Cyfleoedd i Raddedigion

Rhaglen i Raddedigion Cyngor Rhondda Cynon Taf yn agor NAWR!

Mae modd i chi weld y rhestr gyfan o swyddi gwag, disgrifiadau swyddi unigol, ac ymgeisio am swyddi ar ein gwefan:  Swyddi gwag

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cynnig amrywiaeth o swyddi Swyddogion i Raddedigion yn 2023. P'un a ydych chi ym mlwyddyn olaf eich gradd, neu'n meddu ar radd yn barod, mae'r cyfleoedd isod ar gael i chi!

Swyddog Graddedig – Peirianneg Sifil

Bydd y Swyddog Graddedig yn gweithio yn rhan o Adran y Priffyrdd, Trafnidiaeth a Chynlluniau Strategol. Bydd yn ymgymryd â gwaith mewn sawl maes yn ymwneud â pheirianneg sifil, gan gynnwys astudiaethau dichonolrwydd, dylunio manwl, paratoi dogfennau contractau, rheoli contractau a goruchwylio safle. Byddwch chi'n drefnus iawn, gyda'r gallu i weithio'n annibynnol a bod yn angerddol dros weithio ym maes peirianneg. Gradd Anrhydedd (o leiaf 2:2) sydd wedi'i hachredu gan Sefydliad Y Peirianwyr Sifil (ICE) er mwyn cael eich cynnwys yn aelod o'r sefydliad hwnnw. Wedi cofrestru â'r Cyngor Peirianneg (Engineering Council) yn beiriannydd corfforedig (Iang).

Swyddog Graddedig – Cyfrifeg 

Bydd y Swyddog Graddedig yn meddu ar lygad craff am fanylder ac yn gallu cynhyrchu gwaith cywir o safon. Dyma swydd brysur ac mae'n cynnwys rheoli sawl dyddiad cyflwyno, a gweithio dan bwysau.  Fel unigolyn, byddwch chi'n drefnus dros ben ac yn ffynnu wrth weithio mewn amgylchedd cyflym. Gradd o leiaf 2: 1 neu gyfwerth mewn Cyllid, Cyfrifyddu, Cyfrifyddu Rheolaeth neu bwnc cysylltiedig ag Economeg.  

Swyddog Graddedig - Iechyd yr Amgylchedd

Bydd y Swyddog Graddedig yn ymuno ag adran brysur ac arloesol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn drefnus ac yn gallu gweithio dan bwysau. Byddwch chi'n cael cyfle i wneud gwaith ymchwil a phrosiectau yn seiliedig ar waith wrth i chi baratoi eich portffolio o ymarfer proffesiynol, gan weithio tuag at eich Cofrestriad fel Swyddog Iechyd yr Amgylchedd a neu geisio Statws Ymarferydd Iechyd yr Amgylchedd Siartredig. Rhaid meddu ar radd 2:2 neu'n uwch mewn Iechyd yr Amgylchedd neu ddisgyblaeth berthnasol. 

Swyddog Graddedig – Rheoli Contractau Comisiynu

Bydd y Swyddog Graddedig yn frwdfrydig, trefnus iawn ac yn meddu ar y gallu i lunio adroddiadau ysgrifenedig dealladwy a chynhwysfawr. Drwy weithio ar brosiect sy’n cydymffurfio â deddfwriaeth statudol, byddwch chi'n meddu ar lygad craff am fanylder er mwyn darllen a deall dogfennau mawr a manwl iawn yn gywir. Mae gradd o leiaf 2:2 mewn unrhyw ddisgyblaeth yn hanfodol ar gyfer y swydd yma.

Swyddog Graddedig - Effeithlonrwydd Ynni Tai

Y Swyddog Graddedig fydd wyneb cyhoeddus y Garfan Gwresogi ac Arbed gan gysylltu â chymunedau i weithredu Cynllun Cyflawni Tlodi Tanwydd y Cyngor. O'ch penodi, byddwch chi'n unigolyn dymunol, hawdd mynd atoch, sy'n angerddol am leihau tlodi tanwydd a helpu unigolion yn ystod yr argyfwng costau byw. Mae gradd o leiaf 2:2 mewn unrhyw ddisgyblaeth yn hanfodol ar gyfer y swydd yma.

Swyddog Graddedig - Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth (Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles)

Bydd y Swyddog Graddedig yn berson sy'n deall, ac yn meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol am fod ymgysylltu â'r cyhoedd; defnyddwyr gwasanaeth; partneriaid; a rhwydweithiau yn agwedd allweddol ar y swydd. Byddwch chi'n arddangos angerdd i helpu eraill a chynorthwyo unigolion i dyfu a dod yn annibynnol. Mae gradd o leiaf 2:2 mewn unrhyw ddisgyblaeth yn hanfodol ar gyfer y swydd yma.

Swyddog Graddedig - Caffael Data a Seilwaith Storio

Bydd y Swyddog Graddedig yn ymwybodol o'r dulliau caffael data a datrysiadau data diweddaraf. Gan weithio mewn maes technegol iawn sy'n newid yn ac ehangu’n barhaus, byddwch chi'n dangos brwdfrydedd at ddysgu ac addasu i dechnolegau newydd, ynghyd â dealltwriaeth eang o offer presennol BI. Mae gradd o leiaf 2:2 mewn disgyblaeth TGCh / Data yn hanfodol ar gyfer y swydd yma. 

Swyddog Graddedig - Arolygu Eiddo

Bydd y Swyddog Graddedig yn unigolyn cynhyrchiol a threfnus iawn. Bydd modd i chi ddehongli dogfennau deddfwriaeth mawr a chymhleth sy'n defnyddio arddull penodol iawn. Yn rhan o'r rôl, byddwch chi'n drafftio cyfathrebiadau ar ffurf adroddiadau a nodiadau briffio. Felly, bydd gyda chi arddull ysgrifennu clir a chryno. Mae meddu ar radd 2.2 o leiaf, neu gymhwyster tebyg mewn pwnc sy'n berthnasol i dir/eiddo, yn hanfodol.

Amserlen Gwneud Cais

6 Ebrill 2023 – Ceisiadau'n agor

26 Mai 2023 – Ceisiadau'n cau

Mai / Mehefin 2023 – Canolfan asesiadau ar-lein yn cael ei gynnal (os oes angen ar gyfer y swydd)

Mehefin / Gorffennaf 2023 – Cyfweliadau unigol yn cael eu cynnal

4 Medi 2023 – Dechrau gweithio â Chyngor Rhondda Cynon Taf

 


 

 Civil Engineering (Cymraeg)-min

Accountancy (Cymraeg)-min

Environmental Health (Cymraeg)-min

Housing Energy Efficiency (Cymraeg)-min

Information, Advice & Assistance (Cymraeg)-min

Data Acquisition Storage Infrastructure (Cymraeg)-min

Estates Surveying (Cymraeg)-min