Nic - 'Learning Curve' Cwm Cynon (Gwasanaeth Cyfleoedd Oriau Dydd Anabledd Dysgu)

Ers pryd ydych chi wedi bod yn eich swydd a beth oeddech chi'n ei wneud o'r blaen?

Rydw i wedi gweithio i Gyngor RhCT ers 30 mlynedd, gan ddechrau fel gwirfoddolwr. Rydw i wedi gweithio fel Rheolwr ers 18 mlynedd.

Beth mae eich swydd yn ei gynnwys a sut beth yw diwrnod arferol?

Mae fy nyddiau'n wahanol iawn ar hyn o bryd, oherwydd pandemig Covid-19; rydyn ni'n ymateb i heriau a blaenoriaethau sy'n newid bob dydd. Cyn Covid 19, pan roeddwn ni'n gweithredu gwasanaeth llawn, roedd dyddiau’n brysur yn arwain a rheoli tîm o 40 o staff, gan ddarparu gwasanaethau ar gyfer 115 o oedolion ag anableddau dysgu bob wythnos.

Roedd gweithio mewn partneriaeth yn cael ei bwysleisio er mwyn rhoi amrywiaeth o gyfleoedd i'r unigolion. Mae gyda ni hefyd rôl o ran hyrwyddo busnesau cyhoeddus a'r Cyngor rydyn ni'n eu gweithredu yn rhan o wasanaethau 'Learning Curve' Cwm Cynon.

Beth yw’r peth/pethau gorau am eich swydd?

Yr amrywiaeth. Rydw i'n aml yn dweud bod pob diwrnod yn wahanol. Mae gweithio ochr yn ochr ag oedolion ag anableddau dysgu yn rôl werth chweil, sy'n gofyn yn gyson i chi fyfyrio ar arfer a meddyliau. Rydw i'n cwrdd ag amrywiaeth o bobl sy’n awyddus i ddysgu a datblygu sgiliau, sy’n gwella ansawdd bywyd yr unigolion rydyn ni'n eu cefnogi.

Beth wnaeth eich denu chi i wneud cais am swydd gyda Chyngor RhCT?

Cyn gweithio i Gyngor RhCT, doeddwn i ddim wedi ystyried swydd mewn Gwasanaethau i Oedolion. Rydw i'n credu roeddwn i'n ansicr ynghylch yr ystod eang o rolau sydd ar gael yn y Cyngor, ac felly nid oeddwn i'n sicr pa rinweddau y gallwn i eu cynnig. Unwaith y cefais fy nghyflwyno i'r Gwasanaeth Anableddau Dysgu, buan iawn y daeth yn fywyd ac yn angerdd i mi.

Beth yw eich profiadau cadarnhaol yn ystod eich gyrfa gyda Chyngor RhCT? 

Bu nifer o bethau cadarnhaol, o weld unigolion yn cael rhagor o annibyniaeth a sgiliau, i roi cyfleoedd newydd i fwynhau ar waith. Yn fwyaf diweddar, fe wnaethon ni ennill Rhaglen Gynhwysiant Gymunedol y Flwyddyn yr Uwch Gynghrair/BT 2018-19 ar gyfer ein menter Pêl-droed Cerdded ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu, a gyflwynwyd ar noson hyfryd yn Stadiwm Pêl-droed Dinas Abertawe. Yn ogystal, mae gyda ni grŵp yn Learning Curve Cwm Cynon, o'r enw “Only Signs Aloud”. Mae'r grŵp yn cynnwys oedolion ag anableddau dysgu, yn perfformio iaith arwyddion i ganeuon, mae gwylio'r perfformiadau bob amser yn emosiynol iawn. Rydw i bob amser yn rhyfeddu pa mor fedrus yw unigolion i gofio cymaint o’r arwyddion.

Rydw i hefyd yn arbennig o hoff o gefnogi amrywiaeth o leoliadau mewn gwasanaethau, i ddatblygu staff ar gyfer y dyfodol ac i rannu profiadau cadarnhaol o wasanaethau anableddau dysgu i gynulleidfa ehangach.

Beth yw'r peth gorau am weithio i Gyngor RhCT?

Rydw i'n mwynhau gweithio i Gyngor RhCT, rydw i'n mwynhau amrywiaeth y rôl. Mae modd i rai dyddiau fod yn heriol, ond mae'r rhwydwaith cymorth bob amser yn bresennol, i sicrhau ein bod ni'n cyflawni ein deilliannau, gan sicrhau ein bod ni'n gallu darparu gwasanaethau y mae mawr eu hangen.

Rydw i wedi gweithio gyda nifer o gydweithwyr, staff a phartneriaid yn ystod fy ngyrfa hir; maen nhw wedi bod yn bobl arbennig iawn gydag ymrwymiad cryf i ddarparu gwasanaethau o safon yn RhCT. Rydw i'n falch o ddweud fy mod yn gweithio yn rhan o garfan Cyngor Rhondda Cynon Taf!

Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth rywun sy'n ystyried gwneud cais am swydd ym maes gofal cymdeithasol yng Nghyngor RhCT?

Os yw gofal cymdeithasol yn agos at eich calon, cewch chi'r profiad gorau drwy weithiio i Gyngor RhCT. Bydd y Cyngor yn darparu cyfleoedd dysgu a datblygu rhagorol, amrywiaeth o rolau ac yn bwysicaf oll staff medrus a chymwys iawn i'ch sefydlu a'ch cefnogi yn eich rôl newydd.

Tudalennau yn yr Adran Hon