Skip to main content

Llyfrgelloedd cyfeirio

Mae Llyfrgelloedd Cyfeirio ar gael yn Aberdâr, Pontypridd a Threorci ac mae staff penodol ar gael i ymdrin ag ymholiadau. Does dim staff cyfeirio pwrpasol yn y lleoliadau yma drwy’r amser. Cysylltwch â’r llyfrgell i drefnu apwyntiad neu holi a oes staff cyfeirio ar gael ar adeg sy’n gyfleus i chi.

Ymholiadau Cyfeirio

Gallwch gael fynediad at ddeunyddiau cyfeirio, fel papurau newyddion, cylchgronau, geiriaduron, cyfarwyddiaduron, mapiau a ffotograffau yn y llyfrgell gyfeirio. Does dim modd benthyg yr eitemau hyn, ond gallwch eu hymgynghori yn ein llyfrgelloedd ar ein desgiau astudio penodol, sydd â sganwyr microfilm / fiche digidol.

Mae modd defnyddio sganwyr microffilm/microfiche Canon MS800 digidol gyda dogfennau microffilm a microfiche y llyfrgelloedd. Mae'r dogfennau hyn yn cynnwys ffurflenni cyfrifiad ar gyfer yr ardaloedd lleol ac ôl-gopïau o lawer o'r papurau newydd lleol. 

Os oes ymholiad gennych chi, anfonwch neges e-bost at:Library:Cyfeirnod.Llyfrgell@rctcbc.gov.uk

Gall ein staff cyfeirio ddarparu gwybodaeth am Rondda Cynon Taf i holl drigolion neu bobl eraill.

Gall wybodaeth ehangach, cyffredinol gael ei ddarparu i'r rheiny sy'n byw, astudio neu'n gweithio yn Rhondda Cynon Taf.