Щоб переглянути ці сторінки українською мовою, клацніть на людину в помаранчевому колі, а потім на A у полі та виберіть мову (переглянути відео).

Mae pobl ledled Cymru wedi cael eu brawychu o weld y dinistr yn Wcráin.

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf a'i bartneriaid yn sefyll gyda'i gilydd gyda phobl Wcráin.

Rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi unrhyw un sy'n cyrraedd yr ardal, ac i'w helpu i bontio a setlo yn yr ardal mor ddidrafferth a dibryder ag sy'n bosibl.

Mae pob awdurdod lleol yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, i sicrhau bod ystod lawn o adnoddau a chymorth ar gael i gynorthwyo’r rhai sydd ei angen.

Mae gwybodaeth ar gael isod i'r rhai sy'n cyrraedd y Fwrdeistref Sirol ac i'r rhai a hoffai gefnogi Dinasyddion Wcráin yn ystod y cyfnod brawychus yma. Mae'r gwasanaethau a'r cymorth sydd ar gael i ddinasyddion Wcráin yr un fath â'r rhai mae modd i holl drigolion RhCT gael mynediad atyn nhw. Mae'r tudalennau yma yn dwyn ynghyd a dangos y ffordd at wybodaeth allweddol y gallai fod ei hangen ar y rhai sy'n cyrraedd o Wcráin - megis, sut i gael mynediad at ofal iechyd a chymorth iechyd meddwl lle bo angen, yn ogystal â dolenni ar gyfer gwasanaethau yn y gymuned.