi a rhestrwch y difrod i'ch eiddo.
  • Os yw eich cwmni yswiriant yn eich diogelu rhag colli nwyddau darfodus, gwnewch restr o'r holl fwydydd rydych chi'n eu taflu. Cynhwyswch unrhyw fwyd sy'n cael ei gyffwrdd gan ddŵr llifogydd ac unrhyw beth yn eich oergell neu rewgell sydd wedi'i ddifetha oherwydd colli pŵer.

Gair i gall:

  • Cadarnhewch y bydd y cwmni yswiriant yn talu am unrhyw wasanaethau neu offer sydd eu hangen arnoch chi.
  • Gwnewch nodyn a chofnod o bob galwad ffôn. Cofnodwch y dyddiad, yr enw a'r hyn y cytunwyd arno yn ystod yr alwad.
  • Cadwch gopïau o lythyrau, e-byst, a negeseuon ffacs rydych chi yn eu hanfon a'u derbyn.
  • Cadwch dderbynebau.
  • Peidiwch â thaflu dim byd nes cewch chi gyfarwyddyd i wneud hynny (ac eithrio bwyd wedi'i ddifetha).

Os ydych chi'n rhentu eich eiddo, cysylltwch â'ch landlord a'ch cwmni yswiriant cynnwys cyn gynted â phosibl. Mae gan y Ganolfan Cyngor ar Bopeth rhagor o gyngor ar ddelio â llifogydd mewn cartref ar rent.

Mae gan Gymdeithas Yswirwyr Prydain gyngor i fusnesau sydd wedi'u heffeithio gan lifogydd.

Os oes angen rhagor o gymorth a chefnogaeth arnoch chi, cysylltwch â: