Skip to main content

Sut i roi Gwybod am Lifogydd

Gwnewch yn siŵr eich bod chi a'ch teulu'n ddiogel cyn rhoi gwybod am lifogydd. Os yw’n argyfwng ffoniwch 999.

Pam y dylech roi gwybod am lifogydd?

Un o'r prif resymau y dylech roi gwybod am lifogydd yw er mwyn i'r awdurdod rheoli perygl fod yn ymwybodol o ble mae materion llifogydd. Os nad ydyn nhw'n gwybod yna mae'n annhebygol y byddan nhw'n gallu helpu.

Gyda phwy i gysylltu?

Gall llifogydd ddigwydd am nifer o resymau ac mae sefydliadau gwahanol yn gyfrifol am lifogydd mewn gwahanol sefyllfaoedd. I ddysgu mwy am ba sefydliad sy’n gyfrifol am wahanol fathau o lifogydd, ewch i’n tudalen we Mathau o Lifogydd yma.

Os gallwch darganfod ffynhonnell y llifogydd, yna gallwch roi gwybod yn uniongyrchol i'r sefydliad perthnasol. Os nad ydych yn siŵr o ble mae’r dŵr yn dod, rhowch wybod i ni gan ddefnyddio manylion Canolfan Cyswllt Cwsmeriaid y Cyngor isod.

Llifogydd o gwrs dŵr cyffredin, dŵr wyneb (nid ar y ffordd) neu ddŵr daear 

Cysylltwch â’r Cyngor fel yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol drwy Ganolfan Cyswllt Cwsmeriaid y Cyngor ar 01443 425001 (8:30YB – 5YP, Dydd Llun – Dydd Gwener)

Y tu allan i oriau swyddfa, cysylltwch â rhif ffôn brys y Cyngor ar 01443 425011

 

Llifogydd o ddraen neu gwter wedi blocio neu ddŵr wyneb ar y ffordd

Cysylltwch â’r Cyngor fel yr Awdurdod Priffyrdd drwy Ganolfan Cyswllt Cwsmeriaid y Cyngor ar 01443 425001 (8:30YB – 5YP, Dydd Llun – Dydd Gwener)

Y tu allan i oriau swyddfa, cysylltwch â rhif ffôn brys y Cyngor ar 01443 425011

Fel arall, gallwch roi gwybod am ddraeniau a chwteri sydd wedi blocio drwy dudalen we’r Cyngor yma.

Cysylltwch ag Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru ar gyfer llifogydd o draffyrdd a phrif gefnffyrdd ar 0300 123 1213 neu fel arall gallwch roi gwybod am broblem llifogydd a draenio drwy Llifogydd a draeniad | Traffig Cymru

 

Llifogydd o Brif Afon

Cysylltwch â Cyfoeth Naturiol Cymru ar eu llinell ddigwyddiadau 24 awr ar 0300 065 3000

I gael rhagor o wybodaeth ewch i’w tudalen we 'Rhoi gwybod am ddigwyddiad yma'. 

 

Llifogydd o garthfosydd neu brif bibell ddŵr wedi byrstio

I roi gwybod am garthffos gyhoeddus sy’n gorlifo o’r prif gyflenwad dŵr, ffoniwch Gwasanaethau Cwsmer Dŵr Cymru ar y llinell ddigwyddiadau 24 awr ar 0800 085 3968.

Am ragor o wybodaeth ewch i’w tudalen we 'Cysylltu â ni'.

 

Mae rhagor o wybodaeth am sut i amddiffyn eich hun a’ch eiddo ar gael ar ein tudalen we ‘Parodrwydd ac Ymwybyddiaeth Llifogydd’.