Alison - Uwch Therapydd Galwedigaethol yn y Gymuned, Carfan Plant Anabl

Ers pryd ydych chi wedi bod yn eich swydd a beth oeddech chi'n ei wneud o'r blaen?

Rwyf wedi gweithio i Gyngor RhCT ers dros 34 o flynyddoedd a dechreuais ychydig ar ôl i mi wneud fy Lefelau A.

Bûm yn ddigon ffodus i gael lle ar raglen hyfforddiant mewn swydd y Cyngor i ymgymryd â’r Radd Therapi Galwedigaethol 4 blynedd a ariannwyd gan y Cyngor. Cymhwysais yn 2001 ac ymunais â'r Garfan Therapi Galwedigaethol ac mewn cyfnod byr des yn 1 o'r 2 Therapydd Galwedigaethol a greodd y Gwasanaeth Ailalluogi, sydd wedi tyfu a datblygu'n aruthrol. Yn y cyfnod yma hefyd, ymgymerais â chymhwyster ôl-raddedig a oedd yn caniatáu i mi ddysgu Therapi Galwedigaethol i fyfyrwyr.

Yn 2004 cododd cyfle i Uwch Ymarferydd yn y Garfan Plant Anabl ddechrau a chreu gwasanaeth Therapi Galwedigaethol newydd i blant. Fe wnes i gais a chael y swydd ac rydw i wedi bod yno ers hynny, gan gymryd blwyddyn allan i gael fy merch fy hun.

Mae’r gwasanaeth Therapi Galwedigaethol i Blant wedi tyfu a newid yn sylweddol dros y blynyddoedd a hyd yma mae wedi cael effaith gadarnhaol sylweddol, a gobeithio y bydd yn parhau i wneud hynny.

Beth mae eich swydd yn ei gynnwys a sut beth yw diwrnod arferol?

Rydw i’n rheoli’r Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol i Blant. Rydw i'n ymateb i alwadau gan gleientiaid, staff, Gweithwyr Cymdeithasol a gweithwyr proffesiynol eraill. Rydw i hefyd yn cymeradwyo atgyfeiriadau i’r gwasanaeth, yn awdurdodi asesiadau wedi’u cwblhau, ac yn datblygu cynlluniau ymyrryd (yr hyn y mae cynllun y Therapydd Galwedigaethol i’w wneud i helpu teuluoedd). Rydw i'n cwblhau tasgau AD cyffredinol ar gyfer fy ngharfan ac yn cynnig cymorth ac arweiniad i bwy bynnag sydd ei angen, yn ogystal â chynnal rhai o’r asesiadau mwy cymhleth fy hun. Rydw i hefyd yn mynychu llu o gyfarfodydd ar ddatblygiadau gwasanaeth, rheoli gwasanaethau a chyllidebau.

Beth yw’r peth/pethau gorau am eich swydd?

Gwybod ein bod ni'n gwneud cymaint o wahaniaeth yn y modd y mae teuluoedd yn llwyddo i ymdopi â gofalu am blentyn anabl, ac mewn llawer o achosion yn rhoi’r sgiliau a’r modd i’r plentyn ddod mor annibynnol â phosibl.

Beth yw eich profiadau cadarnhaol yn ystod eich gyrfa gyda Chyngor RhCT? 

Rydw i wedi symud ymlaen o’r gwaelod i fyny ac mae RhCT wedi fy helpu i ennill cyfoeth o brofiad yn ogystal â’m cymwysterau proffesiynol.

Beth yw'r peth gorau am weithio i Gyngor RhCT?

Y cyfleoedd rydw i wedi'u cael a bod yn agos at fy nghartref (neu fel sy'n digwydd ar hyn o bryd yn gweithio o gartref) sy'n helpu gyda'r cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.

Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth rywun sy'n ystyried gwneud cais am swydd ym maes gofal cymdeithasol yng Nghyngor RhCT?

Rhowch gynnig arni! Mae llawer o rolau yn y Cyngor a digon o gyfle i dyfu a datblygu os ydych chi'n dymuno gwneud hynny. Byddwch chi'n cael eich gwobrwyo am weithio'n galed.