Dychwelyd i'r ysgol – cwestiynau cyffredin

Bwriad y canllaw yma yw cefnogi rhieni a chynhalwyr mewn perthynas â threfniadau gweithredol ysgolion yn Rhondda Cynon Taf.

Mae'r Cwestiynau Cyffredin yma'n cael eu llywio gan ganllawiau Llywodraeth Cymru:

https://llyw.cymru/ysgolion-canllawiau-coronafeirws 

https://llyw.cymru/canllawiau-gweithredol-i-ysgolion-lleoliadau

Gweld cwestiynau cyffredin:

CWESTIYNAU CYFFREDINOL

1. Sut mae risgiau i blant, athrawon a theuluoedd yn cael eu rheoli?

Mae ysgolion yn gweithio gyda'r awdurdod lleol a rhaid iddyn nhw ddilyn canllawiau mesurau rhesymol, sy'n nodi'r gofynion ar gyflogwyr i gynnal asesiadau risg a sicrhau bod mesurau rheoli cymesur yn cael eu gweithredu.  Mae pob ysgol wedi cynnal asesiad risg i fynd i’r afael yn uniongyrchol â risgiau sy’n gysylltiedig â'r Coronafeirws (COVID-19) fel bod modd rhoi mesurau synhwyrol ar waith i leihau’r risgiau hynny i blant, pobl ifainc a staff;

COVID-19 ddim wedi diflannu, a'r mesur pwysicaf i'w gymryd yw sicrhau nad yw pobl sydd â symptomau sy'n aros am ganlyniadau profion PCR neu'r rhai sydd wedi profi'n bositif yn mynychu'r ysgol. Mae lleihau cysylltiadau agos rhwng unigolion yn bwysig o hyd wrth helpu i reoli lledu Coronafeirws (COVID-19), felly, mae ysgolion yn defnyddio ystod o fesurau amddiffynnol i greu amgylcheddau mwy diogel lle mae'r risg o ledaenu'r firws yn llai sylweddol.  Er bod newidiadau o'r fath yn debygol o edrych yn wahanol ym mhob lleoliad, gan y byddan nhw'n dibynnu ar amgylchiadau unigol a lefel y risg, maen nhw i gyd wedi'u cynllunio i leihau'r perygl i blant, staff a'u teuluoedd megis:-

  • Atgoffa'r holl staff a disgyblion i ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer hunanynysu ac ynysu'r aelwyd fel sy'n briodol.
  • Staff a disgyblion i beidio â mynd i'r ysgol os oes ganddyn nhw unrhyw un o symptomau cyffredin COVID-19 (sef peswch parhaus newydd, neu wres neu golli neu newid i'w synnwyr blasu neu arogli).
  • Staff a disgyblion sy'n cael prawf positif am COVID-19 ddim yn mynychu'r ysgol
  • Bydd modd i'r sawl sy'n gysylltiadau agos ag unigolion sydd wedi profi'n bositif ac sy'n gwneud prawf LFT dyddiol fynychu'r ysgol, h.y. Pob un dros 18 oed sydd wedi'u brechu'n llawn (wedi derbyn dau ddos llawn o frechlyn sydd wedi'i gymeradwyo neu un dos o'r brechlyn Janssen) a disgyblion rhwng 5 ac 17 oed sy'n gwneud profion LFT bob dydd am 7 diwrnod (neu nes bod 10 diwrnod wedi bod ers y cyswllt diwethaf gyda’r unigolyn a brofodd yn bositif am COVID-19 os yw hyn yn gynharach). Mae rhaid iddyn nhw wneud prawf LFT os ydyn nhw'n gysylltiadau â rhywun sydd wedi profi’n bositif am COVID-19 (dim ond os bo'r unigolyn wedi derbyn canlyniad prawf LFT positif neu os yw'n datblygu symptomau y mae angen iddo ef/hi hunanynysu).
  • Staff a disgyblion sy'n byw gyda rhywun sydd â symptomau neu sydd wedi cael prawf COVID-19 positif i beidio â mynd i'r ysgol - oni bai eu bod nhw o dan 18 oed neu'u bod nhw wedi cael eu brechu'n llawn. Y cyngor yw i ddisgyblion ysgolion uwchradd sy'n gysylltiadau ag achos positif ar yr aelwyd i gymryd profion PCR ar ddiwrnod 2 a diwrnod 8 a phrofion llif unffordd am 7 diwrnod yn olynol o ddyddiad y person  yn derbyn y canlyniad positif.
  • Disgyblion 5 -17 oed sy'n byw gyda rhywun sydd â symptomau neu sydd wedi cael prawf positif am COVID-19 i beidio mynychu'r ysgol - oni bai eu bod wedi cael prawf PCR negyddol.
  • Staff a disgyblion dros 18 oed sydd wedi'u brechu'n llawn ac sy'n byw gyda rhywun sydd â symptomau neu sydd wedi cael prawf COVID-19 positif i beidio â mynychu''r ysgol - oni bai eu bod nhw wedi cael prawf PCR negyddol.
  • Staff a disgyblion sydd heb eu brechu sy'n 18 oed neu'n hŷn sy'n gyswllt agos â rhywun (yn y cartref neu fel arall) sydd â symptomau neu sydd wedi cael prawf positif am COVID-19 i beidio â mynychu'r ysgol, ond i hunanynysu am 10 diwrnod.
  • Dylai pawb sy wedi dod i gysylltiad ag achos o Omicron neu achos posibl ohono hunanynysu, beth bynnag eu hoedran a ph’un ai ydyn nhw wedi cael brechlyn ai peidio. Bydd y Garfan Tracio, Olrhain, Diogelu yn cadarnhau am faint bydd raid iddyn nhw hunanynysu.
  • Sicrhau golchi dwylo yn rheolaidd, ymbellhau oddi wrth bobl eraill, ac arferion hylendid da eraill trwy hyrwyddo'r dull 'ei ddal, ei daflu, ei ddifa'.
  • Sicrhau awyru digonol trwy agor ffenestri neu addasu systemau awyru.
  • Defnyddio monitorau carbon deuocsid (CO2) a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru i gynorthwyo gyda rheoli awyru.
  • Sicrhau bod staff a disgyblion sy'n datblygu symptomau yn ystod y diwrnod ysgol yn cael eu hanfon adref, yn hunanynysu ac yn trefnu prawf;
  • Annog staff i gynnal pellter corfforol oddi wrth staff eraill.
  • Annog staff i gynnal pellter corfforol oddi wrth ddisgyblion gymaint â phosibl (gan gydnabod efallai na fydd hyn yn bosibl gyda disgyblion iau neu rai disgyblion ag ADY);
  • Cefnogi disgyblion hŷn i gynnal pellter corfforol lle bynnag y bo modd;
  • Sicrhau bod trefniadau glanhau yn briodol.
  • Gwneud defnydd o'r rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu
  • Staff a disgyblion ysgolion uwchradd i wisgo gorchudd wyneb (gweler cwestiwn 10 isod).

2. Oes rhaid i fy mhlentyn i ddod i'r ysgol?

Mae'n ofynnol i bob plentyn fynychu'r ysgol oni bai ei fod yn hunanynysu neu os oes rhesymau dilys eraill dros fod yn absennol.

Dylech chi roi gwybod i ysgol eich plentyn, yn ôl yr arfer, os dydy'ch plentyn ddim yn gallu mynychu fel bod staff yn effro i'r ffaith ei fod yn sâl ac yn gallu trafod y mater gyda chi.

3. A ddylwn i gadw fy mhlentyn gartref os oes ganddo gyflwr iechyd sylfaenol, neu os yw'n byw gyda rhywun mewn grŵp sy'n agored i niwed yn glinigol, neu os ydw i'n bryderus ynghylch fy mhlentyn yn dychwelyd i'r ysgol?

Dylai unrhyw riant sydd â phryderon meddygol am eu plentyn ddilyn cyngor meddygol gan eu meddyg teulu neu ganllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Bydd pob ysgol yn parhau i gynnal asesiadau risg a rhoi camau yn eu lle i leihau risgiau, megis golchi dwylo’n rheolaidd, glanhau arwynebau, a systemau awyru addas.

Mae modd i rieni / cynhalwyr sy'n pryderu am ddisgyblion sydd â ffactorau risg sylweddol drafod eu pryderon gyda'r ysgol a bydd yr ysgol yn esbonio'r mesurau sydd ar waith i leihau'r risg a darparu sicrwydd i bawb.  

Rhaid i ddisgyblion o oedran ysgol gorfodol fynychu'r ysgol oni bai bod rheswm statudol (e.e. disgybl wedi cael caniatâd, salwch, hunanynysu, neu achlysur crefyddol ac ati).

Er mwyn darparu lefel ychwanegol o ddiogelwch i unigolion sydd â risgiau clinigol uwch, rhaid i unrhyw aelod o staff a nodwyd fel cyswllt (cartref neu fel arall) unigolyn sydd wedi cael prawf COVID-19 positif gytuno i gynnal trefn brofi benodol fel sy'n cael ei nodi yn y ddogfen https://llyw.cymru

 

Yn ogystal â hyn, rydyn ni'n annog staff ysgolion arbennig i wneud prawf LFT bob dydd cyn mynd i'r gwaith, waeth beth yw eu statws brechu neu a ydyn nhw wedi cael COVID-19 o’r blaen. Mae profion dyddiol fel hyn yn fwy tebygol o nodi'r bobl hynny a allai fod yn heintus heb ddangos symptomau, cyn iddyn nhw adael y tŷ i fynd i'r gwaith. Bydd hyn yn ei dro yn helpu i amddiffyn plant ac aelodau eraill o staff.

 

Nid yw'n ofynnol i staff sy wedi’u brechu’n llawn sy'n gweithio mewn darpariaeth addysgol arbennig sy'n gysylltiadau ag achos positif COVID-19 hunanynysu, ond dylen nhw barhau i wneud profion LFT dyddiol. Rhaid iddyn nhw gael canlyniad PCR negatif cyn dychwelyd i'r gwaith.

4. Beth yw'r trefniadau ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

Mae dulliau ymarferol a hyblyg yn cael eu hystyried fel rhan o asesiadau risg ysgolion i sicrhau bod anghenion unigol yn cael eu diwallu mewn perthynas â disgyblion ag ADY.

Pan nad oes cyngor yn argymell bod ysgolion yn cynnal grwpiau cyswllt, Er na chynghorir ysgolion i gynnal grwpiau cyswllt o fis Medi ymlaen, efallai y bydd rhai ysgolion am deilwra darpariaeth ar gyfer rhai disgyblion ag ADY o ganlyniad i anghenion iechyd penodol a nodwyd fel rhan o'r broses asesu risg.

Dylai ysgolion barhau i ymgynghori â rhieni a chynhalwyr (gofalwyr) ynghylch anghenion cymorth penodol, a chytuno ar y ffordd ymlaen ar gyfer disgyblion penodol.

ADEILADAU'R YSGOL

5. A fydd cyfleusterau ar gyfer golchi dwylo'n rheolaidd ar gael ar gyfer aelodau o staff a disgyblion?   

Bydd disgyblion a staff yn cael eu hannog i ymolchi neu ddiheintio eu dwylo ar ôl cyrraedd yr ysgol/wrth adael yr ysgol ac yn rheolaidd drwy gydol y dydd, yn enwedig cyn ac ar ôl trafod bwyd, wrth ddefnyddio'r toiledau a phan fydd rhywun yn peswch neu'n tisian.  

Bydd digonedd o sebon dwylo a hylif diheintio dwylo ar gael ym mhob adeilad ysgol.

6. Pa mor aml y caiff ysgolion eu glanhau?

Mae cyfundrefnau glanhau yn briodol ac yn unol â safonau i reoli COVID a chlefydau trosglwyddadwy eraill.  Os bydd y Gwasanaeth Prawf, Olrhain a Diogelu (TTP) yn cynghori bod angen mesurau glanhau ychwanegol mewn unrhyw ysgol, mae'r trefniadau hynny ar waith a byddan nhw'n cael eu cymryd i leihau'r risg o drosglwyddo ymhellach.

7. Beth os bydd rhiant / cynhaliwr (gofalwr) am fynd i adeilad yr ysgol er mwyn siarad ag athro/athrawes?  

Does dim caniatâd i unrhyw riant fod yn adeilad yr ysgol oni bai eu bod wedi trefnu amser ymlaen llaw.  Os bydd angen cyswllt athro/rhiant, dylid gwneud hyn drwy apwyntiad a dylid archwilio'r trefniadau ar gyfer cyfathrebu ar ffurf sain neu fideo yn lle hynny. 

Caiff ymwelwyr allan ddod i'r ysgol trwy apwyntiad a drefnwyd ymlaen llaw yn unig a dylen nhw barchu gofynion diogelwch yr ysgol.

Y DIWRNOD YSGOL

8. Sut mae cysylltiadau'n cael eu hadnabod?

Does dim rhaid ffurfio grwpiau cyswllt (swigod) mwyach. Bydd y system Profi Olrhain Diogelu'n cael ei defnyddio er mwyn nodi cysylltiadau agos â disgyblion sydd wedi profi'n bositif.

Bydd TTP yn siarad â nhw (ar gyfer y rhai dan 16 oed, bydd hyn gyda rhiant / cynhaliwr) i sefydlu eu grŵp cyfeillgarwch agos, y lleoliadau y maen nhw wedi bod iddyn nhw, gan gynnwys lleoliadau cymdeithasol, clybiau chwaraeon ac ar ôl ysgol a chludiant yn ystod eu cyfnod heintus a chyda phwy arall y gallen nhw fod wedi bod mewn cysylltiad.  Efallai y bydd angen i TTP hefyd gysylltu â'r ysgol i gael rhai manylion cyswllt.

9. Beth yw'r gofynion ar gyfer gwisgo gorchuddion wyneb?

Y cyngor gan Lywodraeth Cymru yw:-

  • Dylai staff ac ymwelwyr wisgo gorchuddion wyneb wrth symud o gwmpas ardaloedd cymunedol dan do y tu allan i’r ystafell ddosbarth, megis coridorau, lle nad oes modd cadw pellter corfforol (oni bai eu bod nhw wedi’u heithrio)
  • Dylai staff ac ymwelwyr, a dysgwyr oed uwchradd,wisgo gorchuddion wyneb wrth symud o gwmpas ardaloedd cymunedol dan do y tu allan i’r ystafell ddosbarth, megis coridorau, lle nad oes modd cadw pellter corfforol (oni bai eu bod nhw wedi’u heithrio)

Rhaid i ddisgyblion ysgolion uwchradd barhau i wisgo gorchuddion wyneb wrth deithio ar gludiant ysgol pwrpasol a rhaid i ddisgyblion 11 oed neu'n hŷn eu gwisgo wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

10. Ydy hi'n ofynnol i ddisgyblion/myfyrwyr ym Mlynyddoedd 7-13 gymryd profion llif unffordd (LFTs) yn rheolaidd?

Mae disgwyl y dylai staff ysgolion cynradd, a staff a disgyblion ysgolion uwchradd a cholegau sydd ddim yn dangos symptomau barhau i wneud profion llif unffordd cyflym yn rheolaidd, fel bod modd dod o hyd i unrhyw un sy’n cario’r feirws yn ddiarwybod cyn gynted â phosibl. Bellach, mae rhaid ichi wneud dau brawf llif unffordd yr wythnos. Dylech wneud y profion hyn, ar ddydd Llun a dydd Iau, yn y bore cyn mynd i’r ysgol, a nodi’r canlyniadau ar-lein.

Dylai unrhyw un sydd â chanlyniad prawf llif unffordd positif hunanynysu am 7 diwrnod. Nid y cyngor mwyach yw cael prawf PCR dilynol i gadarnhau'r canlyniad, oni bai eu bod mewn grŵp sy'n agored i niwed yn glinigol.  Ar ddiwrnod chwech o hunanynysu, dylen nhw gymryd prawf llif unffordd a phrawf arall 24 awr yn ddiweddarach. Os yw'r ddau ganlyniad yn negyddol, mae'n debygol eu bod nhw ddim yn heintus a chân nhw ddod â'u cyfnod hunanynysu i ben a dychwelyd i'r ysgol os ydyn nhw'n teimlo'n iawn.   Fodd bynnag, os yw'r naill neu'r llall o'r profion a gafodd eu cymryd ar ddiwrnod chwech neu saith yn bositif, dylen nhw hunanynysu o hyd a pheidio â dychwelyd i'r ysgol nes eu bod wedi cael dau brawf llif unffordd negyddol neu nes eu bod wedi hunanynysu am 10 diwrnod - pa un bynnag sydd gyntaf.

Mae unrhyw un sydd wedi cael canlyniad prawf coronafeirws positif dros 90 diwrnod yn ôl yn cael eu hannog i gymryd rhan yn y profion LFT cyson uchod.

Dylai unrhyw un sydd â chanlyniad prawf llif unffordd positif hunanynysu am 5 diwrnod. (Diwrnod 1 yw'r diwrnod yn syth ar ôl prawf positif neu ar ôl iddyn nhw ddatblygu symptomau).  Nid y cyngor mwyach yw cael prawf PCR dilynol i gadarnhau'r canlyniad, oni bai eu bod mewn grŵp sy'n agored i niwed yn glinigol.  (Sylwer: Dylai unrhyw un â symptomau gael prawf PCR, NID gwneud prawf llif unffordd). 

Dylid rhoi gwybod am ganlyniad pob prawf llif unffordd i www.gov.uk/report-covid19-result.

Caiff unigolion roi'r gorau i hunanynysu ar ôl 5 diwrnod (h.y. ar ddiwrnod 6 y cyfnod hunanynysu).  Ar ddiwrnod 5 y cyfnod hunanynysu, dylen nhw gymryd prawf llif unffordd a phrawf arall 24 awr yn ddiweddarach.  Os yw'r ddau ganlyniad yn negyddol, mae'n debygol eu bod nhw ddim yn heintus a chân nhw ddod â'u cyfnod hunanynysu i ben a dychwelyd i'r ysgol os ydyn nhw'n teimlo'n iawn.

Fodd bynnag, os yw’r naill brawf neu’r llall ar ddiwrnod 5 neu 6 yn bositif, dylen nhw barhau i hunanynysu a gwneud prawf arall y diwrnod canlynol. Dylen nhw barhau i hunanynysu a pheidio â dychwelyd i’r ysgol nes eu bod wedi cael dau brawf llif unffordd negyddol (24 awr rhwng y naill brawf a'r llall) neu ar ddiwrnod 10 – pa un bynnag sy gyntaf. Does dim angen i unigolion gymryd prawf llif unffordd ar ddiwrnod 10, cyn rhoi'r gorau i hunanynysu, fodd bynnag, os oes gyda nhw dymheredd uchel o hyd, dylen nhw barhau i hunanynysu nes bod eu tymheredd yn normal.

NODWCH – Newidiodd safbwynt Llywodraeth Cymru ar hunanynysu ar gyfer cysylltiadau ag achosion positif COVID-19 ar 22 Rhagfyr 2021. Bydd gofyn i bob un dros 18 oed sydd wedi'u brechu'n llawn (wedi derbyn dau ddos llawn o frechlyn sydd wedi'i gymeradwyo neu un dos o'r brechlyn Janssen) a disgyblion rhwng 5 ac 17 oed wneud profion LFT bob dydd am 7 diwrnod (neu nes bod 10 diwrnod wedi bod ers y cyswllt diwethaf â'r unigolyn a brofodd yn bositif am COVID-19 os yw hyn yn gynharach) os ydyn nhw'n gysylltiadau â rhywun sydd wedi profi'n bositif am COVID-19.

Does dim angen i gyswllt sy'n bodloni'r meini prawf uchod hunanynysu oni bai bod ganddo ganlyniad prawf LFT positif neu os yw'n datblygu symptomau. Dylai'r unigolyn â symptomau drefnu prawf PCR cyn gynted â phosibl. 

Rhaid i gysylltiadau sy'n oedolion heb eu brechu (18 oed a hŷn) hunanynysu am 10 diwrnod a gwneud prawf llif unffordd ar ddiwrnod 2 a diwrnod 8 (mae'r cyfnod hunanynysu o 10 diwrnod yn berthnasol waeth beth fo canlyniad y profion yma). 

Mae mwy o fanylion am hunan-ynysu ar gael trwy: https://llyw.cymru/canllawiau-hunanynysu

11. Sut mae trefniadau gollwng a chasglu plant yn cael eu rheoli yn yr ysgol?

Dylai rhieni / gwarcheidwaid sy'n gollwng / casglu plant gadw pellter oddi wrth deuluoedd eraill lle bynnag y bo modd a rhaid iddyn nhw adael safle'r ysgol ar unwaith a pheidio ag aros o gwmpas.

Afiechydon a phrofion positif COVID-19

12. Beth fydd yn digwydd os bydd achos o'r Coronafeirws (COVID-19) wedi'i gadarnhau yn ysgol neu leoliad gofal fy mhlentyn?

Lle mae plentyn, person ifanc neu aelod o staff yn cael prawf positif, bydd y gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu yn mynd ati i nodi cysylltiadau agos yr aelod o staff / disgybl sydd wedi cael prawf positif, ynghyd â thrafodaethau gyda'r ysgol o ran unrhyw wybodaeth bellach a allai fod gan yr ysgol.

Newidiodd safbwynt Llywodraeth Cymru ar hunanynysu ar gyfer cysylltiadau ag achosion positif COVID-19 ar 22 Rhagfyr 2021. Bydd gofyn i bob un dros 18 oed sydd wedi'u brechu'n llawn (wedi derbyn dau ddos llawn o frechlyn sydd wedi'i gymeradwyo neu un dos o'r brechlyn Janssen) a disgyblion rhwng 5 ac 17 oed wneud profion LFT bob dydd am 7 diwrnod (neu nes bod 10 diwrnod wedi bod ers y cyswllt diwethaf â'r unigolyn a brofodd yn bositif am COVID-19 os yw hyn yn gynharach) os ydyn nhw'n gysylltiadau â rhywun sydd wedi profi'n bositif am COVID-19.

Does dim angen i gyswllt sy'n bodloni'r meini prawf uchod hunanynysu oni bai bod ganddo ganlyniad prawf LFT positif neu os yw'n datblygu symptomau. Dylai'r unigolyn â symptomau drefnu prawf PCR cyn gynted â phosibl. 

Gweler cwestiwn 14 am ragor o wybodaeth.

Fydd y mwyafrif o ddisgyblion yn y dosbarth / lleoliad ddim yn cael eu nodi fel cysylltiadau agos. Yn lle hynny, gall yr ysgol gyhoeddi llythyr cyngor i roi gwybod i rieni / gwarcheidwaid a staff am y sefyllfa a'r hyn y mae angen iddyn nhw ei wneud.

Yn achos disgyblion sydd i'w cyfrif yn gysylltiadau agos â rhywun sydd â phrawf positif, gall y Gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu gynghori'r ysgol i weithredu dull 'rhybuddio a hysbysu' er mwyndiweddaru rhieni / gwarcheidwaid a staff am y sefyllfa a'r hyn y mae angen iddyn nhw ei wneud, yn seiliedig ar gyngor y Gwasanaeth. Bydd y dull 'rhybuddio a hysbysu' yma'n atgyfnerthu negeseuon allweddol am y risg i eraill oherwydd COVID-19 a'r hyn bydd modd ei wneud i leihau'r risg hon – gan gynnwys cymryd LFT am 7 diwrnod; trwy aros yn wyliadwrus am symptomau newydd, bod â throthwy isel ar gyfer ceisio prawf PCR hyd yn oed gyda symptomau ysgafn, ac osgoi cyswllt â theulu a ffrindiau bregus yn y tymor byr (e.e. perthnasau oedrannus, neu'r rhai sydd heb eu brechu, neu'r rhai sydd â risg uwch o haint COVID-19 difrifol).

Efallai y bydd rhai amgylchiadau lle bydd y gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu yn gofyn i gysylltiadau dan 18 oed a'r rheiny sydd wedi'u brechu'n llawn hunanynysu ond bydd y penderfyniad yma'n cael ei wneud pan fo angen diogelu iechyd y cyhoedd yn unig.

Mae mwy o fanylion am hunanynysu ar gael trwy: https://llyw.cymru/canllawiau-hunanynysu

13. Oes modd i ddisgybl fynd i'r ysgol os yw'n gysylltiad agos â rhywun sydd wedi profi'n bositif?

Newidiodd safbwynt Llywodraeth Cymru ar hunanynysu ar gyfer cysylltiadau ag achosion positif COVID-19 ar 22 Rhagfyr 2021:-

Oedolion wedi'u brechu'n llawn (18 a hŷn)

Bydd gofyn i bob un dros 18 oed sydd wedi'u brechu'n llawn (wedi derbyn dau ddos llawn o frechlyn sydd wedi'i gymeradwyo neu un dos o'r brechlyn Janssen) a disgyblion rhwng 5 ac 17 oed wneud profion LFT bob dydd am 7 diwrnod (neu nes bod 10 diwrnod wedi bod ers y cyswllt diwethaf â'r unigolyn a brofodd yn bositif am COVID-19 os yw hyn yn gynharach) os ydyn nhw'n gysylltiadau â rhywun sydd wedi profi'n bositif am COVID-19.

Does dim angen i gyswllt sy'n bodloni'r meini prawf uchod hunanynysu oni bai bod ganddo ganlyniad prawf LFT positif neu os yw'n datblygu symptomau. Yn un o'r achosion hyn, dylai'r unigolyn drefnu prawf PCR cyn gynted â phosibl. 

Disgyblion 5 i 17 oed

Bydd gofyn i bob disgybl rhwng 5 ac 17 oed wneud profion LFT bob dydd am 7 diwrnod (neu nes bod 10 diwrnod ers y cyswllt diwethaf â'r unigolyn a brofodd yn bositif am COVID-19 os yw hyn yn gynharach) os ydyn nhw'n gysylltiad â rhywun sydd wedi profi'n bositif am COVID-19.

Does dim angen i gyswllt sy'n cwrdd â'r meini prawf uchod hunanynysu oni bai bod ganddo ganlyniad prawf LFT positif neu os yw'n datblygu symptomau. Dylai'r unigolyn â symptomau drefnu prawf PCR cyn gynted â phosibl.  

Oedolion heb eu brechu (18+)

Bydd gofyn i unrhyw ddisgybl neu aelod o staff sy'n 18 oed neu'n hŷn ac sydd heb ei frechu'n llawn ac sy'n gyswllt â rhywun sydd wedi profi'n bositif am COVID-19 hunanynysu am 10 diwrnod. Bydd gofyn iddo ef/iddi hi wneud prawf PCR ar ddiwrnod 2 a diwrnod 8.  Rhaid i'r cyswllt sy'n oedolyn heb ei frechu barhau i hunanynysu am gyfnod o 10 diwrnod llawn, waeth unrhyw ganlyniadau profion negatif.

Plant o dan 5 oed

Lle bo plant o dan 5 oed wedi cael eu nodi'n gyswllt agos (cartref neu fel arall), dyw Llywodraeth Cymru bellach ddim yn argymell unrhyw brofion COVID-19 yn fater o drefn oni bai bod meddyg yn eu cyfarwyddo i wneud hynny, neu os yw'r rhieni o'r farn bod prawf yn hollol angenrheidiol ac er budd gorau'r plentyn.   Os yw plentyn o dan 5 oed yn datblygu symptomau ddylen nhw ddim mynychu'r ysgol neu leoliad gofal plant. Dim ond pan fydd eu symptomau wedi mynd neu pan fyddan nhw'n ddigon da i wneud hynny y dylen nhw ddychwelyd i'r ysgol neu'r lleoliad gofal plant. Does dim unrhyw gyfnod ynysu penodol ar gyfer plant o dan 5 oed ac o'r herwydd mae angen dull 'synnwyr cyffredin' o du ysgolion a rhieni.

Dyw profion PCR bellach ddim yn cael eu hargymell yn fater o drefn ar gyfer plant o dan 5 oed gyda symptomau, oni bai bod meddyg yn eu cyfarwyddo i wneud hynny neu os bernir ei fod yn gwbl angenrheidiol ac er budd gorau'r plentyn.  Mae plant o dan 5 oed yn aml yn cael y broses brofi yn gorfforol ac yn drallodus a gall hyn wneud cael sampl yn anodd ac yn drallodus iawn i rieni a gwarcheidwaid. Yn ogystal, dyw plant o dan 5 oed ddim yn lledaenu COVID yn yr un modd ag oedolyn neu yn yr un ffordd ag y mae pobl yn ystyried bod plant ifainc yn lledaenu annwyd a ffliw. Mae gan blant ifainc gyrff bach, ysgyfaint bach a chynhwysedd anadl bach sy'n golygu hyd yn oed os ydyn nhw wedi'u heintio â'r firws fydden nhw ddim yn ei ledaenu i eraill yn yr un modd ag y byddai person ifanc hŷn neu oedolyn.

I grynhoi - os yw plentyn o dan 5 oed ac wedi'i nodi'n gyswllt agos, does dim angen iddo ynysu na chymryd prawf, felly bydd modd iddo barhau i fynd i'r ysgol ar yr amod nad oes ganddo symptomau COVID-19.

Mae'r plentyn eisoes wedi cael COVID-19 ac mae aelod arall o'r cartref yn cael prawf positif am COVID-19 yn ddiweddarach.

Os yw disgybl sy'n gyswllt cartref wedi cael prawf positif am COVID-19 cyn pen 90 diwrnod cyn i'w gyswllt cartref brofi'n bositif, fe'i cynghorir yn gryf i wneud prawf llif unffordd. Os yw'r canlyniad yn negatif, mae modd iddo roi'r gorau i hunanynysu. Os yw canlyniad y prawf yn bositif, dylai hunanynysu am 5 diwrnod. Ar ddiwrnod 5 o hunanynysu, dylen nhw gymryd prawf llif unffordd a phrawf arall 24 awr yn ddiweddarach. Os yw'r ddau ganlyniad yn negyddol, mae'n debygol eu bod nhw ddim yn heintus a chân nhw ddod â'u cyfnod hunanynysu i ben a dychwelyd i'r ysgol os ydyn nhw'n teimlo'n iawn. Fodd bynnag, os yw'r naill neu'r llall o'r profion a gafodd eu cymryd ar ddiwrnod 5 neu 6 yn bositif, dylen nhw hunanynysu o hyd a pheidio â dychwelyd i'r ysgol nes eu bod wedi cael dau brawf llif unffordd negyddol (24 awr rhwng y naill brawf a’r llall) neu nes eu bod wedi hunanynysu am 10 diwrnod – pa un bynnag sydd gyntaf.

Plentyn sydd eisoes wedi cael prawf positif am COVID-19 yn arddangos symptomau eto

Os yw plentyn/aelod o staff wedi cael prawf positif yn ystod y 90 diwrnod diwethaf ond mae wedi datblygu symptomau newydd, dylai hunanynysu a chymryd prawf PCR, oherwydd gallai'r rhain fod yn symptomau haint newydd.

Os yw plentyn neu aelod o staff yn profi'n bositif am COVID-19 ar brawf llif unffordd neu PCR, neu os oes ganddo unrhyw un o'r symptomau COVID-19 dylai hunanynysu a pheidio â mynychu'r ysgol.

14. Pryd dylwn i beidio ag anfon fy mhlentyn i'r ysgol?   Er enghraifft, os oes ganddyn nhw wres uchel.

Dylai pob unigolyn aros gartref a dylai'r rheini sy'n 5 oed neu'n hŷn gael prawf PCR os:

  • mae ganddyn nhw unrhyw un o dri symptom COVID-19 (peswch parhaus, twymyn neu dymheredd/gwres uchel, colli, neu newid i'w synhwyrau arogli neu flasu)
  • oes ganddyn nhw aelod o'r cartref sydd â symptomau neu sydd wedi cael prawf positif am COVID-19.

Bydd angen i unigolion sy’n cael canlyniad prawf positif hunanynysu am gyfnod o 5 diwrnod. Bydd angen i unrhyw gysylltiadau agos gael prawf fel sydd wedi’i nodi yng nghwestiwn 14 uchod.

Dylai unrhyw un sydd â chanlyniad prawf llif unffordd positif hunanynysu am 5 diwrnod. (Diwrnod 1 yw'r diwrnod yn syth ar ôl prawf positif neu ar ôl iddyn nhw ddatblygu symptomau).  Nid y cyngor mwyach yw cael prawf PCR dilynol i gadarnhau'r canlyniad, oni bai eu bod mewn grŵp sy'n agored i niwed yn glinigol.  (Sylwer: Dylai unrhyw un â symptomau gael prawf PCR, NID gwneud prawf llif unffordd). 

Dylid rhoi gwybod am ganlyniad pob prawf llif unffordd i www.gov.uk/report-covid19-result.

Caiff unigolion roi'r gorau i hunanynysu ar ôl 5 diwrnod (h.y. ar ddiwrnod 6 y cyfnod hunanynysu).  Ar ddiwrnod 5 y cyfnod hunanynysu, dylen nhw gymryd prawf llif unffordd a phrawf arall 24 awr yn ddiweddarach.  Os yw'r ddau ganlyniad yn negyddol, mae'n debygol eu bod nhw ddim yn heintus a chân nhw ddod â'u cyfnod hunanynysu i ben a dychwelyd i'r ysgol os ydyn nhw'n teimlo'n iawn.

Fodd bynnag, os yw’r naill brawf neu’r llall ar ddiwrnod 5 neu 6 yn bositif, dylen nhw barhau i hunanynysu a gwneud prawf arall y diwrnod canlynol. Dylen nhw barhau i hunanynysu a pheidio â dychwelyd i’r ysgol nes eu bod wedi cael dau brawf llif unffordd negyddol (24 awr rhwng y naill brawf a'r llall) neu ar ddiwrnod 10 – pa un bynnag sy gyntaf. Does dim angen i unigolion gymryd prawf llif unffordd ar ddiwrnod 10, cyn rhoi'r gorau i hunanynysu, fodd bynnag, os oes gyda nhw dymheredd uchel o hyd, dylen nhw barhau i hunanynysu nes bod eu tymheredd yn normal.

Yn amlwg, ddylai plant â dolur rhydd a / neu chwydu ddim mynd i'r ysgol / lleoliad nes eu bod yn rhydd o symptomau am 48 awr, hyd yn oed os yw canlyniad eu prawf COVID-19 yn negyddol.

ARLWYO

15. Ydy clybiau brecwast yn gweithredu?

Bydd clybau brecwast yn gweithredu yn ôl yr arfer o ddechrau mis Medi 2021. Os bydd newid i lefelau risg yn lleol neu’n genedlaethol sy’n gofyn am newid yn y niferoedd, byddwn ni’n rhoi gwybod cyn gynted ag y bo modd.

16.   Beth fydd y trefniadau ar gyfer amser cinio?

Bydd ceginau ar agor yn llawn a bydd bwyd ar gael i'r holl ddisgyblion sydd ei eisiau, gan gynnwys y rheiny sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim.

17.   A fydd taliadau BACS yn cael eu gwneud i ddisgyblion sy'n hunan-ynysu?

Dim ond ar gyfer disgyblion cymwys sy'n hunanynysu oherwydd COVID-19 y bydd taliadau BACS yn cael eu gwneud. Mae Cofrestrau Ysgol yn cael eu defnyddio i nodi disgyblion cymwys y mae'n ofynnol iddyn nhw 'hunanynysu', a bydd cymorth Prydau Ysgol Am Ddim o £3.90 y dydd yn cael ei dalu i gyfrifon banc drwy System Glirio Awtomataidd y Banciau (‘BACS’).

Gwyliau'r ysgol

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi sicrhau bod cyllid ar gael ar gyfradd o £19.50 yr wythnos (£3.90 y dydd) i bob disgybl i sicrhau bod darpariaeth prydau ysgol am ddim ar gael yn ystod gwyliau'r ysgol tan fis Medi 2022. Yn unol â hynny, bydd taliadau BACS yn parhau i gael eu gwneud trwy gydol cyfnodau gwyliau'r ysgol hyd at ddiwedd gwyliau’r haf 2022. Dyma estyniad tymor byr yn rhan o ymateb parhaus Llywodraeth Cymru i Covid-19 a’r argyfwng costau byw, a bydd y cynnig yma’n dod i ben ar ddiwedd gwyliau haf 2022.

Os ydych chi wedi derbyn taliad nad ydych chi'n gymwys i'w dderbyn, bydd angen i chi ei dalu yn ôl i'r Cyngor.

18. A fydd dŵr ar gael yn ystod y dydd?

Dylai pob disgybl ddod â photeli dŵr wedi'u llenwi i'r ysgol y mae modd iddyn nhw eu hail-lenwi yn ystod y dydd.    Bydd y weithred o ail-lenwi poteli dŵr yn cael ei rheoli a'i goruchwylio gan yr ysgol er mwyn sicrhau bod dŵr ar gael i'r rheiny sydd ei angen neu sy'n gofyn amdano.

CLUDIANT 

19. Fydd trafnidiaeth ysgol yn gweithredu?

Mae'r Cyngor yn cynnal ei wasanaethau cludiant pwrpasol i'r ysgol ar gyfer disgyblion sydd â hawl iddo, yn unol ag arweiniad Llywodraeth Cymru.

20. Does dim hawl gyda fy mhlentyn i gludiant am ddim, ga i dalu am sedd?

Dim ond nifer fach o seddi fydd ar gael i'w prynu, wrth i ni weithredu'r mesurau cadw pellter sydd eu hangen rhwng y gyrrwr/cynorthwy-ydd teithio a'r disgyblion ar y cerbyd.  Mae'n debygol y bydd rhai ysgolion lle nad oes seddi ar gael i'w prynu.

Dechreuodd y cyfnod cyflwyno cais ddydd Llun 26 Gorffennaf 2021.  Bydd angen i chi gyflwyno cais i brynu sedd drwy lenwi ffurflen gais ar-lein ar wefan y Cyngor: https://www.rctcbc.gov.uk/CY/Resident/ParkingRoadsandTravel/Travel/SchoolandCollegeTransport/Schoolbuspasses/Schoolbuspassesandsaleofspareseats.aspx neu drwy ffonio Gwasanaethau i Gwsmeriaid ar 01443 425001.

21. Oes disgwyl i'm plentyn wisgo gorchudd wyneb ar gludiant ysgol?

Rhaid i ddisgyblion ysgolion uwchradd wisgo gorchuddion wyneb ar gludiant ysgol Rhondda Cynon Taf. Ond nid i ddisodli arferion hylendid da mohonyn nhw.  Bydd y mesur yma yn lleihau’r risg o ledaenu’r feirws, ond bydd yn yr un peth yn wir yn achos annwyd a ffliw cyffredin.

Rhaid i ddisgyblion sy’n mynd i’r ysgol neu’r coleg ar drafnidiaeth gyhoeddus wisgo gorchudd wyneb 3 haen ar gyfarwyddyd Llywodraeth Cymru.  Dyma ragor o fanylion https://trc.cymru/gwybodaeth/teithwyr/teithion-saffach/cludiant-ysgol 

Ddylai disgyblion ddim cyffwrdd â blaen eu wyneb yn ystod eu defnyddio neu wrth eu tynnu.   Rhaid golchi dwylo wrth gyrraedd yr ysgol neu gartref a rhoi gorchuddion untro mewn bin neu roi gorchuddion mae modd eu hailddefnyddio mewn bag plastig ar gyfer golchi.   

Cofiwch y bydd gwrthod cydymffurfio â’r gofyniad yma yn arwain at beryglu lle eich plentyn ar gludiant ysgol. Bydden ni'n ddiolchgar pe byddech chi'n siarad â'ch plentyn am hyn gan bwysleisio pwysigrwydd dilyn y rheolau. Os oes cyflwr meddygol ar eich plentyn neu mae ganddo/ganddi broblem iechyd, nam neu anabledd a fyddai'n ei gwneud hi'n anodd gwisgo gorchudd wyneb, rhowch wybod i staff yr ysgol cyn gynted â phosibl.

22. Pa ragofalon eraill mae rhaid eu cymryd wrth deithio?

Gofynnwn i rieni a chynhalwyr helpu i esbonio i ddisgyblion bwysigrwydd hylendid da, gan y bydd rhain yn chwarae rhan allweddol wrth gadw pawb yn ddiogel.

Mae hyn yn golygu y dylech chi gymryd y rhagofalon canlynol:

  • Osgoi teithio os oes gan eich plentyn unrhyw un o'r pedwar symptom COVID-19 a nodwyd (peswch parhaus newydd, tymheredd/gwres uchel neu golli blas neu arogl);
  • Peidiwch â theithio os ydy’ch plentyn yn hunan-ynysu ar gais y Gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu neu mewn cwarantîn ar ôl bod mewn gwlad sydd wedi’i nodi gan Swyddfa’r Gymanwlad a Thramor,
  • golchwch eich dwylo am o leiaf 20 eiliad neu glanhewch eich dwylo cyn gadael y tŷ;
  • defnyddiwch hylif glanhau dwylo sydd ar gael cyn mynd i mewn i’r cerbyd,
  • peidiwch â gwneud cyswllt corfforol ag eraill;
  • bydd ffenestri ar agor er mwyn awyru lle bo'n bosibl;
  • wynebwch i'r cyfeiriad arall – i ffwrdd oddi wrth bobl eraill wrth ddefnyddio'r cludiant;
  • osgowch gyffwrdd ag arwynebau fel rheiliau llaw a silffoedd ffenestri;
  • peidiwch â chyffwrdd â'ch wyneb
  • peidiwch â bwyta nac yfed wrth ddefnyddio cludiant;
  • golchwch eich dwylo am o leiaf 20 eiliad neu glanhewch eich dwylo cyn gadael yr ysgol.

Nodwch y gallai gwrthod â chydymffurfio â gofynion iechyd a diogelwch, hylendid da a rheolau cadw pellter cymdeithasol beryglu lle eich plentyn ar gludiant i'r ysgol. Bydden ni'n ddiolchgar pe byddech chi'n siarad â'ch plentyn am hyn gan bwysleisio pwysigrwydd dilyn y rheolau.

23. Sut byddwch chi’n sicrhau na fydd cludiant yn orlawn?

Dim ond teithwyr sydd wedi’u henwi gyda chaniatâd i deithio neu’r rheiny sydd â chardiau teithio i’r ysgol uwchradd ar gyfer y llwybr hwnnw fydd yn cael defnyddio cludiant.    Bydd gan yrwyr restr o ddisgyblion ysgolion cynradd i’w teithio yn eu cerbyd nhw.  Bydd ‘Dim Tocyn, Dim Teithio’ yn cael ei gymhwyso’n llym ar gludiant ysgolion uwchradd, a fydd y rheiny heb hawl i deithio yn cael eu gwrthod.

YMWELIADAU ADDYSGOL A GWEITHGAREDDAU CHWARAEO

24. Fydd ymweliadau addysgol yn cael eu cynnal?

Dylai ysgolion sy'n awyddus i drefnu unrhyw fathau o ymweliadau addysgol barhau i gynnal y prosesau asesu risg arferol wrth drefnu. Bydd yr asesiad risg yn cynnwys trefniadau ar gyfer aelod o'r grŵp (disgybl neu aelod o staff) sy'n datblygu symptomau COVID-19 yn ystod yr ymweliad.

25. Fydd modd cynnal gemau chwaraeon rhwng ysgolion?

Bellach mae modd cwrdd dan do ac yn yr awyr agored mewn modd rheoledig.  Mae hyn yn cynnwys gemau chwaraeon tîm.

Os yw ysgol yn ystyried trefnu gemau chwaraeon, bydd angen rhoi sylw i'r trefniadau yma yn yr asesiadau risg perthnasol a'ch bod chi'n cymryd pob mesur rhesymol i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â Covid-19.

26. Oes modd cynnal gwersi Addysg Gorfforol ymarferol?

Mae gan ysgolion hyblygrwydd i benderfynu sut y darperir addysg gorfforol, chwaraeon a gweithgareddau corfforol, gan weithio o fewn y mesurau sydd ar waith yn yr ysgol. Dylid blaenoriaethu gweithgareddau yn yr awyr agored lle bynnag y bo modd.

ARHOLIADAU

27. Beth yw’r trefniadau ar gyfer arholiadau yn 2022?

Cafodd arholiadau mis Ionawr eu cynnal yn unol â´r amserlen, a hynny er mwyn rhoi cyfle i’r dysgwyr hynny oedd wedi paratoi ar gyfer arholiadau eu sefyll.

Bydd modd i’r dysgwyr hynny oedd yn sâl neu’n hunanynysu neu’n teimlo nad oedd modd iddyn nhw sefyll yr arholiadau ym mis Ionawr fanteisio ar y cyfle i sefyll yr arholiadau hynny yn yr haf.

Mae arholiadau mis Ionawr wedi'u hamserlennu o  11 tan 25 Ionawr ac mae'n cynnwys cymwysterau cyffredinol a galwedigaethol.

Mae Cymwysterau Cymru wedi cadarnhau y bydd arholiadau mis Ionawr yn rhedeg yn ôl yr amserlen er mwyn rhoi cyfle i ddisgyblion sydd wedi bod yn paratoi sefyll eu harholiadau.

Bydd disgyblion sy'n sâl, yn hunanynysu neu'n teimlo na allant sefyll eu harholiadau arferol ym mis Ionawr yn cael y cyfle i sefyll yr arholiadau yma yn yr haf.

Mae’r gofynion asesu ar gyfer arholiadau 2022 wedi’u haddasu i gymryd i ystyriaeth yr aflonyddwch a achoswyd gan y pandemig yn ystod 2020/2021.

Yn ystod tymhorau’r gwanwyn a’r haf, bydd CBAC, Cymwysterau Cymru a Llywodraeth Cymru yn cyfathrebu â’i gilydd i roi rhagor o wybodaeth i ddisgyblion am yr hyn i’w ddisgwyl o broses arholiadau 2022.

Mae’r wybodaeth ddiweddaraf ar gael drwy:

https://www.cbac.co.uk/home/2022-popeth-y-mae-angen-i-chi-ei-wybod/

https://qualificationswales.org/cymraeg/trefniadau-asesu-20212022/

Mae Cymwysterau Cymru hefyd wedi datblygu Cwestiynau cyffredin sy'n rhoi rhagor o wybodaeth.

28. Beth os yw fy mhlentyn yn cael ei nodi fel cyswllt ond mae ganddo/ganddi arholiad?

Os yw disgybl rhwng 5 a 17 neu 18 oed a hŷn ac wedi'i frechu'n llawn, a'i fod wedi'i nodi fel cyswllt â rhywun sydd wedi profi'n bositif am y coronafeirws, dylai gymryd profion llif unffordd am 7 diwrnod. Os yw canlyniad y prawf yn bositif, dylai hunanynysu fel y nodir yn y canllawiau cenedlaethol.

Dylai unrhyw un sy'n datblygu symptomau drefnu cael prawf PCR cyn gynted â phosibl.

Yn y naill achos neu’r llall, os ydych chi'n credu bod modd i hyn effeithio ar allu'ch plentyn i sefyll arholiad, cysylltwch ag ysgol neu goleg eich plentyn i wneud y trefniadau angenrheidiol.