Skip to main content

Treth y cyngor gostwng bandiau i bobl anabl

Efallai y bydd eich bil yn cael ei leihau os yw oedolyn neu blentyn sy'n anabl yn barhaol yn byw yn yr eiddo.

Bydd rhaid bod gan yr eiddo nodweddion penodol, sy'n hanfodol neu sy'n bwysig ar gyfer lles y person anabl. Dyma'r nodweddion:

  • ystafell sy'n cael ei defnyddio yn bennaf gan y person anabl – heblaw'r ystafell ymolchi, y gegin neu'r tŷ bach (er enghraifft, ystafell ar gyfer cadw offer dialysis)
  • ystafell ymolchi neu gegin ychwanegol ar gyfer y person anabl
  • lle ychwanegol y tu mewn i'r eiddo er mwyn defnyddio cadair olwyn

Wrth ystyried cynnig gostyngiad neu beidio, bydd rhaid i'r Cyngor benderfynu a fyddai hi'n amhosibl, neu'n anodd dros ben, i'r person anabl fyw yn yr eiddo; neu a fyddai iechyd y person anabl yn dioddef; neu a fyddai'r anabledd yn gwaethygu, pe na bai'r nodwedd ychwanegol ar gael yn yr eiddo.

I fod yn gymwys ar gyfer gostyngiad, fydd dim rhaid bod yr ystafell ychwanegol wedi'i hadeiladu'n arbennig. Gall fod yn ystafell sy'n cael ei defnyddio yn benodol ar gyfer y person anabl.

Os bydd eich cartref yn gymwys ar gyfer gostyngiad, bydd eich bil Treth y Cyngor yn cael ei ostwng i'r band prisio union o dan y band sydd i'w weld yn y rhestr brisio.

Er enghraifft,

  • os yw'ch cartref ym mand D, bydd eich bil yn cael ei ostwng i hynny ar gyfer annedd band C.  Gweld manylion Bandio Treth y Cyngor.  (Sylwer: Ni fydd hyn yn effeithio ar werth eich cartref na'i bandio ar y rhestr brisio. Yn yr enghraifft yma, bydd eich eiddo yn dal i fod ym Mand D yn y rhestr brisio.)
  • Pe bai'ch cartref ym mand A (sef y band isaf ar gyfer Treth y Cyngor), byddwn ni'n cynnig gostyngiad sydd gyfwerth â 1/9 o'r tâl ar gyfer eiddo ym mand D.

Os ydych chi'n meddwl eich bod chi'n gymwys ar gyfer gostyngiad, cysylltwch â ni. Byddwn ni'n trefnu bod swyddog y Cyngor yn ymweld â'ch cartref. 

 

Ysgrifennwch at:

Tŷ Oldway
Y Porth
CF39 9ST

Ffôn: 01443 425002
Minicom: 01443 680708