Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod cyllid ar gael i gefnogi'r sector gofal plant yn RhCT wrth iddyn nhw ymdopi â’r heriau sydd wedi dod i law yn sgil pandemig COVID-19.
Diben y grant yw:
A. Cefnogi lleoliadau sy'n gorfod cau'n llawn neu'n rhannol oherwydd achosion positif o COVID-19 neu oherwydd eu bod wedi derbyn cyfarwyddyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru/Profi, Olrhain, Diogelu. Mae modd gwneud ceisiadau am unrhyw gyfnod o gau'n llwyr neu'n rhannol a fu o 14 Medi 2020 ymlaen. Mae modd gwneud cais am y grant yma hyd at 3 gwaith.
B. Talu costau uwch sy'n gysylltiedig â COVID-19, megis costau gwresogi, glanhau neu wisgoedd newydd neu gostau sy'n gysylltiedig ag eiddo oherwydd nad oes modd i leoliadau agor na gweithredu hyd eithaf eu gallu.
C. Darparu cefnogaeth ariannol i leoliadau gofal plant sy'n profi caledi ariannol difrifol oherwydd COVID-19 a lle nad oes cyllid cyhoeddus arall ar gael i dalu'r costau hynny.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau pob adran yw dydd Gwener 26 Chwefror 2021. Mae’n bosibl y bydd y dyddiad cau yn gynt os byddwn ni wedi dyrannu’r holl arian sydd ar gael.
Darllenwch y nodiadau canllaw sydd ynghlwm
Mae dolen i'r ffurflen gais isod:
Mae sawl templed ynghlwm wrth y grant yma, defnyddiwch y templedi yma pan fydd y nodiadau canllaw neu'r ffurflen gais yn gofyn am hynny.
Os oes gyda chi unrhyw ymholiadau ynglŷn â'r grant, e-bostiwch GrantiauGofalPlantRhCT@rhondda-cynon-taf.gov.uk.
Funded Places - CPG Grant(dogfen geiriau)
Resources Funded Items Template - CPG Grant(dogfen geiriau)
Childcare grant Income and Expenditure Form 12 months(dogfen excel)