Hayley - Rheolwr Cynorthwyol Dros Dro, Carfan Ymyrraeth Tymor Byr - Cymorth yn y Cartref

Ers pryd ydych chi wedi bod yn eich swydd a beth oeddech chi'n ei wneud o'r blaen?

Rydw i wedi gweithio i Gyngor RhCT ers 30 mlynedd. Dechreuais fel Gweithiwr Cymorth yn y Cartref, yn cynorthwyo pobl gyda thasgau domestig a gofal personol. Ar y pryd roeddwn i'n chwilio am swydd gydag oriau hyblyg rhan amser oherwydd fy mod i'n dechrau teulu. Cyn hyn roeddwn i'n gweithio mewn swyddi ffatri.

Ar ôl 6 blynedd gwnes i gais am swydd Goruchwyliwr Wrth Gefn a bûm yn llwyddiannus. 7 mlynedd yn ddiweddarach daeth cyfle pan oedd y gwasanaeth ymyrraeth tymor byr yn cael ei ddatblygu, fe wnes i gais am rôl newydd yn y Gwasanaeth Gofal Canolraddol newydd ac roeddwn i'n llwyddiannus. Buom ni'n treialu’r gwasanaeth newydd yma am 2 flynedd gyda fi ac uwch reolwr ac roedd e'n llwyddiant. Rydw i wedi gweld y gwasanaeth yn datblygu o garfan o 9 aelod o staff i 90 o staff rheng flaen sy’n profi bo modd cyflawni deilliannau gwych drwy waith caled, ymrwymiad ac ymroddiad. Yna newidiodd fy swydd i Reolwr Cyflenwi Gwasanaethau y Gwasanaeth Gofal Canolraddol,  sef fy swydd barhaol. Yn dilyn datblygiadau pellach, fi yw'r Rheolwr Cynorthwyol Dros Dro ar gyfer y Gwasanaeth Cymorth yn y Cartref ar hyn o bryd.

Dros 30 mlynedd rydw i wedi cael cyfleoedd enfawr, wedi ennill cymwysterau ac yn teimlo'n angerddol dros annog cynhalwyr ifanc i ddatblygu eu sgiliau a magu hyder. Rydyn ni'n recriwtio’n fisol ac rydw i'n rhan o’r broses recriwtio honno. Rydw i'n gallu rhannu fy mhrofiadau gyda'r staff newydd drwy'r cyfnod sefydlu a'u hannog i beidio â bod ofn datblygu sgiliau a'u defnyddio.

IRydw i’n cael boddhad mawr yn fy rôl yn gweld cynhalwyr yn symud ymlaen ac yn datblygu i fod yn Oruchwylwyr, Aseswyr Risg a Rheolwyr o fewn y gwasanaeth. Mae hyn yn gyflawniad gwych. Rydw i’n edrych yn ôl dros y blynyddoedd ac yn teimlo'n falch o'r hyn rydw i wedi'i gyflawni. Hefyd, dwi byth yn anghofio o ble daeth fy nysgu gyntaf a sut mae bod yn weithiwr gofal yn y gymuned wedi rhoi'r holl gefndir, gwybodaeth a sgiliau i mi fod lle rydw i heddiw. Mae hyn wedi fy helpu i gefnogi staff unigol yn y gymuned gan ddefnyddio fy mhrofiadau.

Beth mae eich swydd yn ei gynnwys a sut beth yw diwrnod arferol?

Fi yw Rheolwr Cynorthwyol Dros Dro y Gwasanaeth Cymorth yn y Cartref ar hyn o bryd. Rydw i'n rheolwr llinell uniongyrchol ar Reolwyr Cyflenwi Gwasanaethau. Mae diwrnod arferol yn amrywio, rydyn ni'n darparu gwasanaethau i 400 o ddefnyddwyr gwasanaeth ac yn rheoli 350 o staff sy'n cynnwys Cynllunwyr, Swyddogion Dyletswydd, Goruchwylwyr, Aseswyr Risg a staff cymunedol.

Beth yw’r peth/pethau gorau am eich swydd?

Cefnogi pobl, gweld staff yn datblygu sgiliau a hyder drwy ddarparu hyfforddiant ardderchog. Darparu gwasanaeth da i'n defnyddwyr gwasanaeth gyda deilliannau cadarnhaol.

Beth yw'r peth gorau am weithio i Gyngor RhCT?

Cyfleoedd hyfforddi a datblygu a deilliannau gwerth .

Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth rywun sy'n ystyried gwneud cais am swydd ym maes gofal cymdeithasol yng Nghyngor RhCT?

Byddwn i’n annog yr unigolyn i wneud cais i weithio i Gyngor RhCT, rydyn ni’n derbyn hyfforddiant o ansawdd uchel ac yn cael cefnogaeth lawn.