Os oes rhaid i chi fyw mewn eiddo sy'n cael ei ddarparu gan eich cyflogwr, efallai bydd modd i chi gael gostyngiad o 50% ar Dreth y Cyngor.
Mae hyn yn berthnasol os yw'r trethdalwr yn gorfod byw mewn eiddo cyflogwr yn amod o'i gyflogaeth.
Y dystiolaeth sydd ei hangen i chi wneud cais am ostyngiad yw:
- Eich bod yn talu treth y cyngor ar gyfer eiddo arall
- Bod eich cyflogwr wedi darparu'r eiddo yr ydych yn hawlio gostyngiad amdano
- Bod contract eich cyflogaeth yn mynnu i chi i fyw yn yr eiddo yna
Gwneud cais am ostyngiad neu eithriad treth y cyngor ar-lein
Nodwch: Bydd rhaid i chi barhau i dalu eich bil(iau) Treth y Cyngor hyd nes y bydd canlyniad eich cais wedi ei benderfynu. Os bydd hyn yn achosi problemau, ewch i'r dudalen Trafferthion Talu eich Bil
Dileu gostyngiad treth y cyngor sy'n gysylltiedig â swydd ar-lein
Rhaid i chi roi gwybod i'r Cyngor os bydd unrhyw newidiadau i'ch trefniadau byw, amgylchiadau personol, sefyllfa ariannol neu incwm y byddai modd iddyn nhw effeithio ar eich hawl i gael gostyngiad Treth Gyngor.