Skip to main content

Trafferth talu'ch bil?

Mae'r Cyngor yn cydnabod bod nifer o ffactorau megis y pandemig, y rhyfel yn Wcráin a'r Argyfwng Costau Byw wedi effeithio'n sylweddol ar sefyllfa ariannol trigolion ac aelwydydd yn Rhondda Cynon Taf dros y blynyddoedd diwethaf.

Ymhlith yr effeithiau mwyaf y mae’r Cyngor wedi’u hwynebu yn dilyn yr heriau yma yw bod aelwydydd yn cael trafferth talu’u biliautreth y Cyngor ar amser. Mae nifer y bobl sydd mewn dyled treth y Cyngor yn RhCT wedi codi'n flynyddol ers 2020.

Os ydych chi'n cael trafferth talu'ch bil treth y Cyngor, dyma ychydig o gymorth:

Siarad â rhywun - Dydych chi ddim ar ben eich hun ac mae cymorth ar gael. Gall y Cyngor gynnig ambell opsiwn i chi, fel:

  • Talu'ch bil treth y Cyngor dros gyfnod o 12 mis yn lle 10 mis
  • Talu trwy ddebyd uniongyrchol a dewis dyddiad sy'n fwy gyfleus i chi dalu fel nad ydych chi'n anghofio gwneud eich taliadau
  • Talu unrhyw ddyledion sydd gennych dros gyfnod hirach

Cymryd rheolaeth - Mae arbenigwyr dyled yn awgrymu eich bod yn cyfrifo faint o ddyled sydd gennych, i bwy, pa ddyledion yw'r rhai mwyaf brys a faint sydd angen i chi ei dalu bob mis.

Gwiriwch eich bod chi'n cael yr arian iawn. Defnyddiwch y wefan annibynnol MoneyHelper neu gyfrifianellau budd-daliadau sy'n cael ei rhedeg gan Policy in Practice  a'r elusennau Entitledto a Turn2us.

Gofynnwch am egwyl. Os ydych chi'n derbyn cymorth dyled yn Lloegr a Chymru, gallwch chi wneud cais am egwyl talu er mwyn eich amddiffyn rhag llog a chostau ychwanegol am hyd at 60 diwrnod.

Os fydda i ddim yn talu, beth fydd yn digwydd?

Rhybuddion atgoffa a gwŷs

Os nad ydych chi'n talu eich bil treth y Cyngor ar amser, byddwn ni'n anfon rhybudd atgoffa atoch. Os nad ydych chi'n talu'r rhandaliad o fewn saith diwrnod, byddwch chi'n colli'ch hawl i dalu drwy randaliadau. Heb unrhyw hysbysiad neu rybudd pellach, ar ôl cyfnod o saith diwrnod arall, mae'n bosibl y bydden ni'n gofyn i chi dalu'r cyfanswm sy'n ddyledus dros y flwyddyn gyfan yn llawn.

Byddwn ni'n anfon cyfanswm o ddau hysbysiad a rhybudd atgoffa yn unig mewn unrhyw flwyddyn ariannol. Os nad ydych chi'n talu'n llawn yn unol â'r hysbysiad a rhybudd atgoffa, neu os nad ydym ni'n clywed gennych chi, byddwn ni'n anfon gwŷs i ymddangos yn llys a mynd i gostau.

Os ydych chi'n derbyn rhybudd atgoffa, neu wŷs, a'ch bod yn methu â thalu, cysylltwch â ni ar unwaith er mwyn cytuno ar drefniant talu addas.

Gorchymyn Atebolrwydd

Mae gennych chi hawl i fynychu gwrandawiad llys, pryd y byddwn ni'n gwneud cais am Orchymyn Atebolrwydd a fydd yn rhoi pwerau ychwanegol i ni gasglu'r arian sy'n ddyledus. Byddwch chi'n mynd i gostau ychwanegol o gael Gorchymyn Atebolrwydd. Cyfanswm y costau yn sgil hyn fyddai £61.50.

Byddwn ni’n rhoi gwybod i chi os cawn Orchymyn Atebolrwydd ac yn gofyn i chi lenwi ffurflen am eich sefyllfa ariannol. Gall beidio â chwblhau'r ffurflen hon arwain at ddirwy uchaf o £500 gan y Llys Ynadon. Unwaith y byddwn wedi cael Gorchymyn Atebolrwydd, gallwn dynnu swm penodol o'ch cyflog. Os ydych chi'n derbyn Lwfans Ceisio Gwaith (JSA), Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, rydyn ni'n gofyn i'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) i dynnu swm o'ch budd-daliadau.

Nodwch - nid yw'r canlynol yn amddiffyniadau yn erbyn y Gorchymyn Atebolrwydd ac, yn gyffredinol bydd y gorchymyn yn cael ei gymeradwyo os yw'r swm yn ddyledus a heb ei dalu:

  • Does dim digon o arian gyda chi i dalu'r bil treth y Cyngor
  • Rydych chi wedi gwneud cais am Ostyngiad treth y Cyngor, neu ddisgownt neu unrhyw ostyngiad arall ac yn aros i glywed gan y Cyngor
  • Rydych chi wedi cyflwyno apêl ond dydych chi ddim wedi derbyn gan y Cyngor neu Dribiwnlys.

Atafaelu enillion

Os ydych wedi derbyn gorchymyn atafaelu enillion neu os ydych chi’n gyflogwr sydd wedi cael ei ofyn i dynnu swm o enillion gweithiwr.

Casgliad gan Asiant Gorfodi (bailiff yn y gorffennol)

Os yw pob ymdrech arall i gytuno ar drefniant talu yn methu, byddwn ni'n trosglwyddo'r ddyled i Asiantau Gorfodi (EA's) sydd wedi'u cyflogi gan y Cyngor i'w casglu. Byddwch chi'n wynebu costau ychwanegol pan fydd yr Asiantau Gorfodi'n casglu'r ddyled.

Os nad yw’r Asiantau Gorfodi'n llwyddo i gasglu’r ddyled, byddwn yn dechrau achos i'ch gwneud chi'n fethdalwr, neu i osod gorchymyn arwystlo yn erbyn eich eiddo. O ganlyniad i unrhyw un neu rai o'r cyrsiau hyn o weithredu, byddwch chi'n wynebu costau pellach.

Ysgrifennwch at:

Tŷ Oldway
Y Porth
CF39 9ST

Ffôn: 01443 425002
Minicom: 01443 680708