Skip to main content

Gwirfoddoli gyda Llyfrgelloedd Rhondda Cynon Taf

Mae Gwasanaeth Llyfrgelloedd Rhondda Cynon Taf yn cydnabod y gall gwirfoddolwyr sy'n gweithio ochr yn ochr â staff llyfrgelloedd chwarae rhan bwysig wrth ehangu a gwella'r gwasanaethau llyfrgell rydyn ni'n eu darparu.

Gall gwirfoddoli fod yn brofiad buddiol a gwerth chweil sy'n eich helpu chi:

  • i gael hyfforddiant a phrofiad ymarferol
  • i gwrdd â phobl newydd a helpu eraill
  • i wella’ch hyder
  • i wella'ch CV
  • i ddysgu sgiliau newydd

Bydd Gwasanaeth Llyfrgelloedd Rhondda Cynon Taf yn nodi cyfleoedd gwirfoddoli mewn llyfrgelloedd ledled y Fwrdeistref Sirol. P'un ai eich bod chi'n mwynhau darllen, sgwrsio neu eisiau helpu pobl i fynd ar-lein, efallai y bydd cyfle i chi.

Wrth i gyfleoedd gwirfoddoli godi, byddan nhw'n cael eu hysbysebu yma, felly dewch yn ôl yn rheolaidd i weld y diweddariadau.

Sut i wirfoddoli

Byddwn ni'n hyrwyddo cyfleoedd gwirfoddoli wrth iddyn nhw godi. 

Darllenwch y swydd ddisgrifiad yn ofalus cyn penderfynu a yw'r cyfle gwirfoddoli yn addas i chi. Bydd y disgrifiad yn rhoi gwybodaeth gyffredinol am y cyfle gwirfoddoli gan gynnwys y lleoliad a'r nifer o oriau, os yw hynny'n briodol. 

Am ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost at: Menna.James@rctcbc.gov.uk

Darllenwch ein Polisi Gwirfoddoli (PDF)

Nodwch y byddwn ni'n parhau i gefnogi ceisiadau ar gyfer profiad gwaith, a gwirfoddoli yn rhan o Fagloriaeth Cymru a Gwobr Dug Caeredin. I wneud cais ar gyfer y rhain, cysylltwch â'ch llyfrgell leol.