Ellie Bartlemore, Swyddog Graddedig - Gwelliannau Digidol

Enw: Ellie Bartlemore

Blwyddyn Dechrau'r Rhaglen i Raddedigion: 2020

Swydd Raddedig: Swyddog Graddedig - Gwelliannau Digidol

Swydd bresennol: Swyddog Sgiliau Digidol, Gweithredu a Galluogi

Maes Astudio: BA Astudiaethau Plentyndod Cynnar a Llythrennedd

Beth oedd uchafbwynt dy gyfnod yn Swyddog Graddedig?

Uchafbwynt bod yn Swyddog Graddedig oedd bod pawb yn fy maes gwasanaeth i, sef TGCh, ynghyd ag Adnoddau Dynol, yn awyddus i fy helpu i i ddatblygu fy nealltwriaeth ymhellach. O ganlyniad i’r gefnogaeth yma llwyddais i ennill cymhwyster uchel ei barch wrth weithio, a chael meithrin perthnasoedd gydag adrannau amrywiol ar hyd y ffordd.

Beth oedd yr her fwyaf i ti ei hwynebu, a sut wnest ti ei goresgyn?

Yr her fwyaf oedd cwblhau'r cymhwyster ochr yn ochr â gweithio swydd lawn amser yn ystod pandemig. Roedd ein hadran ni'n ymwneud â darparu miloedd o ddyfeisiau i aelodau staff er mwyn ddyn nhw weithio gartref, a datblygu sgiliau staff trwy sesiynau rhithwir er mwyn sicrhau eu bod nhw'n gallu defnyddio'r adnoddau digidol. I oresgyn hyn, roeddwn i'n mynychu cyfarfodydd cyson gyda fy rheolwr i sicrhau bod modd i fi drefnu amser bob wythnos i gwblhau rhai o fy aseiniadau. Roeddwn i hefyd yn cael sesiynau un-wrth-un gyda thiwtor fy nghwrs i weithio ar fy aseiniadau. Roedd y sesiynau yma'n fuddiol er mwyn sicrhau fy mod i'n dal i ganolbwyntio ar fy aseiniadau yn hytrach na chanolbwyntio ar fy ngwaith yn unig.

Sut wnaeth y Rhaglen i Raddedigion dy helpu di i gyrraedd lle rwyt ti heddiw?

Cyn dechrau ar y Rhaglen i Raddedigion, roeddwn i wedi bod yn gweithio i'r Awdurdod ers dros flwyddyn. Roedd y rhaglen yn gyfle i ennill cymhwyster Rheoli Prosiectau, datblygu fy sgiliau a meithrin perthnasoedd newydd ar draws y Cyngor. Mae'r wybodaeth sydd gen i ers ymuno â'r rhaglen wedi rhoi sylfaen dda i fi wrth ddatblygu fy ngyrfa ymhellach ac wedi caniatáu i fi gael dyrchafiad a rôl barhaol yn rhan o'r Swyddfa Gwelliannau Digidol.

 

Ellie Bartlemore, Swyddog Graddedig - Gwelliannau DigidolEllie B CYM