Lynette - Gweithiwr Cymdeithasol, Carfan Plant Anabl – Y Gorllewin

Ers pryd ydych chi wedi bod yn eich swydd a beth oeddech chi'n ei wneud o'r blaen?

Ymunais â Chyngor RhCT fel Gweithiwr Cymorth ac roeddwn i hefyd yn Weithiwr Cymdeithaso dan hyfforddiant yn y Garfan Plant sy'n Derbyn Gofal yn 2006.  Cyn hyn, roeddwn i'n gwneud gwaith cyflogedig a gwirfoddol gyda phlant a theuluoedd mewn amrywiaeth o leoliadau. Roedd gen i lawer o ddiddordebau a phrofiad, fodd bynnag, roeddwn i'n teimlo bod angen gyrfa arnaf i.

Dechreuais ar fy ngyrfa ym maes gofal cymdeithasol gyda'r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid fel gwirfoddolwr. Yn dilyn hyn, ces i swydd fel Cydlynydd Cynhalwyr Ifainc ac roeddwn i'n mwynhau gweithio gyda phobl ifainc a'u gweld yn datblygu ac yn tyfu. Yna dechreuais gyda chamau bach i gwblhau cyrsiau gyda'r Brifysgol Agored. Arweiniodd hyn at gwblhau fy nghymhwyster mewn Gwaith Cymdeithasol. Doedd hyn ddim yn hawdd, gan fy mod yn rhiant sengl gyda phedwar o blant, fodd bynnag, mwynheais y gwaith a'r lleoliadau.  

Yna cefais fy nghyflogi yn weithiwr cymdeithasol yn y Garfan Asesu a Chynllunio Gofal a chefais ddyrchafiad yn 2009 i fod yn Uwch Ymarferydd. Bûm yn y rôl honno am tua 9 mlynedd. Yna symudais i'r Garfan Plant Anabl.

Beth mae eich swydd yn ei gynnwys a sut beth yw diwrnod arferol?

Mae fy swydd bresennol yn ymwneud â rhoi cymorth i blant a theuluoedd sydd â phlentyn ag anghenion ychwanegol.  Mae pob diwrnod yn wahanol.  Er enghraifft, efallai byddaf i'n cynnal asesiad gyda phlentyn a theulu i weld a yw'r plentyn angen cymorth gan y Garfan Plant Anabl. Mae cwrdd â'r teulu a'r plentyn a thrafod eu hanghenion yn bleser i mi, rydw i wrth fy modd yn rhyngweithio â theuluoedd
 
Rydyn ni’n edrych ar gynnig y cymorth cywir i deuluoedd ar yr adeg gywir i leddfu rhywfaint o’r straen y maen nhw yn ei brofi.

Rydyn ni hefyd yn edrych ar faterion diogelu ac rydyn ni'n gwybod os oes unrhyw faterion amddiffyn plant ar waith.  Rydyn ni bob amser yn ceisio helpu pan fo sefyllfaoedd yn codi, gan fod angen cymorth ar deuluoedd.  Serch hynny, mae hefyd yn dda i ystyried pa gymorth sydd gan y teuluoedd yn eu rhwydweithiau a'u hannog i fod yn annibynnol lle bynnag y bo modd. Mae rhan o'n rôl hefyd yn ymwneud â gweithio gyda Phlant sy'n Derbyn Gofal sydd ag anghenion ychwanegol ac maen nhw'n cael cymorth i sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu diwallu 

Beth yw’r peth/pethau gorau am eich swydd?

Gweithio a sgwrsio â'r plant a'r bobl ifainc, dyma'r rheswm y penderfynais weithio ym maes Gwaith Cymdeithasol. Weithiau mae'n rhaid iddyn nhw fynd i'r afael â heriau a phroblemau anodd, fodd bynnag, rydw i wedi mwynhau gweithio gyda'r teuluoedd a'u gwylio nhw'n tyfu ac yn rheoli'r heriau yma.  Mae gen i hefyd garfan a rheolwr carfan anhygoel o gefnogol sy'n bwysig iawn i mi, rydw i’n gwerthfawrogi'r gefnogaeth yma.

Beth wnaeth eich denu chi i wneud cais am swydd gyda Chyngor RhCT?

Fe wnes i fwynhau'r lleoliad gyda'r garfan Plant sy'n Derbyn Gofal gymaint, roeddwn i'n gwybod fy mod eisiau gweithio gyda charfan gofal cymdeithasol i blant RhCT. Roeddwn i mor ddiolchgar i RCT a gymerodd fi fel Gweithiwr Cymorth, ac a ganiataodd i mi barhau gyda'r rôl yma, wrth astudio nes i mi gael swydd fel Gweithiwr Cymdeithasol cymwys.  Dysgais gymaint yn fy mlynyddoedd cyntaf ac mae hyn wedi fy helpu yn fy ngyrfa.

Beth yw eich profiadau cadarnhaol yn ystod eich gyrfa gyda Chyngor RhCT?

Mae hyfforddiant bob amser wedi bod yn ardderchog gyda RhCT ac rydw i wrth fy modd â'r ysbryd tîm, rydyn ni fel teulu.

Beth yw'r peth gorau am weithio i Gyngor RhCT?

Gweithio hyblyg, mae'r hyfforddiant yn eithriadol ac mae cydweithwyr yn rhoi llawer o gefnogaeth i'w gilydd.

Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth rywun sy'n ystyried gwneud cais am swydd ym maes gofal cymdeithasol yng Nghyngor RhCT?

Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth rywun sy'n ystyried gwneud cais am swydd ym maes gofal cymdeithasol yng Nghyngor RhCT!!